- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Wedi'i wneud
23 Mehefin 2004
Yn dod i rym
30 Mehefin 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth weithredu mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1), yn gwneud y Cynllun canlynol —
1. Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2004, bydd yn gymwys yng Nghymru a daw i rym ar 30 Mehefin 2004.
2. Yn y Cynllun hwn —
ystyr “busnes amaethyddol” (“agricultural business”) yw busnes amaethyddol sy'n cael ei redeg yn rhannol o leiaf ar dir sydd wedi'i leoli mewn parth perygl nitradau;
mae i “slyri” yr un ystyr ag sydd i “slurry” yn rheoliad 2 o Reoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 1991(2);
ystyr “parth perygl nitradau” (“nitrate vulnerable zone”) yw unrhyw ardal a ddynodwyd yn barth perygl nitradau gan baragraff 3B o Reoliadau Diogelu Rhag Llygredd Nitradau (Lloegr a Chymru) 1996(3).
3.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y Cynllun hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi i unrhyw berson un neu fwy o grantiau i gynrychioli 40 y cant o'r gwariant a dynnir gan y person hwnnw at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg, sef gwariant sydd wedi'i dynnu ar ôl 29 Mehefin 2004 ond cyn 31 Hydref 2005 ac —
(a)sy'n wariant mewn perthynas â'r canlynol —
(i)darparu, amnewid neu wella —
(aa)cyfleusterau (gan gynnwys ffensys diogelwch) ar gyfer trafod a storio tail, slyri ac elifiant silwair;
(bb)cyfleusterau gwaredu sefydlog ar gyfer slyri ac elifiant silwair, neu
(cc)cyfleusterau (heblaw toeon) ar gyfer gwahanu dŵr glân a dŵ r brwnt, os yw'r cyfleusterau hynny'n lleihau'r angen i storio slyri; neu
(ii)unrhyw waith, cyfleuster neu drafodyn (gan gynnwys gwaith cadwraeth neu waith hwyluso) o ganlyniad i unrhyw fater y gall grant gael ei dalu mewn perthynas ag ef o dan ddarpariaethau blaenorol y paragraff hwn;
(b)y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o natur cyfalaf neu ei fod wedi'i dynnu mewn cysylltiad â gwariant o natur cyfalaf;
(c)sydd wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion grant o dan y Cynllun hwn; ac
(d)nad yw'n fwy na chyfanswm o £85,000.
(2) Os yw'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bod gwariant y gwneir cais am grant mewn perthynas ag ef o dan is-baragraff (1) i'w dynnu yn rhannol at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg ac yn rhannol at ddibenion eraill, caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin cymaint o'r gwariant hwnnw ag y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ei gyfeirio at redeg y busnes amaethyddol hwnnw fel pe bai wedi'i dynnu at ddibenion rhedeg y busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg.
4.—(1) Os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ystyried cyfanswm nifer y ceisiadau am grantiau a gymeradwywyd neu a dderbyniwyd eisoes, ar unrhyw adeg o'r farn nad yw'r adnoddau ariannol sydd ar gael i dalu grantiau o dan y Cynllun hwn yn ystod unrhyw gyfnod yn ddigonol i fodloni unrhyw daliad yn ystod y cyfnod a fyddai'n ganlyniad cymeradwyo unrhyw gais pellach, caiff, mewn perthynas ag unrhyw gais a ddaeth i law ar ddyddiad ei benderfyniad ond na chafodd ei dderbyn hyn yn hyn, neu unrhyw gais a all ddod i law yn ystod y cyfnod perthnasol —
(a)atal ystyriaeth bellach ar unrhyw gais o'r fath tan yr amser y caiff bennu wedyn; neu
(b)gwrthod unrhyw gais o'r fath heb ystyriaeth bellach.
(2) Rhaid cyhoeddi hysbysiad —
(a)o benderfyniad —
(i)i atal ystyriaeth o unrhyw gais o dan is-baragraff (1)(a), neu
(ii)i wrthod unrhyw gais heb ystyriaeth bellach o dan is-baragraff (1)(b); neu
(b)o derfynu'r cyfnod perthnasol, yn y London Gazette.
(3) Yn is-baragraffau (1) a (2), ystyr “y cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod sy'n dechrau drannoeth ar ôl y dyddiad penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), neu unrhyw ddyddiad wedyn a bennir ganddo mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)(a), ac sy'n diweddu ar y dyddiad y caiff bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)(b).
5. Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â thalu grant o dan is-baragraff (1) o baragraff 3 —
(a)mewn perthynas ag unrhyw fusnes amaethyddol sy'n cael ei redeg yn rhannol o leiaf ar dir sydd wedi'i leoli mewn parth perygl nitradau;
(b)onid yw wedi'i fodloni y bydd y gwariant y mae'r grant i'w thalu tuag ato yn golygu lles amgylcheddol a fydd yn cronni i'r parth perygl nitradau o dan sylw;
(c)onid yw gofynion Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999(4) wedi'u bodloni;
(d)os yw amcan y gwariant, y gwneir y cais am grant mewn perthynas ag ef, yn gynnydd mewn cynhyrchiant na ellir dod o hyd i allfeydd marchnata cyffredin ar ei gyfer; neu
(e)pe byddai'r cyfan neu ran o grant o'r fath yn dyblygu cymorth a ddarperir neu sydd i'w ddarparu o arian gan—
(i)y Gymuned Ewropeaidd;
(ii)y Senedd; neu
(iii)corff sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.
6.—(1) Rhaid i unrhyw gais am grant o dan y Cynllun hwn gael ei wneud ar y ffurf, yn y modd ac erbyn y dyddiad y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu pennu, a rhaid i'r ceisydd o dan sylw roi'r holl fanylion a'r holl wybodaeth ynghylch y cais y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt, gan gynnwys, pan bennir hynny, y dogfennau a'r cofnodion perthnasol.
(2) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi gwybod yn ysgrifenedig i geisydd a yw'r cais yn gymwys neu beidio, ac os nad yw'n gymwys, rhaid iddo roi'r rhesymau.
7.—(1) Dirymir Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001(5) (a ddisodlir gan yr offeryn hwn).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mehefin 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)
Mae'r Cynllun hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn cydymffurfio â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop ac yn benodol Erthyglau 4 i 7 sy'n ymdrin â buddsoddi mewn daliadau amaethyddol.
Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi grantiau mewn perthynas â busnesau amaethyddol sydd wedi'u lleoli mewn parthau perygl nitradau, fel y'u diffinnir gan baragraff 4 o'r Atodlen i Reoliadau Diogelu Dŵ r rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002. Mae'r darpariaethau yn y Rheoliad hwn yn debyg i'r rhai a gynhwyswyd yn y Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Lloegr a Chymru) 1996, ac eithrio bod y meini prawf ar gyfer cymhwyster busnesau amaethyddol wedi newid fel mai'r unig fusnesau amaethyddol sydd bellach yn gymwys ar gyfer grant yw'r rhai a leolir yn y Parthau Perygl Nitradau a ddynodir gan Reoliadau Diogelu Dŵr rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002.
Mae'r grant ar gael yn ôl cyfradd o 40% tuag at wariant (hyd at uchafswm o £85,000) a dynnir gan y busnes amaethyddol rhwng y dyddiad y daw'r Cynllun i rym ar 30 Mehefin 2004 a 31 Hydref 2005 mewn perthynas â chyfleusterau ar gyfer trafod, storio a gwaredu gwastraffoedd fferm penodol a gwahanu dŵ r glân a dŵ r brwnt (paragraff 3).
Gwneir darpariaeth gan baragraff 4 o'r Cynllun ar gyfer ystyried ceisiadau yn ystod cyfnod sydd i'w hatal neu eu gwrthod os nad oes adnoddau ariannol digonol ar gyfer talu grantiau o dan y Cynllun.
Gosodir nifer o gyfyngiadau ar dalu grantiau o dan y Cynllun (paragraff 5).
Penderfynir ar y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am grant gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (paragraff 6).
Dirymir Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae copïau ar gael oddi wrth yr Is-adran Datblygu Bwyd a Ffermio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1970 p.40. Gweler adran 28 ar gyfer y diffiniad o “the appropriate authority”. O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymru) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2(a) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau o Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 29 o'r Ddeddf Amaethyddol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
O.S. 1991/324, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/324.
OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.80.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: