- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliadau 5, 7, 16
1. Prawf adnabod cadarnhaol.
2. Naill ai —
(a)os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) o Ddeddf yr Heddlu 1997(1), tystysgrif record droseddol fanwl wedi'i rhoi o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif record droseddol wedi'i rhoi o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,
gan gynnwys yn y naill achos a'r llall, ganlyniad gwiriadau sydd wedi'u cynnal yn unol, yn ôl fel y digwydd, ag adran 113(3A) neu 115(6A) o'r Ddeddf honno.
3. Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un.
4. Pan fo person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.
5. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.
6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.
7. Gwiriad heddlu, sef adroddiad a gynhyrchir gan neu ar ran prif swyddog heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 sy'n cofnodi, fel y maent adeg cynhyrchu'r adroddiad, yr holl dramgwyddau troseddol —
(a)yr oedd y person wedi'i euogfarnu ohonynt gan gynnwys euogfarnau sydd wedi'u disbyddu fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974(2) ac y caniateir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(3); neu
(b)y mae'r person wedi'i rybuddio amdanynt ac wedi'u cyfaddef adeg cael y rhybudd.
1997 p.50. Mae swydd yn dod o fewn adran 115(3) os yw'n cynnwys gofalu yn rheolaidd am bersonau o dan 18 oed, eu hyfforddi, eu goruchwylio neu fod y daliwr â gofal drostynt ar ei ben ei hun.
O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249, O.S. 1986/2268 ac O.S. 2001/1192.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: