Search Legislation

Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

1.  Darparu—

(a)cefnogaeth, hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar i gynorthwyo ysgolion gyda gweithredu, trefnu a chyflawni'r Cwricwlwm Cenedlaethol;

(b)cefnogaeth, hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar gyda golwg ar godi safonau cyrhaeddiad disgyblion ym mhynciau mathemateg, Cymraeg, gwyddoniaeth, Saesneg, technoleg, addysg gorfforol, hanes, daearyddiaeth, celf, cerddoriaeth, ieithoedd tramor modern ac addysg grefyddol, a lleihau unrhyw wahaniaeth yn safonau cyrhaeddiad disgyblion gwryw a benyw;

(c)cefnogaeth a hyfforddiant i weithredu'r trefniadau ar gyfer asesu disgyblion yn yr ysgolion mewn perthynas â thargedau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol o dan Bennod II o Ran V o Ddeddf 1996(1), neu mewn perthynas â chynllun asesu sylfaenol;

(ch)hyfforddiant i athrawon ac athrawesau mewn gweinyddu profion y Cwricwlwm Cenedlaethol, gweinyddu a marcio tasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac asesu athrawon ac athrawesau mewn perthynas â chyfnodau allweddol 2 a 3 yn unol â gofynion erthyglau 4 i 9 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997(2) ac erthyglau 4 i 12 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997(3);

(d)hyfforddiant i athrawon ac athrawesau mewn cynnal asesiadau athrawon ac athrawesau mewn perthynas â chyfnod allweddol 1 yn unol â gofynion erthyglau 4 i 8 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002(4)) a darparu staff ychwanegol i gynorthwyo ysgolion yn ystod y cyfnod pan fydd athrawon ac athrawesau wrthi gyda'r gweithgareddau hynny;

(dd)hyfforddiant i athrawon ac athrawesau gyrfaoedd, a hyfforddiant i athrawesau ac athrawon eraill wrth ddarparu addysg a chyfarwyddyd galwedigaethol a gyrfaoedd mewn ysgolion i bobl ifanc ym Mlynyddoedd 9 i 13;

(e)cefnogaeth i weithgareddau sydd wedi eu cynllunio i ddatblygu rhaglenni effeithiol o addysg gysylltiedig â gwaith (gan gynnwys hyfforddiant a datblygu i athrawon ac athrawesau) yn unol â'r fframwaith yn y ddogfen a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru(5) yn 2000 o dan y teitl “Fframwaith ar gyfer Addysg Gysylltiedig â Gwaith i Bobl Ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru”(6);

(f)hyfforddiant i athrawon ac athrawesau sydd â chyfrifoldeb dros ddarparu addysg bersonol a chymdeithasol mewn ysgolion, yn unol â'r fframwaith yn y ddogfen a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru yn 2000 o dan y teitl “Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol”(7), sydd yn cynnwys addysg ar gyfleoedd cyfartal ac addysg iechyd a rhyw (gan gynnwys camddefnyddio cyffuriau);

(ff)hyfforddiant i bersonau a gyflogir mewn ysgolion ac sydd wedi'i anelu at eu cymhwyso (neu eu cymhwyso'n well) at arwain, neu gynorthwyo i arwain, gwasanaethau crefyddol yn yr ysgolion hynny yn unol ag adran 70 o Ddeddf 1998;

(g)cefnogaeth, hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar gyda golwg ar godi safonau cyrhaeddiad disgyblion yn Arholiadau Safon Uwch a Safon Uwch Atodol y Dystysgrif Gyffredinol Addysg, yn enwedig mewn pynciau gwyddonol a thechnolegol, a lleihau unrhyw wahaniaeth yn y safonau cyrhaeddiad hynny rhwng disgyblion benyw a gwryw;

(ng)cefnogaeth i ysgolion sy'n cynnig cyrsiau galwedigaethol sy'n arwain at Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol, neu sy'n ymbaratoi at gyflwyno cyrsiau o'r fath, gan gynnwys darparu hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar; ac

(h)cefnogaeth yn ystod Blwyddyn Gwyddoniaeth Cymru i fentrau sy'n codi proffil a dealltwriaeth gwyddoniaeth a thechnoleg ac yn hybu cysylltiadau rhwng ysgolion, addysg uwch a diwydiant.

(1)

Diwygiwyd Pennod II gan baragraffau 26-28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 a chan baragraffau 87-91 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(2)

O.S. 1997/2009 a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1977.

(3)

O.S. 1997/2010 a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1976.

(5)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1) (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.

(6)

ISBN 1 86112 223 3.

(7)

ISBN 1 86112 2225.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources