- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
27.—(1) Os yw —
(a)y darparydd cofrestredig os ef yw'r person sydd â gofal y ganolfan breswyl i deuluoedd o ddydd i ddydd, neu
(b)y rheolwr cofrestredig,
yn bwriadu bod yn absennol o'r ganolfan breswyl i deuluoedd am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.
(2) Ac eithrio mewn achos brys, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi o leiaf 28 diwrnod cyn i'r absenoldeb arfaethedig gychwyn neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y gellir cytuno arno gyda swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu —
(a)pa mor hir y bydd yr absenoldeb arfaethedig neu pa mor hir y disgwylir iddo fod;
(b)y rheswm dros yr absenoldeb arfaethedig;
(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd yn ystod yr absenoldeb hwnnw;
(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau y person a fydd yn gyfrifol am y ganolfan breswyl i deuluoedd yn ystod yr absenoldeb; a
(d)yn achos absenoldeb y rheolwr cofrestredig, y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud i benodi person arall i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn ystod yr absenoldeb hwnnw, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig y bydd y penodiad yn cael ei wneud.
(3) Os yw'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(4) Os bydd —
(a)y darparydd cofrestredig os nhw yw'r person sydd â gofal y ganolfan breswyl i deuluoedd o ddydd i ddydd, neu
(b)y rheolwr cofrestredig,
wedi bod yn absennol o'r ganolfan breswyl i deuluoedd am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, ac nad yw swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael hysbysiad o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol gan bennu'r materion a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(5) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd y darparydd cofrestredig neu (yn ôl fel y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn dychwelyd i'r gwaith heb fod yn hwyrach na saith diwrnod wedi iddo ddychwelyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: