Search Legislation

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Therfynol) (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn:

  • ystyr “apêl” (“appeal”) yw apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 6 o'r Ddeddf gan berson sydd â buddiant mewn tir yn erbyn dangos y tir hwnnw ar fap dros dro fel tir comin cofrestredig neu fel tir agored.

  • ystyr “apelydd” (“appellant”) yw person sy'n dwyn apêl a, lle bo dau neu fwy o bobl yn dwyn apêl ar y cyd, mae'n cyfeirio at bawb ohonynt ar y cyd;

  • ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”), mewn perthynas â map dros dro neu fap terfynol (fel y bo angen) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol y mae ei ardal yn cynnwys ardal a gynhywsir yn y map hwnnw;

  • ystyr “awdurdod Parc Cendlaethol perthnasol” (“relevant National Park authority”), mewn perthynas â map dros dro neu fap terfynol (fel y bo angen) yw awdurod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae ei ardal yn cynnwys ardal a gynhwysir yn y map hwnnw;

  • ystyr “cyfathrebu electronig” (“electronic communication”) yw cyfathrebu a drosglwyddir (naill ai o un person i'r llall, o un ddyfais i'r llall neu o berson i ddyfais neu i'r gwrthwyneb) drwy system delathrebu (fel a ddiffinir yn Neddf Telathrebu 1984(1)) neu drwy ddulliau eraill ond ar ffurf electronig;

  • ystyr “cyfnod apêl” (“appeal period”), mewn perthynas â map dros dro, yw'r cyfnod a gyfeirir ato yn rheoliad 4(3)(ch);

  • ystyr y “cyfnod dros dro” (“provisonal period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau pan fydd map dros dro yn cael ei ddyroddi ac sy'n dod i ben pan fydd y map terfynol sy'n perthyn iddo yn cael ei ddyroddi neu, os bydd mwy nag un map terfynol yn perthyn i'r map dros dro hwnnw, pan fydd yr olaf o'r mapiau terfynol hynny yn cael ei ddyroddi;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cendlaethol Cymru neu, lle bo swyddogaeth yn cael ei hymarfer gan berson penodedig, y person hwnnw;

  • ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru;

  • ystyr “datganiad addasiad o fap drafft” (“draft map modification statement”) yw datganiad ysgrifenedig a baratowyd gan y Cyngor yn unol â rheoliad 7(3)(b) o'r Rheoliadau Mapiau Drafft sy'n nodi addasiadau a wnaed i'r map drafft a'r rhesymau dros eu gwneud;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;

  • mae cyfeiriadau at “ddyroddi” (“issue”) map dros dro neu fap terfynol (fel y bo angen) yn gyfeiriadau at ei ddyroddi gan y Cyngor o dan adran 5(d) neu (e) o'r Ddeddf neu o dan adran 9(1), (2), (3) neu (4) o'r Ddeddf, yn ôl y digwydd;

  • mae gan “dir agored” (“open country”) yr ystyr a roddir gan adran 1(2) o'r Ddeddf;

  • mae gan “dir comin cofrestredig” (“registered common land”) yr ystyr a roddir gan adran 1(3) o'r Ddeddf;

  • mae gan “fuddiant” (“interest”) yr ystyr a roddir gan adran 45(1) o'r Ddeddf;

  • ystyr “ffurf electronig” (“electronic form”) yw ffurf y gellir ei storio ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur neu oddi wrtho, a'i darllen trwy ddefnyddio cyfrifiadur;

  • ystyr “ffurflen apêl” (“appeal form”) yw dogfen sydd yn cynnwys, pan fydd wedi'i chwblhau, yr wybodaeth a ddynodir yn rheoliad 6(4);

  • mae cyfeiriadau at “gadarnhau” (“confirmation”) map drafft yn gyfeiriadau at ei gadarnhau yn unol ag adran 5(c) o'r Ddeddf;

  • ystyr “hysbysiad dyroddi” (“notice of issue”) map dros dro neu fap terfynol (fel y bo angen) yw hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 4(2)(c) neu reoliad 8(2)(ch), yn y drefn honno;

  • ystyr “map drafft” (“draft map”) yw map a ddyroddwyd gan y Cyngor o dan adran 5(2) o'r Ddeddf;

  • ystyr “map drafft perthnasol” (“relevant draft map”), mewn perthynas â map dros dro, yw map drafft a oedd, pan gafodd ei gadarnhau, yn cynnwys tir sydd bellach wedi ei gynnwys yn y map dros dro hwnnw;

  • ystyr “map dros dro” (“provisional map”) yw map sydd wedi'i gadarnhau gan y Cyngor yn unol ag adran 5(c) o'r Ddeddf;

  • ystyr “map terfynol” (“conclusive map”) yw map a baratowyd gan y Cyngor at y diben o gael ei ddyroddi yn unol ag adran 9(1), (2), (3) neu (4) o'r Ddeddf;

  • mae “person” (“person”) a “phersonau” (“persons”) yn cynnwys unigolion, corfforaethau a chyrff nad ydynt wedi'u hymgorffori;

  • ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 8 o'r Ddeddf;

  • ystyr “y Rheoliadau Mapiau Drafft” (“the Draft Map Regulations”) yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001(2);

  • ystyr “tir adran 4(2)” (“section 4(2) land”) yw'r tir comin cofrestredig a thir agored y mae'n ofynnol i'r Cyngor baratoi mapiau mewn perthynas ag ef yn unol ag adran 4(2) o'r Ddeddf;

  • ystyr “Ymddiriedolaeth Archaeolegol” (“Archaeological Trust”) yw Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent neu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd; ac

  • ystyr “Ymddiriedolaeth Archaeolegol perthnasol” (“relevant Archaeological Trust”), mewn perthynas â map dros dro neu fap terfynol (fel y bo angen), yw Ymddiriedolaeth Archaeolegol y mae ardal ei chyfrifoldeb yn cynnwys ardal sy'n cael ei gynnwys yn y map hwnnw.

(2Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y pargraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

(3Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod sy'n cael ei ddatgan yn y Rheoliadau hyn yn gyfnod o ddyddiad penodol, nid yw'r dyddiad hwnnw i'w gynnwys ac os yw'r diwrnod neu'r diwrnod olaf y mae'n ofynnol gwneud rhywbeth arno o dan y Rheoliadau hyn, neu'n unol â hwy, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn ddydd Gwener y Groglith, yn ŵ yl banc neu'n ddiwrnod sydd wedi'i bennu ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus, bernir bod y gofyniad yn ymwneud â'r dydd cyntaf ar ôl hynny nad yw'n un o'r dyddiau uchod.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources