Search Legislation

Gorchymyn Crancod Heglog Rhy Fach (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr mewn perthynas â chychod pysgota

4.—(1At ddibenion gorfodi adran 1(1) o'r Ddeddf fel y caiff ei darllen gyda'r Gorchymyn hwn, gall swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddwyd gan baragraffau (2) i (4) isod mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig perthnasol ac unrhyw gwch pysgota Albanaidd yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.

(2Gall y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i'w gynorwthyo yn ei ddyletswyddau, ac at y diben hwnnw gall fynnu bod y cwch yn stopio ac yn gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch.

(3Gall y swyddog fynnu presenoldeb y meistr ac unrhyw bersonau eraill ar fwrdd y cwch a gall gynnal unrhyw archwiliad neu ymchwiliad y mae'n ymddangos iddo eu bod yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod ac, yn benodol—

(a)gall archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch gan gynnwys yr offer pysgota, a mynnu bod y personau ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth y mae'n ymddangos iddo ef neu hi eu bod yn angenrheidiol i hwyluso'r archwiliad;

(b)gall fynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ei weithgareddau pysgota neu weithgareddau sy'n ategol i hynny neu i'r personau ar ei bwrdd sydd yn ei warchodaeth neu ei feddiant a gall gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;

(c)at y diben o ganfod a yw meistr, perchennog neu'r sawl sydd wedi siartro'r cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 1(1) o'r Ddeddf fel y caiff ei darllen gyda'r Gorchymyn hwn, gall chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall fynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhywbeth y mae'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r chwilio; ac

(ch)pan fo'r cwch yn gwch y mae gan y swyddog reswm dros gredu bod tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef, gall feddiannu a chadw unrhyw ddogfen o'r fath sy'n cael ei dangos neu y deuir ar ei thraws ar ei fwrdd at y diben o sicrhau bod modd i'r ddogfen gael ei defnyddio fel tystiolaeth mewn achos sydd ynghlwm â'r dramgwydd,

ond ni chaiff dim yn is-baragraff (ch) uchod ganiatáu i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chadw ar y cwch yn ôl y gyfraith gael ei dal na'i chadw heblaw pan fo'r cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

(4Pan ei bod hi'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig bod y Gorchymyn hwn wedi'i dramgwyddo ar urhyw adeg o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydeinig gall—

(a)fynnu bod meistr y cwch y mae'r dramgwydd wedi'i wneud mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch, a'i griw, neu gall y swyddog fynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd cyfleus agosaf, ym marn y swyddog hwnnw, a

(b)cadw neu fynnu bod y meistr yn cadw'r cwch yn y porthladd;

a phan fo swyddog o'r fath yn cadw neu yn mynnu bod cwch yn cael ei gadw bydd ef neu hi yn cyflwyno rhybudd ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y bydd y cwch yn cael, neu ei bod hi'n ofynnol ei fod yn cael ei gadw hyd nes y bydd y rhybudd yn cael ei dynnu yn ôl drwy gyflwyno rhybudd ysgrifenedig pellach i'r meistr gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources