- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
17 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym
9 Ionawr 2003
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 18(1)(c), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac wedi parchu yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Ar gyfer y Rheoliadau hyn—
(a)eu henw fydd Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2002;
(b)deuant i rym ar 9 Ionawr2003;
(c)byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) yw—
mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a gyfansoddywd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 1984(4)), awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honNo.
ystyr “Cafa-cafa” (“Kava-kava”) yw planhigyn, neu unrhyw ran ohono neu ddarn o blanhigyn, sy'n perthyn i'r rhywogaeth Piper methysticum;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
3. Ni chaiff urnhyw berson—
(a)werthu, neu
(b)feddu ar gyfer gwerthu neu gynnig, amlygu neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, neu
(c)fewnforio i Gymru o'r tu allan I'r Deyrnas Unedig neu gludo i Gymru o unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig unrhyw fwyd sy'n cynnwys Cafa-cafa.
4.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n tramgwyddo neu sy'n methu â chydymffurfio â rheoliad 3 yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
(3) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
5.—(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehnogli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc);
(b)adran 3 (rhagdybiaeth fod bwyd wedi'i fwriadu i gael ei fwyta gan bobl);
(c)adran 20 (tramgwyddau o ganlyniad i fai person arall);
(ch)adran 21 (amddiffyiniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;
(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi yng nghwrs busnes);
(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)adran 33(1) (rhwystro etc swyddogion);
(f)adran 33(2), gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection 1(b) above” yn cael ei ystyried fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybywllir yn adran 33(1)(b) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (e);
(ff)adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (e);
(g)adran 35(2) a (3), i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (f);
(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(h)adran 58(1) (sy'n ymwneud â dyfroedd tiriogaethol).
(2) Bydd adran 8(3) o'r Ddeddf (sy'n gwneud rhagdybiaethau yn achos sypiau etc. o fwyd) yn gymwys i fwyd y mae'n dramgwydd ei werthu o dan y Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys i fwyd nad yw'n cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
(3) Bydd adran 9 o'r Ddeddf (archwilio ac atafaelu bwyd dan amheuaeth) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai bwyd y mae'n dramgwydd ei werthu oddi tanynt yn fwyd a fethodd a chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Rhagfyr 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd gwerthu, meddu gyda'r bwriad o werthu, amlygu neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, a mewnofrio i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gludo i Gymru o unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, unrhyw fwyd sy'n deillio o, neu sy'n cynnwys Cafa-cafa (sef planhigyn neu ran o blanhigyn, neu ddarn o blanhigyn o'r fath, sy'n perthyn i'r rhwyogaeth Piper methysticum) (rheoliad 3). Gellir trin unrhyw fwyd o'r fath fel bwyd sy'n anaddas i'w fwyta gan bobl a gall fod yn agored i gael ei atafaelu a'i ddinistrio (rheoliad 5(3)).
Hysbyswyd drafft o'r Rheoliadau i'r Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/34/EC sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol a rheolau gwasanaethau y Gymdeithas Wybodaeth (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/48/EC (OJ Rhif L217, 5.8.1998, t.18).
Paratowyd Arfarniad Effaith Rheoliadol a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.
Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), fel y caiff ei ddarllen gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999.
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1; sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn gosod gweithdrefnau mewn materion sy'n ywmneud â diogelwch bwyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: