Search Legislation

Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3044 (Cy.288)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

26 Tachwedd 2003

Yn dod i rym

28 Tachwedd 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), ar ôl rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymghynghori fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Safonau Bwyd 1990;

ystyr “Cyfarwyddeb 2001/110” (“Directive 2001/110”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC sy'n ymwneud â mêl(4);

mae i “cynhwysyn” yr ystyr a briodolir i “ingredient” gan Reoliadau 1996;

ystyr “cynnyrch mêl penodol”, (“specified honey product”) yn ddarostyngedig i baragraff (2) yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1;

ystyr “Cytundeb yr AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(5) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol(6) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

ystyr “chwiler” (“brood”) yw unrhyw gam anaeddfed o ran gwenynen mêl gan gynnwys yr wy, larfa a pwpa ac unrhyw wenynen mêl sydd heb ddod allan o'i gell mewn dil mêl;

ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n gwerthu bwyd heblaw —

(a)

at ddibenion ei ailwerthu,

(b)

at ddibenion sefydliad arlwyo, neu

(c)

at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.

ystyr “disgrifiad neilltuedig”, (“reserved description”) o ran unrhyw gynnyrch mêl penodol yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir gyda'r nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu arddangos rhywbeth i'w werthu ac mae'n cynnwys cael rhywbeth yn eich meddiant i'w werthu, a rhaid deall “gwerthiant” (“sale”) yn unol â hynny;

ystyr “Gwladwriaeth yr AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i Gytundeb yr AEE;

mae i “labelu” yr ystyr a briodolir i “labelling” gan Reoliadau 1996;

ystyr “mêl” (“honey”) yw'r sylwedd melys naturiol a gynhyrchir gan wenwyn Apis mellifera o neithdar planhigion neu gan secretiadau'r rhannau o blanhigion sy'n fyw neu ysgarthiadau pryfed sy'n sugno planhigion ar y rhannau o blanhigion sy'n fyw, y mae'r gwenyn yn eu casglu, yn eu gweddnewid trwy eu cyfuno â'u sylweddau penodol eu hunain, eu gwaddodi, eu dadhydradu, eu storio neu eu gadael mewn diliau mêl i aeddfedu;

mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw fath o brosesu neu drin;

ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(7); ac

ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin symudol) os paratoir bwyd, yn ystod y busnes, i'w ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf ac os yw'r bwyd yn barod i'w fwyta heb waith paratoi pellach.

(2Er gwaethaf y ffaith bod bwyd yn cael ei bennu yng Ngholofn 2 o Atodlen 1, ni chaiff ei drin fel cynnyrch mêl penodol at ddibenion y Rheoliadau hyn hyn—

(i)ond os bydd yn bodloni'r manylebau perthnasol a gynhwysir yn Atodlen 2 fel y'i darllenir gyda'r nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno, a

(ii)ond os nad ychwanegwyd ato unrhyw gynhwysyn arall ac os yw cyn belled â phosibl yn rhydd rhag unrhyw sylwedd organig neu anorganig sy'n ddieithr i'w gyfansoddiad.

(3Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb 2001/110 yr un ystyr yn y rheoliadau hyn ag yn y Gyfarwyddeb honno.

Disgrifiadau neilltuedig

3.  Ni chaiff neb werthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo unrhyw fwyd sydd â label, p'un a yw wedi'i atodi i'r papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arno, sy'n dwyn, neu sy'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ddeilliad ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n debyg iawn iddo oni bai —

(a)mai'r bwyd hwnnw yw'r cynnyrch mêl penodol y mae'r disgrifiad neilltuedig yn ymwneud ag ef;

(b)bod disgrifiad, deilliad neu air o'r fath yn cael ei ddefnyddio yn y cyfryw gyd-destun ag i ddynodi yn eglur neu drwy awgrym clir nad yw'r sylwedd y mae'n ymwneud ag ef ond yn gynhwysyn yn y bwyd hwnnw;

(c)bod disgrifiad, deilliad neu air o'r fath yn cael ei ddefnyddio yn y cyfryw gyd-destun ag i ddynodi yn eglur neu drwy awgrym clir nad yw'r bwyd yn gynnyrch mêl penodol ac nad yw'n cynnwys cynnyrch mêl penodol.

Labelu a disgrifio cynhyrchion mêl penodol

4.—(1Heb niweidio cyffredinolrwydd Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff neb werthu i'r defnyddiwr olaf nac i sefydliad arlwyo unrhyw gynnyrch mêl penodol oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu gyda'r manylion canlynol —

(a)disgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch;

(b)yn achos mêl pobydd y geiriau “intended for cooking only” a'r geiriau hynny'n ymddangos ar y label yn agos at enw'r cynnyrch;

(c)y wlad neu'r gwledydd y mae'r mêl yn tarddu ohoni/ohonynt a lle mae'r mêl wedi'i gynaeafu ac eithrio os yw'r mêl yn tarddu o fwy nag un Aelod-wladwriaeth neu drydedd wlad gellir rhoi un o'r canlynol yn lle'r wlad y mae'n tarddu ohoni fel y bo'n briodol —

(i)“blend of EC honeys”,

(ii)“blend of non-EC honeys”,

(iii)“blend of EC and non-EC honeys”;

(2Ni chaiff neb werthu i'r defnyddiwr olaf nac i sefydliad arlwyo unrhyw fêl wedi'i hidlo neu fêl pobydd sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu â gwybodaeth sy'n ymwneud â tharddiad blodeuol neu lysieuol, tarddiad rhanbarthol, tiriogaethol neu dopagraffaidd neu unrhyw feini prawf ansawdd penodol.

(4Lle, yn unol â nodyn 2 o Atodlen 1, defnyddiwyd y disgrifiad neilltuedig “honey” yn enw cynnyrch bwyd cyfansawdd sy'n cynnwys mêl pobydd, ni chaiff neb werthu bwyd cyfansawdd oni bai bod y rhestr o gynhwysion yn cynnwys y term “baker’s honey”.

Gwerthu mêl wedi'i hidlo neu fêl pobydd mewn cynwysyddion neu becynnau swmpus

5.—(1Nii chaiff neb werthu mêl wedi'i hidlo neu fêl pobydd mewn cynwysyddion neu becynnau swmpus oni bai bod y cynwysyddion neu'r pecynnau swmpus hynny wedi'u labelu â'u priod ddisgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch ac oni bai bod unrhyw ddogfennau masnach yn dangos yn glir y disgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch.

(2At ddibenion y paragraff hwn mae dogfennau masnach yn cynnwys yn holl ddogfennau sy'n ymwneud â gwerthu, cludo, storio neu ddosbarthu'r cynnyrch.

Dull marcio neu labelu

6.  Bydd Rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â'r dull o farcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol i gynnyrch mêl penodol gael ei farcio neu ei labelu â hwy yn ôl rheoliadau 4(1)(a) i (c) a (3) o'r Rheoliadau hyn fel petaent yn fanylion y mae'n ofynnol i fwyd gael ei farcio neu'i labelu gyda hwy yn ôl Rheoliadau 1996.

Cosbau a gorfodi

7.—(1Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn yn fwriadol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi ac yn gweithredu'r rheoliadau hyn yn ei ardal.

Amddiffyn mewn perthynas ag allforion

8.  Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi —

(a)bod y bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi digwydd mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu i'w allforio i wlad sydd â deddfwriaeth debyg i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a

(b)yn achos allforio i Wladwriaeth yr AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC sy'n ymwneud â mêl.

Cymhwyso darpariaethau amrywiol y Ddeddf

9.  Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig gwerthiant etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);

(c)adran 20 (tramgwyddau sy'n codi oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;

(d)adran 22 (amddiffyn cyhoeddi yn ystod busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);

(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (g);

(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (g);

(g)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (h);

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Diwygio a dirymu

10.—(1Mae Rheoliadau Mêl 1976(8), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn cael eu dirymu.

(2Bod y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Mêl 1976 (i'r graddau y mae'r Rheoliadau canlynol yn gymwys i Gymru), yn cael eu hepgor —

(a)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) Rheoliadau 1982(9), yn Atodlen 1—

(b)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) Rheoliadau 1985(10), yn Rhan I o Atodlen 1;

(c)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990(11)), yn Rhan 1 o Atodlen 1, Rhan I o Atodlen 2, Rhan 1 o Atodlen 3 ac Atodlenni 6 a 12;

(ch)yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991(12), yn Rhan 1 o Atodlen 1;

(d)yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Dirymu) 1992(13)), yn Rhan 1 o Atodlen 1;

(dd)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(14), yn Atodlen 9;

(e)yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(15), yn Atodlen 9;

(3Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, yn lle'r cyfeiriad at Gyfarwyddeb 74/409/EEC yn Atodlen 6, rhodder cyfeiriad at Gyfarwyddeb 2001/110.

(4Yn Rheoliadau 1996, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dirymir Rheoliad 4(2)(c).

Darpariaethau trosiannol

11.  Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi —

(a)bod y bwyd o dan sylw wedi'i farcio neu'i labelu cyn 1 Awst 2004; a

(b)nai fyddai'r materion a oedd yn ffurfio'r tramgwydd arfaethedig wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Mêl 1976 fel yr oeddent yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(16)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1CYNHYRCHION MÊL PENODOL A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG

Colofn 1Colofn 2
Disgrifiadau neilltuedigCynnyrch mêl penodol
Nodyn 1: Gellir defnyddio'r disgrifiad “honey” ar gyfer cynhyrchion mêl penodol yng ngholofn 2 of eitemau 1a, 1b, 2, 5 a 6 o Atodlen 1.
Nodyn 2: Lle defnyddir y cynnyrch mêl a bennir yng ngholofn 2 o eitem 9 fel cynhwysyn mewn bwyd cyfanswdd, gellir defnyddio'r disgrifiad neilltuedig “honey” yn enw cynnyrch y bwyd cyfansawdd hwnnw.

Nodyn 3: Ac eithrio cynhyrchion a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 8 a 9 gellir disgrifio cynnyrch mêl penodol yn ogystal yn ôl —

(i)

ei darddiad blodeuol neu lysieuol, os daw'r cynnyrch yn gyfan neu'n bennaf o'r ffynhonnell a ddangosir ac os oes gandndo nodweddion organoleptig, ffisicocemegol a microsgopig y ffynhonnell;

(ii)

ei darddiad rhanbarthol, tiriogaethol neu dopograffyddol, os daw'r cynnyrch yn llwyr o'r ffynhonnell a ddangosir; a

(iii)

ei feini prawf ansawdd penodol.

1a..  blossom honey neu }

1b..  nectar honey }

mêl a geir o neithdar planhigion

2.  honeydew honey

mêl a geir yn bennaf o ysgarthiadau pryfed sy'n sugno planhigion (Hemiptera) ar y rhannau o blanhigion sy'n fyw neu secretiadau'r rhannau o blanhigion sy'n fyw
3.comb honeymêl sy'n cael ei storio gan wenyn yng nghelloedd diliau heb chwiler sydd newydd eu wedi'i hadeiladu neu haenau sylfaen dil tenau sydd wedi'u gwneud yn unig o gŵ yr gwenyn ac a werthir mewn diliau cyfan wedi'u selio neu rannau o ddiliau o'r fath

4a..  chunk honey neu }

4b..  cut comb in honey }

mêl sy'n cynnwys un neu ragor o ddarnau o fêl dil

5.  drained honey

mêl a geir drwy draenio diliau heb chwiler a'u capanau wedi'u tynnu

6.  extracted honey

mêl a geir trwy allgyrchu diliau heb chwiler a'u capanau wedi'u tynnu

7.  pressed honey

mêl a geir trwy wasgu diliau heb chwiler gyda neu heb ddefnyddio gwres cymedrol heb fod yn fwy na 45°C

8.  filtered honey

mêl a geir trwy ddileu deunyddiau anorganig neu organig estron yn y fath ffordd fel y bydd rhan helaeth o'r paill yn cael ei ddileu

9.  baker’s honey

mêl sy'n —

(a)

sy'n addas at ddefnydd diwydiannol neu fel cynhwysyn mewn bwydydd eraill sydd wedyn yn cael eu prosesu; a

(b)

a allai —

(i)

fod â blas neu arogl dieithr,

(ii)

bod wedi dechrau eplesu neu sydd wedi eplesu, neu

(iii)

sydd wedi'u gorgynhesu

Rheoliad 2(2)

ATODLEN 2MANYLEBAU AR GYFER CYNHYRCHION MÊL PENODOL

Nodyn 1: Pan gaiff ei roi ar y farchnad fel mêl neu pan gaiff ei ddefnyddio mewn unrhyw gynnyrch a fwriedir i'w fwyta gan bobl, rhaid i fêl:

(a)

ac eithrio mêl pobydd, beidio â bod ag unrhyw flas neu arogl dieithr, peidio â bod wedi dechrau eplesu neu fod wedi eplesu, neu bod sydd wedi'u cynhesugwresogi yn y fath ffordd fel bod yr ensymau naturiol naill ai wedi'u distrywio neu wedi'u gwneud yn sylweddol anweithgar.

(b)

Peidio â bod ag asidedd sydd wedi'i newid yn artiffisial.

Nodyn 2: Ni cheir dileu paill neu gyfansoddyn sy'n benodol i fêl ac eithrio lle na ellir osgoi hyn wrth ddileu deunydd anorganig neu organig estron.

1.  Cynnwys siwgr

1.1.  Cynnwys ffrwctos a glwcos (swm y ddau)

— mêl blodauDim llai na 60 g/100 g
— mêl melwlith, cyfuniadau o fêl melwlith gyda mêl blodauDim llai na 45 g/100 g

1.2.  Cynnwys swcros

— yn gyffredinolDim mwy na 5g/100 g
— ffug acesia (Robinia pseudoacacia), alffalffa (Medicago sativa), Banksia Menzies (Banksia menziesii), Gwyddfid Ffrainc (Hedysarum), gwm coch (Eucalyptus camadulensis), lledrwydden (Eucryphia lucida, Eucryphia milliganii), Citrus spp.dim mwy na 10 g/100g
— lafant (Lavandula spp.), tafod y fuwch (Borago officinalis)dim mwy na 15 g/100g

2.  Cynnwys y lleithder

— yn gyffredinoldim mwy na 20%
— grug (Calluna) a mêl pobydd yn gyffredinoldim mwy na 23%
— mêl pobydd o flodau'r grug (Calluna)dim mwy na 25%

3.  Cynnwys annhoddadwy mewn dŵ r

— yn gyffredinoldim mwy na 0.1 g/100g
— mêl wedi'i wasgudim mwy na 0.5 g/100 g

4.  Dargludedd trydanol

— mêl na restrir mohono isod a chyfuniadau o'r mathau hyn o fêldim mwy na 0.8 mS/cm
— mêl melwith a mêl castan a chyfuniadau o'r rhain ac eithrio gyda'r rhai a restrir isoddim mwy na 0.8 mS/cm
— eithriadau mefusbren (Arbutus unedo), grug clochog (Erica), coeden eucalyptwus, pisgwydden (Tilia spp.), grug (Calluna vulgaris), manuka neu jelly bush (Leptospermum), coeden de (Melaleuca spp.)

5.  Asid rhydd

— yn gyffredinoldim mwy na 50 o filli cyfwerthyddion o asid i bob 1000 gram
— mêl pobydddim mwy na 80 filli cyfwerthyddion o o asid i bob 1000 gram

6.  Gweithgarwch diastas a chynnwys hydroxymethylfurfural (HMF) a benderfynir ar ôl prosesu a blendio

(a)Gweithgarwch diastas (graddfa Schade)

dim llai nag 8
— yn gyffredinol, ac eithrio mêl pobydd
— mêl sydd â chynnwys ensym isel naturiol (e.e. mêl sitrws) a chynnwys HMF o ddim mwy na 15 mg/kgdim llai na 3

(b)HMF

— yn gyffredinol, ac eithrio mêl pobydddim mwy na 40 mg/kg (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau o (a), ail indent)
— mêl o darddiad a ddatganwyd o ranbarthau sydd â hinsawdd drofannol a cyfuniadau o'r mathau hyn o fêldim mwy na 80 mg/kg

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC ynghylch mêl (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.48). Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Mêl 1976, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Rheoliadau—

(a)yn pennu diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig ar gyfer rhai cynhyrchion mêl (rheoliad 2 ac Atodlenni 1 a 2);

(b)yn cyfyngu ar y defnydd o ddisgrifiadau neilltuedig i'r cynhyrchion mêl penodol y maent yn ymwneud â hwy (rheoliad 3);

(c)yn pennu gofynion labelu ar gyfer y cynhyrchion hynny(rheoliad 4, 5 a 6);

(ch)yn pennu cosb, awdurdodau gorfodi lleol ac, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reolaeth swyddogol ar fwydydd (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) amddiffyniad mewn perthynas ag allforion (rheoliadau 7 ac 8);

(d)yn cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9);

(dd)yn dirymu'r Rheoliadau blaenorol ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaethau trosiannol (rheoliadau 10 ac 11).

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(4)

OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.47, fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad Cyd-Bwyllgor yr AEE Rhif 99/2002.

(5)

OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.

(6)

OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.

(7)

O.S. 1996/1499; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398.

(16)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources