Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1

Pob Disgybl

1.  Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl —

(a)Rhif unigryw cyfredol y disgybl, ac os bu gan yr ysgol rif unigryw disgybl blaenorol ar gyfer y disgybl hwnnw, y Rhif blaenorol;

(b)cyfenw;

(c)enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;

(ch)enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;

(d)rhyw;

(dd)dyddiad geni;

(e)grŵp ethnig;

(f)hunaniaeth genedlaethol;

(ff)dyddiad derbyn y disgybl i'r ysgol; a

(g)grŵp blwyddyn y Cwricwlwm Cenedlaethol yr addysgir y disgybl ynddo.

2.  Cod post y cartref lle mae'r disgybl fel arfer yn preswylio.

3.  A yw'r wybodaeth am grŵp ethnig y disgybl a ddarparwyd yn rhinwedd yr Atodlen hon yn cael ei darparu gan —

(a)y disgybl;

(b)rhiant;

(c)yr ysgol;

(ch)cyn ysgol; neu

(d)unrhyw ffynhonnell arall.

4.  Pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.

5.  A yw'r disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref ac, os felly, gyda phwy.

6.  A yw'r disgybl yn astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith.

7.  A gafodd yr wybodaeth am lefel rhugledd y disgybl yn y Gymraeg a faint o Gymraeg y mae'r disgybl yn ei siarad gartref a ddarparwyd yn rhinwedd y Rhan hon ei darparu gan —

(a)y disgybl;

(b)rhiant;

(c)yr ysgol;

(ch)cyn ysgol; neu

(d)unrhyw ffynhonnell arall.

8.  A yw'r disgybl yn astudio unrhyw bwnc, heblaw'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith, drwy gyfrwng y Gymraeg.

9.  A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 1996(1), wedi gwneud cais ac wedi'i gael yn gymwys i gael prydau am ddim yn yr ysgol.

10.  A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(1) a 512ZB o Ddeddf 1996, wedi gwneud cais ac wedi'i gael yn gymwys am laeth am ddim yn yr ysgol.

11.  A oes gan y disgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarhnad o —

(a)brif angen y disgybl ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd; a

(b)y math o ddarpariaeth AAA sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”(2), a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei wneud i'r disgybl hwnnw.

12.  Lle mae'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, y ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.

13.  A yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, wedi bod yn blentyn sy'n derbyn gofal yr awdurdod lleol tra bu ar Gofrestr yr ysgol, ac, os felly, enw'r awdurdod lleol yr oedd y disgybl yn derbyn gofal ganddo yn fwyaf diweddar.

14.  Yn achos ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty a yw'r disgybl yn byrddio yn yr ysgol ac os felly, a yw'r disgybl yn byrddio am saith noson yr wythnos neu am lai na saith noson yr wythnos.

15.  A yw'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol neu fwy nag un ysgol, a lle mae'r disgybl wedi'i gofrestru fel disgybl mewn mwy nag un ysgol, a yw'r wybodaeth yn cael ei llunio gan yr ysgol y mae'r disgybl yn mynd iddi am y rhan fwyaf o'i amser.

16.  A yw'r disgybl yn ddisgybl rhan-amser, ac at ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhan-amser” yw bod y disgybl yn mynychu llai na deg sesiwn ysgol mewn unrhyw wythnos pan fydd yr ysgol yn cyfarfod.

17.  Yn achos ysgol nad yw'n ysgol arbennig, a yw'r disgybl yn cael addysg —

(a)mewn dosbarth meithrin;

(b)mewn dosbarth arbennig a ddynodwyd felly gan yr awdurdod addysg lleol neu a drefnwyd felly gan yr ysgol; neu

(c)mewn dosbarth prif ffrwd nad yw wedi'i ddynodi yn ddosbarth arbennig gan yr awdurdod addysg lleol neu a drefnwyd fel dosbarth arbennig gan yr ysgol.

(1)

Amnewidiwyd adrannau 512 a 512ZB, ynghyd ag adran 512ZA, gan adran 512 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), adran 201(1).

(2)

ISBN 0 7504 27574.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources