- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio, mewn perthynas â'r gwasanaeth maethu, ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y “datganiad o ddiben”) a rhaid iddo gynnwys—
(a)datganiad o nodau ac amcanion y gwasanaeth maethu; a
(b)datganiad ynghylch y gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd i'w darparu gan y gwasanaeth maethu.
(2) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, os gofynnir amdano, i'w archwilio gan—
(a)unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth maethu;
(b)unrhyw riant maeth neu ddarpar riant maeth y gwasanaeth maethu;
(c)unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhiant maeth gan y gwasanaeth maethu; ac
(ch)rhiant unrhyw blentyn o'r fath.
(3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio arweiniad ysgrifenedig i'r gwasanaeth maethu (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel yr “arweiniad plant”) a rhaid iddo gynnwys—
(a)crynodeb o'r datganiad o ddiben;
(b)crynodeb o'r weithdrefn a sefydlwyd;
(i)yn achos asiantaeth faethu annibynnol, o dan reoliad 18(1);
(ii)yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, o dan adran 26(3) o Ddeddf 1989; a
(iii)yn achos asiantaeth faethu sy'n dod o fewn adran 4(4)(b) o Ddeddf 2000, o dan adran 59(4)(b) o Ddeddf 1989(1);
(c)cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; ac
(ch)cyfeiriad a rhif ffôn Comisiynydd Plant Cymru(2).
(4) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu ddarparu copi o'r arweiniad plant i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, i bob rhiant maeth sydd wedi'i gymeradwyo gan y darparydd gwasanaeth maethu ac (yn dibynnu ar oedran a dealltwriaeth y plentyn) i bob plentyn sydd wedi'i leoli gan y darparydd hwnnw.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau bod y gwasanaeth maethu yn cael ei redeg bob amser mewn ffordd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.
(6) Ni fydd dim ym mharagraff (5) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dorri'r darpariaethau canlynol, na pheidio â chydymffurfio â hwy nac yn ei awdurdodi i wneud hynny—
(a)unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu
(b)yn achos asiantaeth faethu, unrhyw amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o Ddeddf 2000.
Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991 (O.S. 1991/894, fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1991/2033, O.S. 1993/3069, ac O.S. 2001/2874) yw'r Rheoliadau cyfredol.
Fel y'i sefydlwyd o dan Ran V o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: