- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) o'r rheoliad hwn, mae cartref cymwys yn gartref symudol sydd, drwy gydol y cyfnod cymhwyso —
(a)yn achos carafán, wedi'i lleoli'n gyfreithlon ar safle gwarchodedig o fewn ystyr adran 1(2) o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968(1);
(b)yn achos cwch preswyl, wedi'i fwrio'n gyfreithlon neu wedi'i glynu'n sownd fel arall wrtho gydag unrhyw gydsyniad sy'n angenrheidiol ar gyfer y lleoliad o dan sylw oddi wrth unrhyw awdurdod mordwyo, ymgymeriad harbyrau neu ymgymeriad camlesi sy'n gyfrifol am y dŵ r y mae wedi'i leoli ynddo a chyda chydsyniad y person sy'n meddiannu unrhyw dir y mae wedi'i fwrio neu wedi'i glynu'n sownd wrtho;
(c)sydd wedi'i leoli yn y fath fan neu fannau fel bod rhyw ran ohono, ar ôl adeiladu neu newid y briffordd berthnasol, heb fod yn fwy na 300 metr o'r pwynt agosaf ar lon gerbydau'r briffordd honno.
(2) Nid yw cartref symudol yn gartref cymwys os oedd yn gerbyd modur o fewn ystyr adran 185(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(2) neu os oedd yn adeilad neu'n rhan o adeilad ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cymhwyso.
(3) At ddibenion taliad sŵn sy'n codi o waith perthnasol nid yw cartref symudol yn gartref cymwys —
(a)os cafodd ei feddiannu gyntaf ar ôl y dyddiad perthnasol mewn perthynas â'r gwaith hwnnw;
(b)os yw wedi'i leoli adeg gwneud cais am daliad sŵn, mewn man sy'n cyfateb, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, i'r fan lle'r oedd unrhyw gartref cymwys arall, y mae taliad sŵn eisoes wedi'i wneud ar ei gyfer, yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod cymhwyso mewn perthynas â'r taliad sŵn hwnnw, ac os yw'r taliad sŵn hwnnw yn deillio o'r un gwaith perthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: