- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
28 Ionawr 2003
Yn dod i rym
1 Chwefror 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Chwefror 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992(2).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn Atodlen 10 i'r prif Reoliadau (cyffuriau a sylweddau eraill nad ydynt i'w rhagnodi i'w cyflenwi o dan wasanaethau fferyllol) hepgorir y cofnodion canlynol—
“Fabrol Granules
Fluimucil Granules
Methylcisteine Tablets 100mg
Mucodyne Capsules
Mucodyne Syrup
Mucodyne Forte Syrup
Mucodyne Forte Tablets
Mucodyne Paediatric Syrup
Visclair Tablets”.
3. Yn Atodlen 11 i'r prif Reoliadau (cyffuriau i'w rhagnodi o dan wasanaethau fferyllol mewn amgylchiadau penodol yn unig), hepgorir—
(a)y cofnodion sy'n ymwneud â'r canlynol—
(i)Gronynnau Acetylcysteine, a
(ii)Carbocisteine
a
(b)ar ôl “Apomorphine Hydrochloride (Uprima)” yng ngholofnau 1 a 2 yn eu trefn, mewnosodwch
“, Tadalafil (Cialis)” .
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Ionawr 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 (“y prif Reoliadau”) sy'n rheoleiddio'r telerau y mae meddygon yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae rheoliad 2 yn diwygio'r rhestr yn Atodlen 10 i'r prif Reoliadau, sy'n rhestru cyffuriau a sylweddau eraill na cheir eu rhagnodi i'w cyflenwi tra'n darparu gwasanaethau fferyllol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, drwy dynnu cynhyrchion mwcolytig geneuol penodedig.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 11 i'r prif Reoliadau, sy'n rhestru'r cyffuriau a'r sylweddau eraill y gellir eu rhagnodi mewn amgylchiadau penodol yn unig yng nghwrs gwasanaethau fferyllol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae Rheoliad 3(a) yn tynnu cynhyrchion mwcolytig geneuol penodedig oddi ar y rhestr yn Atodlen 11 ac mae rheoliad 3(b) yn ychwanegu Tadalafil (Cialis) ati.
1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i), a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Estynnwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 2, paragraff 16(a); gan O.S.1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1 paragraff 18 a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, paragraff 8.
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).
O.S..1992/635; Yr offerynnau perthnasol yw OS 1992/2412, 1993/2421, 1994/2620, 1997/981, 2000/187 (Cy.133), 2001/1788 (Cy.129), 2002/1804 (Cy.174)[ ]
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: