- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
31 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym
1 Awst 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Awst 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (“y prif Reoliadau”)(2) yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.
3. Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) —
(a)ym mharagraff (1) rhodder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor —
““local health board” has the meaning assigned to it by section 16BA of the Act(3);”;
(b)ym mharagraff (1A) yn lle “health authority” rhodder “local health board”.”
(c)Ar ôl paragraff (1A) mewnosoder y paragraff canlynol —
““(1B) In the application of these Regulations in relation to Wales “Health Authority” shall, in each place where these words occur, have effect as if there were substituted the words “local health board”.”.
4. Yn rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (Datganiad o Daliadau Deintyddol) ar ddiwedd y Tabl o dan baragraff (1) rhodder —
(a)yng ngholofn (1) y Rhif olion Rhufeinig “XI” ac “XII”, a
(b)yng ngholofn (2) “Paternity Payments” ac “Adoptive Leave Payments”.
5. Yn Rhan II o Atodlen 4 i'r prif Reoliadau (triniaeth cymeradwyaeth ymlaen llaw), ym mhob un o baragraffau 1 a 2, yn lle “£375” rhodder “£390”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
Rhodri Morgan
Prif Weinidog Cymru
31 Gorffennaf 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (O.S. 1992/611) (“y prif Reoliadau”). Mae'r Rheoliadau hynny yn rheoleiddio'r telerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu odanynt o dan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Caiff rheoliad 2 o'r prif Reoliadau ei ddiwygio er mwyn ychwanegu'r diffiniad “bwrdd iechyd lleol” ac mae'n cynnwys darpariaethau fel bod cyfeiriadau at “FHSA” ac “Awdurdod Iechyd” yn cael eu trin fel cyfeiriadau at fwrdd iechyd lleol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 19(1) o'r prif Reoliadau er mwyn ychwanegu'r ddau benderfyniad newydd, XI ac XII at y tabl sy'n rhestru'r penderfyniadau. Pwnc penderfyniad XI yw “Taliadau Tadolaeth” a phwnc penderfyniad XII yw “Taliadau Seibiant Mabwysiadu”.
Maent hefyd yn diwygio Atodlen 4 i'r prif reoliadau er mwyn codi (o £375 i £390) y swm a bennir ynddi fel cost uchaf, neu gost debygol, y gofal a'r driniaeth y caiff deintydd ymgymryd a hwy heb ofyn am gymeradwyaeth ymlaen llaw oddi wrth y Bwrdd Ymarfer Deintyddol.
1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Diwygiwyd adran 15(1) gan adran 5(2) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) (“Deddf 1984”); gan Ddeddf 1990 adran 12(1) a chan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”) adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 6(e).
Disodlwyd adran 35(1) gan O.S. 1985/39, erthygl 7(9), ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 24.
Rhif wyd adran 36(1) felly gan Ddeddf 1984, Atodlen 3, paragraff 5(1) ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(10); gan adran 25 o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ac Atodlen 2, paragraff 4 iddi, gan Ddeddf 1990, adran 24(2) a chan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 25(a).
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(6).
Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.
O.S. 1992/661; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1993/2209, 1995/3092, 1996/704, 1998/1648, 2000/3118 (Cy. 226) a 2001/2706 (Cy.226).
Mewnosodwyd adran 16BA gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: