Search Legislation

Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN VIHAWLIAU MYNEDIAD A CHAEL GAFAEL AR WYBODAETH

Hawliau mynediad

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, caiff personau sydd ag awdurdod ysgrifenedig y Comisiwn, ar unrhyw adeg resymol, fynd i mewn ac archwilio safleoedd perthnasol at ddibenion cynnal adolygiadau llywodraethu clinigol, adolygiadau cyffredinol neu ymchwiliadau.

(2Rhaid rhoi tystiolaeth ysgrifenedig i bob person a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) o awdurdod y person hwnnw ac, wrth wneud cais am fynediad i safle perthnasol at y dibenion a bennir ym mharagraff (1), bydd yn rhaid iddo, ar gais meddiannydd y safle neu berson sy'n gweithredu ar ei ran, ddangos y dystiolaeth honno.

(3Rhaid i berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) beidio â hawlio mynediad i safle perthnasol os nad yw'r person neu'r corff sy'n berchen ar y safle, neu sy'n ei reoli, wedi cael hysbysiad rhesymol o'r bwriad i geisio mynediad.

(4Ni chaiff neb a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) fynd i mewn i unrhyw safle neu ran o safle a ddefnyddir yn llety preswyl i bersonau a gyflogir gan unrhyw berson neu gorff, heb yn gyntaf gael caniatâd y personau sy'n preswylio yn y llety hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i reoliad 19, caiff person a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) i fynd i mewn i safle perthnasol o dan y rheoliad hwn, arolygu a chymryd copïau o unrhyw ddogfennau —

(a)y mae'n ymddangos iddo fod eu hangen at ddibenion yr adolygiad neu'r ymchwiliad dan sylw; a

(b)sy'n cael eu cadw ar y safle —

(i)gan y person neu'r corff sy'n berchen ar y safle neu yn ei reoli;

(ii)gan gadeirydd, aelod, cyfarwyddwr neu gyflogai y person neu'r corff hwnnw;

(iii)gan unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran y person neu'r corff hwnnw; neu

(iv)gan aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor unrhyw gorff sy'n gysylltiedig.

Cael gwybodaeth ac esboniadau

17.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 19, wrth gynnal adolygiad llywodraethu clinigol, adolygiad cyffredinol neu ymchwiliad, caiff y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (5) yn gymwys iddo ddangos unrhyw ddogfennau neu wybodaeth y mae'n ymddangos i'r Comisiwn, neu i'r person a awdurdodir, fod eu hangen at ddibenion yr adolygiad neu'r ymchwiliad dan sylw.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 19, wrth gynnal adolygiad llywodraethu clinigol, adolygiad cyffredinol neu ymchwiliad, caiff y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn, os yw'n credu bod angen, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (5) yn gymwys iddo, roi i'r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, i'r person a awdurdodir, esboniad —

(a)am unrhyw faterion sydd yn destun yr adolygiad neu'r ymchwiliad; neu

(b)am unrhyw ddogfennau neu wybodaeth sy'n cael eu harolygu, eu copïo neu eu dangos o dan baragraff (1) neu reoliad 16(5).

(3Caiff y Comisiwn, os yw'n credu bod angen, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae'n ofynnol iddo—

(a)ddangos dogfennau neu wybodaeth o dan baragraff (1); neu

(b)roi esboniad o dan baragraff (2),

fod yn bresennol yng ngŵydd y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) er mwyn dangos y dogfennau neu'r wybodaeth neu er mwyn rhoi'r esboniad.

(4Ni chaiff y Comisiwn na pherson a awdurdodir o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol yn unol â pharagraff (3) heb roi i'r person hwnnw hysbysiad rhesymol o'r dyddiad y bwriedir gofyn iddo fod yn bresennol.

(5Dyma'r person y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) a (2)—

(a)corff GIG;

(b)cadeirydd, aelod, cyfarwyddwr neu gyflogai corff GIG, neu unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran corff o'r fath;

(c)aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor corff GIG;

(ch)darparydd gwasanaeth;

(d)cyflogai darparydd gwasanaeth, neu unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran darparydd o'r fath;

(dd)person sy'n darparu neu sy'n helpu i ddarparu gwasanaethau o dan Ddeddf 1977, neu sy'n aelod neu'n gyflogai i berson neu gorff sy'n darparu neu sy'n helpu i ddarparu'r gwasanaethau hynny, neu mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf 1997, yn unol â chontract a wnaed â chorff GIG, darparydd gwasanaeth, neu berson y mae is-baragraff (e) yn gymwys iddo;

(e)awdurdod lleol sy'n darparu gwasanaethau neu berson a gyflogir gan awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau o dan Ddeddf 1977, neu mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf 1997, yn unol â threfniadau a wnaed yn rhinwedd adran 31(1) o'r Ddeddf.

Gwybodaeth a gedwir yn gyfrifiadurol neu ar unrhyw ffurf electronig arall

18.—(1Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 16 a 17, mae unrhyw gyfeiriad at ddogfennau yn cynnwys cyfeiriad at wybodaeth a gedwir yn gyfrifiadurol neu ar unrhyw ffurf electronig arall.

(2Os yw'r Comisiwn neu berson a awdurdodir o dan rheoliad 16(1) yn arfer —

(a)yr hawl o dan reoliad 16(5) i archwilio a chymryd copïau o ddogfennau; neu

(b)yr hawl o dan reoliad 17(1) i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddangos dogfennau,

ac os yw'r dogfennau hynny ar ffurf gwybodaeth a gedwir yn gyfrifiadurol neu ar unrhyw ffurf electronig arall, caiff y Comisiwn neu'r person a awdurdodir ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n rhedeg, neu sy'n ymwneud â gweithredu fel arall, gyfrifiadur neu ddyfais electronig arall sy'n cadw'r wybodaeth honno, drefnu bod y wybodaeth honno ar gael, neu ddangos y wybodaeth honno, ar ffurf weladwy a darllenadwy.

Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth i'r Comisiwn

19.—(1Rhaid i'r Comisiwn neu berson a awdurdodir o dan reoliad 16(1) beidio ag archwilio na chymryd copïau o ddogfennau o dan reoliad 16(5) i'r graddau—

(a)y mae'r dogfennau hynny yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol(1) sy'n ymwneud â unigolyn byw, a'i enwi, os nad yw un neu ragor o'r amodau a bennir ym mharagraff (3) yn gymwys; neu

(b)y mae archwilio neu gopïo'r dogfennau hynny yn golygu datgelu gwybodaeth os yw datgelu felly wedi ei wahardd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad, os nad yw paragraff (4) yn gymwys.

(2Ni fydd yn ofynnol i neb ddangos dogfennau neu wybodaeth o dan reoliad 17(1) na rhoi esboniad o dan reoliad 17(2) i'r graddau y mae dangos y dogfennau hynny neu'r wybodaeth honno neu roi'r esboniad hwnnw yn datgelu gwybodaeth—

(a)sy'n gyfrinachol ac sy'n ymwneud ag unigolyn sy'n byw, a'i enwi, os nad yw un neu ragor o'r amodau a bennir ym mharagraff (3) yn gymwys; neu

(b)y gwaherddir datgelu gan neu o dan unrhyw ddeddfiad, os nad yw paragraff (4) yn gymwys.

(3Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1)(a) a (2)(a) —

(a)datgelir y wybodaeth ar ffurf nad oes modd adnabod yr unigolyn;

(b)mae'r unigolyn yn caniatáu datgelu'r wybodaeth;

(c)ni ellir cael hyd i'r unigolyn er gwaethaf cymryd pob cam rhesymol;

(ch)mewn achos lle mae'r Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau o dan adran 20(1)(c), (d) neu (db) o'r Ddeddf(2) neu reoliad 2(e) o'r Rheoliadau Swyddogaethau

(i)nid yw'n ymarferol datgelu'r wybodaeth ar ffurf nad oes modd adnabod yr unigolyn ohoni;

(ii)mae'r Comisiwn yn credu bod perygl difrifol i iechyd neu ddiogelwch cleifion yn deillio o'r materion sydd yn destun yr ymchwiliad; a

(iii)wedi ystyried y perygl hwnnw ac a oes angen brys arfer y swyddogaethau hynny, mae'r Comisiwn yn credu y dylid datgelu'r wybodaeth heb ganiatâd yr unigolyn.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys os —

(a)y gwaherddir datgelu'r wybodaeth oherwydd bod modd adnabod unigolyn o'r wybodaeth honno; a

(b)yw'r wybodaeth dan sylw ar ffurf nad oes modd adnabod yr unigolion ohoni.

(5Mewn achos lle y gwaherddir datgelu gwybodaeth —

(a)gan baragraff (1); neu

(b)gan baragraff (2) ac mae'r gwaharddiad ar waith oherwydd bod modd adnabod unigolyn o'r wybodaeth,

caiff y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n cadw'r wybodaeth ddarparu'r wybodaeth ar ffurf nad oes modd adnabod yr unigolyn ohoni, er mwyn galluogi datgelu'r wybodaeth.

(1)

Gweler adran 23(6) o Ddeddf 1999 i gael diffiniad o “confidential information”.

(2)

Mewnosodwyd adran 20(1)(db) gan adran 13(1) o Ddeddf 2002.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources