Search Legislation

Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004

 Help about what version

What Version

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 18

ATODLEN 4CYNIGION O DAN BARAGRAFF 43(4) O ATODLEN 7

1.  Yn yr Atodlen hon —

ystyr “y cynigion gwreiddiol” (“the original proposals”) yw'r cynigion a gymeradwywyd o dan Ran III o Atodlen 7 y mae'r cynigion newydd yn ymwneud â hwy; ac

ystyr “y cynigion newydd” (“the new proposals”) yw'r cynigion hynny a grybwyllir ym mharagraff 43(4) o Atodlen 7.

2.  Rhaid i'r cynigion newydd —

(a)pan fydd yr ysgol yn ysgol brif ffrwd gael eu cyhoeddi —

(i)drwy gael eu gosod mewn man amlwg yn yr ardal y mae'r ysgol yn ei gwasanaethu;

(ii)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno; a

(iii)drwy gael eu gosod ym mhrif fynedfa'r ysgol neu wrth ei hymyl, neu os oes mwy nag un brif fynedfa, pob un ohonynt.

(b)pan fydd yr ysgol yn ysgol arbennig gael eu cyhoeddi —

(i)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol; a

(ii)drwy gael eu gosod ym mhrif fynedfa'r ysgol neu wrth ei hymyl, neu os oes mwy nag un brif fynedfa, pob un ohonynt.

3.  Rhaid i'r cynigion newydd gynnwys —

(a)yr wybodaeth a gynhwyswyd yn y cynigion gwreiddiol, a

(b)datganiad paham y bwriedir na ddylid gweithredu'r cynigion gwreiddiol.

4.  Cyn cyhoeddi'r cynigion newydd rhaid i'r Cyngor, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol, ymgynghori â'r personau hynny y maent o'r farn eu bod yn briodol.

5.  Rhaid i'r Cyngor anfon at y Cynulliad Cenedlaethol —

(a)copi o'r cynigion newydd a gyhoeddwyd;

(b)copi o'r wybodaeth a anfonir at y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff 21(1)(b) neu 29(1)(b) o Atodlen 7 a rheoliad 13 pan gyhoeddwyd y cynigion gwreiddiol; ac

(c)yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 13 a fyddai'n gymwys pe bai'r cynigion gwreiddiol wedi'u cyhoeddi pan gyhoeddwyd y cynigion newydd.

6.  Pan fydd yr ysgol sy'n destun y cynigion newydd yn ysgol arbennig rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r cynigion newydd a gyhoeddwyd at y cyrff neu'r personau yr anfonwyd copi o'r cynigion gwreiddiol atynt o dan baragraffau 21(2) a 29(2) o Atodlen 7 a rheoliad 14.

7.  Caiff unrhyw berson anfon gwrthwynebiadau i'r cynigion newydd at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn mis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r cynigion.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources