- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 14 Awst 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn mae gan y termau “person oedrannus” a “person anabl” yr un ystyr ag sydd gan “elderly person” a “disabled person” yn adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) o'r erthygl hon, mae gwasanaeth yn wasanaeth cymwys o dan adran 94 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 ac o dan adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 os yw'n perthyn i un o'r dosbarthau canlynol—
(a)gwasanaeth lleol sy'n cael ei ddarparu neu'i sicrhau—
(i)gan awdurdod addysg lleol yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 509 o Ddeddf Addysg 1996(1), neu
(ii)ar gyfer personau oedrannus neu bersonau anabl,
ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (2) wedi'u bodloni mewn perthynas â hwy;
(b)gwasanaeth lleol, nad yw'n wasanaeth a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a), ac sy'n defnyddio cerbyd a addaswyd i gario mwy nag wyth o deithwyr (neu gerbyd llai, ond dim ond os yw'r gwasanaethau yn cael eu gweithredu yn unol ag amserlen) ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (3) wedi'u bodloni mewn perthynas ag ef;
(2) Yr amodau y mae paragraff (1)(a) yn cyfeirio atynt yw—
(a)bod seddau ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ar gael, fel arfer, i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol a bod yr aelodau hynny'n defnyddio'r gwasanaeth yn rheolaidd;
(b)bod y mannau aros (ac eithrio'r mannau y mae'r gwasanaeth yn cael ei ddaparu'n bennaf iddynt neu ohonynt) wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol;
(c)bod yr aelodau hynny o'r cyhoedd yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(ch)bod yr aelodau hynny yn gallu talu'r pris tocyn mewn man ac mewn ffordd nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth; a
(d)bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith, a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.
(3) Yr amodau y mae paragraff (1)(b) yn cyfeirio atynt yw—
(a)bod o leiaf hanner y lle ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ar gael, fel arfer, i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol a bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan yr aelodau hynny;
(b)bod y mannau aros wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol;
(c)bod yr aelodau hynny yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(ch)bod yr aelodau hynny yn gallu talu'r pris tocyn mewn man ac mewn ffordd nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro'n fwriadol rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(d)nad oes ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth unrhyw arwydd na disgrifiad sydd wedi'i fwriadu neu sy'n debygol o roi'r argraff bod y gwasanaeth ond ar gael ar gyfer categori penodol o berson; ac
(dd)bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith, a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.
(4) Dim ond ar ôl i effaith adran 92 o Ddeddf Cyllid 1965(2) ddod i ben oherwydd dyfodiad i rym adran 154(6) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, mewn perthynas â Chymru, y bydd y rheoliad hwn yn cael effaith.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Gorffennaf 2002
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: