- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
10.—(1) Bydd gan swyddog awdurdodedig, ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw safle er mwyn darganfod a yw darpariaethau Cymunedol penodedig neu reoliad 4 uchod yn cael neu wedi cael eu torri neu a fethwyd â chydymffurfio â hwy.
(2) Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael hysbysiaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod yna sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw safle at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod a naill ai—
(a)bod mynediad i'r safle wedi'i wrthod, neu y rhagwelir y caiff ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu
(b)y byddai cais am gael mynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn rhwystro bwriad y mynediad, neu fod yr achos yn fater o frys, neu fod y safle'n wag neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,
fe gaiff yr ynad lofnodi warant i awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r safle, drwy ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen.
(3) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o fis.
(4) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw safle yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddir odano, fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol, ac wrth ymadael ag unrhyw safle gwag y mae'r swyddog wedi mynd iddo yn rhinwedd y warant honno rhaid gadael y safle wedi'i ddiogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod â phan gyrhaeddodd y swyddog.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i'r safle yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddir odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu dal) ynglŷn â busnes sy'n delio ag unrhyw gynnyrch organig ac, os oes unrhyw gofnodion o'r fath yn cael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur—
(a)caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â hwy a'u harolygu ac edrych ar sut maent yn gweithio; a
(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n gofalu am y cyfrifiadur, yr offer neu'r deunydd, neu sy'n ymwneud â'u gweithrediad roi unrhyw gymorth y gall y swyddog awdurdodedig ofyn yn rhesymol amdaNo.
(6) Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵ er a roddir gan baragraff (5) uchod—
(a)cipio a chadw unrhyw gofnodion y mae gan y swyddog sail dros gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn unrhyw achos o dan y Rheoliadau hyn; a
(b)os yw'r cofnodion yn cael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf addas i fynd â hwy oddi yNo.
(7) Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i mewn i unrhyw safle yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddir odano, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a gafwyd yn y safle mewn perthynas ag unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.
(8) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), i fynd i unrhyw safle—
(a)lle mae anifail neu aderyn, y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo wedi effeithio arno yn cael ei gadw; a
(b)sydd wedi'i leoli mewn man y datganwyd ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath o dan y Ddeddf honNo.
(9) Yn y rheoliad hwn mae “safle” yn cynnwys unrhyw gerbyd, stondin neu strwythur y gellir ei symud, ond nid yw'n cynnwys unrhyw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: