Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) (Diwygio) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 2938 (Cy.279)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) (Diwygio) 2002

Wedi'u gwneud

27 Tachwedd 2002

Yn dod i rym

17 Rhagfyr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(1)(a) a (2) a 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2002.

Diwygio'r Rheoliadau

2.  Diwygir Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(3) fel a ganlyn.

3.  Yn rheoliad 3(2) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosodir y diffiniad canlynol:

  • mae i “corff llywodraethu” mewn perthynas â sefydliad addysg bellach yr un ystyr â “governing body” yn adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(4));.

4.  Bydd Atodlen 3 yn dod yn Rhan I o Atodlen 3, ac yn union o flaen paragraff 1 mewnosodir y pennawd “RHAN I”.

5.  Yn Rhan I o Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 1(1)(b) yn lle'r geiriau o “ym mharagraffau 2 i 9” i “Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey” rhowch “ym mharagraffau 2 i 11, ac os yw'n berson a grybwyllir ym mharagraff 7, 8, 10 neu 11 fod y datganiad a gyflwynwyd gan y corff argymell, Cyngor Addysg Taleithiau Guernsey neu'r awdurdod argymell”;

(b)ym mharagraff 1(2) yn lle “9” rhowch “11”;

(c)ym mharagraff 1(3) yn lle “7 neu 9” rhowch “7, 9, 10 neu 11” bob tro y maent yn digwydd;

(ch)ar ôl paragraff 9 mewnosodwch y paragraffau canlynol—

10.(1) Mae'r awdurdod argymell wedi cyflwyno argymhelliad i'r Cynulliad y dylid dyfarnu statws athro cymwysedig i berson a datganiad—

(a)ei fod ar ddyddiad yr argymhelliad yn cael ei gyflogi fel athro mewn ysgol annibynnol; a

(b)ei fod wedi'i asesu gan yr awdurdod argymell fel un sy'n bodloni'r safonau penodedig; ac

(c)(i)ei fod cyn 1 Ionawr 1974 wedi cael cymwysterau sy'n bodloni gofynion paragraffau 12, 13, 14, 15, 16, 17 neu 18 o Ran II o'r Atodlen hon, neu

(ii)ei fod cyn 1 Ionawr 1974 wedi cael gradd a roddwyd gan un o brifysgolion y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron, neu

(iii)ei fod cyn 1 Medi 1989 wedi cael gradd a roddwyd gan un o brifysgolion y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, bioleg, botaneg, söoleg, ffisioleg, biocemeg neu ddaeareg; ac

(ch)ei fod wedi'i gyflogi fel athro mewn ysgol annibynnol cyn 1 Medi 1989.

(2) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “awdurdod argymell”—

(i)yn achos athro nad yw'n bennaeth nac yn benadur, yw pennaeth neu benadur yr ysgol annibynnol y mae wedi'i gyflogi i addysgu ynddi; a

(ii)yn achos pennaeth neu benadur, yw cadeirydd corff llywodraethu'r ysgol, neu os nad oes un, perchennog yr ysgol;

(b)mae i “sefydliad estron” yr un ystyr ag ym mharagraff 2(2)(b); ac

(c)mae i “safonau penodedig” yr un ystyr ag ym mharagraff 9(2)(b).

11.(1) Mae'r awdurdod argymell wedi cyflwyno argymhelliad i'r Cynulliad y dylid dyfarnu statws athro cymwysedig i berson a datganiad—

(a)ei fod ar ddyddiad yr argymhelliad yn cael ei gyflogi—

(i)fel athro mewn sefydliad addysg bellach; neu

(ii)fel hyfforddwr mewn ysgol yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 2;

(b)ei fod wedi'i asesu gan yr awdurdod argymell fel un sy'n bodloni'r safonau penodedig;

(c)(i)ei fod cyn 1 Ionawr 1974 wedi cael cymwysterau sy'n bodloni gofynion paragraffau 12, 13, 14, 15, 16, 17 neu 18 o Ran II o'r Atodlen hon; neu

(ii)ei fod cyn 1 Ionawr 1974 wedi cael gradd a roddwyd gan un o brifysgolion y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron; neu

(iii)ei fod cyn 1 Medi 1989 wedi cael gradd a roddwyd gan un o brifysgolion y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, bioleg, botaneg, söoleg, ffisioleg, biocemeg neu ddaeareg;

(ch)ei fod wedi'i gyflogi fel athro mewn sefydliad addysg bellach cyn 1 Medi 1989;

(d)ei fod yn dal Tystysgrif mewn Addysg neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion; ac

(dd)ym marn yr awdurdod argymell, ei fod yn meddu ar ddigon o brofiad addysgu i allu addysgu disgyblion o 14 oed i 19 oed.

(2) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “awdurdod argymell”—

(i)yn achos athro nad yw'n bennaeth nac yn benadur, yw pennaeth neu benadur y sefydliad addysg bellach y mae'r person yn cael ei gyflogi i addysgu ynddo; a

(ii)yn achos pennaeth neu benadur, yw cadeirydd y corff llywodraethu;

(b)mae i “sefydliad estron” yr un ystyr ag ym mharagraff 2(2)(b); ac

(c)mae i “safonau penodedig” yr un ystyr ag ym mharagraff 9(2)(b)..

6.  Ar ôl Rhan I o Atodlen 3 mewnosodwch y Rhan ganlynol—

RHAN II

Celfyddyd

12.  Gofynion y paragraff hwn yw bod y person—

(a)wedi cael cyn 1 Ionawr 1965 gymhwyster—

(i)Diploma Prifysgol Llundain mewn Celfyddyd Cain (Ysgol Slade),

(ii)Diploma Aelodaeth Gyswllt o Goleg Brenhinol Celfyddyd (ARCA) neu Feistr Celfyddyd Coleg Brenhinol Celfyddyd (M Art (RCA)),

(iii)Diploma Dylunydd Coleg Brenhinol Celfyddyd (Des RCA) neu Dystysgrif Dylunydd Coleg Brenhinol Celfyddyd (Cert Des RCA) neu Feistr Dylunio Coleg Brenhinol Celfyddyd (M Des (RCA)),

(iv)Tystysgrif Ysgolion yr Academi Frenhinol a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'r cwrs yn yr Academi yn llwyddiannus, neu

(v)Diploma mewn Celfyddyd a Dylunio a ddyfarnwyd gan y Cyngor Cenedlaethol dros Ddiplomâu mewn Celfyddyd a Dylunio; neu

(b)wedi cael cymhwyster a bennir ym mharagraffau (i) i (v) o is-baragraff (a) ar 1 Ionawr 1965 neu ar ôl hynny, a chyn cael y cymhwyster hwnnw ei fod wedi sicrhau'r cymwysterau addysg gofynnol y mae eu hangen i gael mynediad i goleg addysg cydnabyddedig.

Gwaith llaw

13.  Gofynion y paragraff hwn yw bod y person wedi cael Tystysgrif Athro mewn Gwaith Llaw Sefydliad Dinas ac Urddau Llundain, cyn 1 Ionawr 1961.

Cerddoriaeth

14.  Gofynion y paragraff hwn yw bod y person—

(a)wedi cael cymhwyster—

(i)Diploma Graddedigion Ysgol Gerdd Birmingham (GBSM),

(ii)Diploma Graddedigion Ysgol Gerdd y Guildhall (GGSM),

(iii)Diploma Graddedigion Coleg Cerdd Llundain (GLCM),

(iv)Diploma Graddedigion Ysgol Gerdd y Northern (GNSM),

(v)Gradd Meistr mewn Cerddoriaeth Coleg Brenhinol Cerddoriaeth (M Mus, RCM),

(vi)Diploma Cymrodoriaeth Coleg Brenhinol yr Organyddion (FRCO),

(vii)Diploma Graddedigion Coleg Cerdd y Royal Manchester (GRSM (Manchester)),

(viii)Diploma Graddedigion yr Ysgolion Brenhinol Cerdd (GRSM), neu

(ix)Diploma Graddedigion Coleg Cerdd Trinity (GTCL); neu

(b)wedi cael cyn 1 Ionawr 1964 gymhwyster—

(i)Diploma Ysgol Gerdd Birmingham a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs dwy-flynedd i hyfforddi athrawon ar gyfer Aelodaeth Gyswllt o Ysgol Gerdd Birmingham (ABSM) (TTD), neu Ddiploma Aelodaeth Gyswllt o Ysgol Gerdd Birmingham (ABSM) (Athro) ar gyfer unrhyw offeryn neu'r llais a hwnnw'n gymhwyster a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs amser-llawn o dair blynyedd neu gyfnod o astudiaeth ran-amser,

(ii)Tystysgrif Addysgu Liphook, Ysgol Ewrhythmeg Dalcroze Llundain, a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 1955 neu cyn hynny,

(iii)Tystysgrif Canolfan Hyfforddi Cymdeithas Dalcroze (Gorfforedig) a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd a ddaeth i ben ym 1954 neu 1955,

(iv)Tystysgrif Ysgol Ewrhythmeg Llundain Cymdeithas Dalcroze (Gorfforedig) a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd a ddaeth i ben ar 1 Ionawr 1956 neu ar ôl hynny,

(v)Diploma Addysg Gerddorol i Ysgolion Coleg a Chanolfan Gelfyddydau Dartington,

(vi)Aelodaeth Gyswllt o Ysgol Gerdd y Guildhall (AGSM) neu Drwyddedog Ysgol Gerdd y Guildhall (LGSM) gyda Diploma Athro arbennig (Cerddoriaeth) neu Ddiploma Athro AGSM neu LGSM (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall) neu AGSM neu LGSM mewn Hyfforddiant Clywedol a Gwerthfawrogi Cerddoriaeth neu AGSM neu LGSM mewn Canu Dosbarth a Hyfforddi'r Llais,

(vii)Diploma mewn Cerddoriaeth Coleg Technoleg Huddersfield,

(viii)Diploma Athro Trwyddedog Coleg Cerdd Llundain (LLCM (TD)) mewn offeryn, neu'r llais neu (os y'i cafwyd erbyn 31 Rhagfyr 1960 fan bellaf) mewn Cerddoriaeth Ysgol neu LLCM mewn Cerddoriaeth Ysgol,

(ix)Diploma Cyswllt Addysg Gerddorol Ysgol Gerdd y Northern,

(x)Diploma Athro Trwyddedog yr Academi Frenhinol Gerdd (LRAM) (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall) neu LRAM mewn Hyfforddiant Clywedol neu LRAM mewn Meithrin Llais a Chanu Dosbarth,

(xi)Diploma Athro Aelodaeth Gyswllt o'r Coleg Brenhinol Cerdd (ARCM) (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall),

(xii)Aelodaeth Gyswllt o Goleg Brenhinol Cerdd y Royal Manchester (ARMCM) neu ARMCM (Cerddoriaeth Ysgol),

(xiii)Diploma Athro Trwyddedig Coleg Cerdd Trinity, Trwyddedog Coleg Trinity Llundain (LTCL) (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall) neu Gymrodoriaeth, FTCL neu Ddiploma Addysg Gerddorol ar gyfer Ysgolion (LTCL Mus Ed),

(xiv)Diploma mewn Cerddoriaeth unrhyw un o Golegau Prifysgol Cymru, neu

(xv)Trwyddedog yr Ysgolion Brenhinol Cerdd (LRSM) neu Ddiploma Athro'r Ysgolion Brenhinol Cerdd (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall);

a chyn cael y cymhwyster y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (a) neu (b) yr oedd wedi sicrhau'r cymwysterau addysg gofynnol yr oedd eu hangen ar gyfer mynediad i goleg addysg cydnabyddedig.

Gwniadwaith a Phynciau Cartref

15.  Gofynion y paragraff hwn yw bod y person wedi cael cymhwyster—

(a)dwy dystysgrif mewn gwahanol bynciau gwniadwaith Sefydliad Dinas ac Urddau Llundain, y mae rhaid i un ohonynt fod yn Dystysgrif Athro,

(b)Tystysgrif Athrawon Technegol Sefydliad Dinas ac Urddau Llundain a ddyfarnwyd o 1955 i 1964 a dwy Dystysgrif y Sefydliad mewn gwahanol bynciau gwniadwaith, y mae rhaid i un ohonynt fod yn dystysgrif uwch, neu

(c)Tystysgrif Athro Pynciau Cartref (Addysg Bellach) Sefydliad Dinas ac Urddau Llundain a ddyfarnwyd o 1956 i 1970, ynghyd â'r canlynol—

(i)dwy Dystysgrif y Sefydliad mewn gwahanol bynciau gwniadwaith y mae rhaid i un ohonynt fod yn dystysgrif uwch, neu

(ii)Tystysgrif y Sefydliad mewn Coginio Cartref Uwch a Thystysgrif y Sefydliad mewn Gwyddor Tŷ neu Reoli Cartref.

Pynciau Gwyddonol

16.  Gofynion y paragraff hwn yw bod y person wedi cael cymhwyster—

(a)Aelodaeth Gyswllt o Goleg Brenhinol Gwyddoniaeth (Llundain),

(b)Aelodaeth neu Aelodaeth Gysylltiol y Sefydliad Ffiseg gan gynnwys cymhwyster Aelodaeth Gyswllt neu Raddedig y Sefydliad a gafwyd cyn 1 Mawrth 1971,

(c)Aelodaeth Gyswllt neu Raddedig Sefydliad Brenhinol Cemeg, neu

(ch)Aelodaeth o'r Sefydliad Bioleg.

Lleferydd a Drama

17.  Gofynion y paragraff hwn yw bod y person wedi cael cymhwyster—

(a)Diploma Addysgu a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yn Ysgol Ganolog Hyfforddiant Lleferydd a Chelfyddyd Drama (Ysgol Ganolog Lleferydd a Drama wedi hynny),

(b)Diploma Addysgu mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yn yr Academi Frenhinol Gerdd,

(c)Diploma Addysgu mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yng Ngholeg Newydd Lleferydd a Drama,

(ch)Diploma Athro Aelodaeth Gyswllt o Ysgol Cerdd a Drama'r Guildhall (AGSM) mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yn Ysgol Cerddoriaeth a Drama'r Guildhall cyn 1 Ionawr 1960,

(d)Diploma a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd mewn Lleferydd a Drama a gynhaliwyd gan Goleg Hyfforddiant Lleferydd a Drama Rose Bruford (Coleg Lleferydd a Drama Rose Bruford wedi hynny),

(dd)Tystysgrif Athro a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd mewn Lleferydd a Drama a gynhaliwyd gan Ysgol Gerdd y Northern tan 1968,

(e)Diploma a ddyfarnwyd ym 1969 ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd ar gyfer athrawon Lleferydd a Drama yng Ngholeg Celfyddyd a Dylunio Manceinion, neu

(f)Diploma a ddyfarnwyd o 1970 ymlaen ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd ar gyfer athrawon Lleferydd a Drama ym Mholytechnig Manceinion,

a chyn cael cymhwyster y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a) i (f) ei fod wedi sicrhau'r cymwysterau addysg gofynnol yr oedd eu hangen ar gyfer mynediad i goleg addysg cydnabyddedig.

Cymwysterau eraill

18.  Gofynion y paragraff hwn yw bod y person wedi cael cymhwyster—

(a)Diploma Cenedlaethol Uwch,

(b)Tystysgrif Genedlaethol Uwch,

(c)Diploma mewn Technoleg a ddyfarnwyd gan y Cyngor Cenedlaethol dros Ddyfarniadau Technolegol neu'r Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol, neu

(ch)Tystysgrif A Undeb neu Sefydliad Cenedlaethol Froebel a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau cwrs tair blynedd yn llwyddiannus.

19.  Yn y Rhan hon ystyr “y cymwysterau addysg gofynnol y mae eu hangen i gael mynediad i goleg addysg cydnabyddedig” yw lleiafswm o bum cymhwyster lefel gyffredin y Dystysgrif Gyffredinol Addysg, neu gymhwyster cyfatebol..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Tachwedd 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (“Rheoliadau 1999”) er mwyn galluogi statws athro cymwysedig i gael ei ddyfarnu i athrawon penodol mewn ysgolion annibynnol neu athrawon addysg bellach penodol sy'n cael eu cyflogi mewn sefydliadau addysg bellach neu fel hyfforddwyr mewn ysgolion.

O dan y Rheoliadau diwygiedig, caniateir yn awr i athro gael ei gymeradwyo i gael statws athro cymwysedig os yw'n cael ei gyflogi ar hyn o bryd fel athro mewn ysgol annibynnol, os yw wedi'i asesu fel un sy'n bodloni'r safonau ar gyfer statws athro cymwysedig ac yn dal un o'r cymwysterau a bennir yn y Rheoliadau, ar yr amod ei fod wedi'i gyflogi fel athro mewn ysgol annibynnol cyn 1 Medi 1989. Yn fras, y cymwysterau penodedig yw graddau a chymwysterau eraill a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion dyfarnu statws athro cymwysedig a gafwyd cyn 1 Ionawr 1974 a graddau a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion dyfarnu statws athro cymwysedig a gafwyd cyn 1 Medi 1989. Gellir dyfarnu statws athro cymwysedig i athrawon o'r fath yn unol ag argymhelliad pennaeth neu benadur ysgol annibynnol lle maent yn cael eu cyflogi, neu yn achos pennaeth neu benadur ysgol annibynnol, yn unol ag argymhelliad cadeirydd corff llywodraethu'r ysgol, neu os nad oes un, perchennog yr ysgol — gweler rheoliadau 5 a 6 (sy'n mewnosod paragraffau 10 a 12—19 newydd yn Atodlen 3 i Reoliadau 1999).

O dan y Rheoliadau diwygiedig caniateir yn awr i athrawon addysg bellach gael eu cymeradwyo i gael statws athro cymwysedig os yw amodau penodol yn cael eu bodloni. Yr amodau hynny yw bod yr athro yn cael ei gyflogi fel athro mewn sefydliad addysg bellach neu fel hyfforddwr mewn ysgol, ei fod wedi'i asesu fel un sy'n bodloni'r safonau penodedig, ei fod yn dal un o'r cymwysterau a bennir yn Rhan II o Atodlen 3 neu radd, ei fod wedi'i gyflogi fel athro mewn sefydliad addysg bellach cyn 1 Medi 1989, ei fod yn dal Tystysgrif mewn Addysg neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion, a bod ganddo ddigon o brofiad addysgu ym marn y corff argymell i allu addysgu disgyblion 14—19 oed — gweler rheoliadau 5 a 6 (sy'n mewnosod paragraffau 11 a 12—19 newydd yn Atodlen 3 i Reoliadau 1999).

(1)

1988 p.40; Diwygiwyd adran 232(6) gan adran 14 o Ddeddf Addysg 1994 a pharagraff 6 o Atodlen 3 ac Atodlen 4 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1998 (p. 30).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources