Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 7(4)

ATODLEN 3GWYBODAETH AM DDISGYBLION YN YR YSGOL

Disgyblion yn y cyfnod allweddol cyntaf

1.—(1At ddibenion y paragraff hwn mae cyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad sydd bythefnos o flaen diwrnod ysgol olaf tymor yr haf.

(2Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhynciau'r Gymraeg neu Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, fel y penderfynwyd yn ôl asesiad athrawon.

(3Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf sy'n gweithio tuag at lefel 1 ym mhob un o'r pynciau fel y penderfynwyd arnynt felly.

(4Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf sy'n esempt o bob un o'r pynciau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2).

Disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol

2.—(1At ddibenion y paragraff hwn mae cyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad sydd bythefnos o flaen diwrnod ysgol olaf tymor yr haf.

(2Canrannau disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob un o'r pynciau perthnasol a ddangoswyd fel y penderfynwyd yn ôl asesiad athrawon a (lle bo'n gymwys) gan brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol.

(3Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol sy'n gweithio tuag at lefel 1 ym mhob un o'r pynciau perthnasol fel y penderfynwyd arnynt felly.

(4Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol sy'n esempt o bob un o'r pynciau perthnasol.

(5Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol na roddwyd eu henwau ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) oblegid, o dan yr asesiadau statudol, nad oedd angen rhoi'r prawf y Cwricwlwm Cenedlaethol hwnnw i'r disgyblion hynny.

(6Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol a oedd yn absennol ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) (heb gynnwys disgyblion sy'n dod o fewn is-baragraff (4) neu (5)).

Disgyblion yn y trydydd cyfnod allweddol

3.—(1At ddibenion y paragraff hwn mae cyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad sydd bythefnos o flaen diwrnod ysgol olaf tymor yr haf.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob un o'r pynciau perthnasol a ddangoswyd fel y penderfynwyd yn ôl asesiad athrawon a (lle bo'n gymwys) gan brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol.

(3Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol sy'n gweithio tuag at lefel 1 ym mhob un o'r pynciau perthnasol fel y penderfynwyd arnynt felly.

(4Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol sy'n esempt o bob un o'r pynciau perthnasol.

(5Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol na roddwyd eu henwau ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) oblegid, o dan yr asesiadau statudol, nad oedd angen rhoi'r prawf y Cwricwlwm Cenedlaethol hwnnw i'r disgyblion hynny.

(6Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol a oedd yn absennol ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) (heb gynnwys disgyblion sy'n dod o fewn is-baragraff (4) neu (5)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources