Search Legislation

Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN IVGORFODI

Pwerau personau awdurdodedig

16.—(1Os gofynnir i berson awdurdodedig ddangos rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol, ac sy'n dangos ei awdurdod, a'i fod yn gallu ei dangos, caiff arfer y pwerau a bennir yn y rheoliad hwn, ar bob adeg resymol, er mwyn—

(a)gweithredu unrhyw fesur rheoli penodedig;

(b)darganfod a oes tramgwydd o dan reoliad 18 wedi'i gyflawni neu wrthi'n cael ei gyflawni; neu

(c)sicrhau bod taliadau Tir Mynydd yn cael eu gwneud mewn achosion priodol yn unig.

(2Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir, heblaw tir sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig, sy'n cael ei feddiannu gan geisydd neu y mae'n credu'n rhesymol ei fod yn ei feddiannu neu yn cael ei ddefnyddio ganddo ar gyfer pori gwartheg sugno neu famogiaid y mae cais am daliad Tir Mynydd wedi'i wneud ar eu cyfer.

(3Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd ar unrhyw dir yn rhinwedd y rheoliad hwn—

(a)archwilio a dilysu cyfanswm arwynebedd y tir hwnnw neu unrhyw ran ohono;

(b)archwilio a chyfrif unrhyw anifeiliaid ar y tir a darllen eu tagiau clust neu eu marciau adnabod eraill;

(c)gwneud unrhyw weithgaredd arall sy'n fesur rheoli penodedig; ac

(ch)archwilio'r tir er mwyn penderfynu a yw wedi'i orbori.

(4Caiff person awdurdodedig sy'n mynd ar dir yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd ag unrhyw bersonau eraill gydag ef sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau ac y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol.

(5Caiff person awdurdodedig—

(a)ei gwneud yn ofynnol i geisydd neu unrhyw weithiwr cyflogedig, gwas neu asiant ceisydd ddangos unrhyw ddogfen neu gofnod arall sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ynghylch cais am daliad Tir Mynydd y bydd y person awdurdodedig yn gofyn yn rhesymol amdanynt;

(b)archwilio unrhyw ddogfen neu gofnod arall y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a), ac, os yw unrhyw gofnod o'r fath yn cael ei gadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r cofnod hwnnw, a'u harchwilio a gwirio eu gweithrediad;

(c)gwneud unrhyw gopïau o unrhyw ddogfen neu gofnod arall y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a), y gwêl yn dda; a

(ch)cipio a chadw unrhyw ddogfen neu record arall ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), y mae gan y person a awdurdodwyd le i gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos o dan y rheoliadau hyn neu mewn achos ar gyfer adennill unrhyw daliad ac, os yw unrhyw gofnod o'r fath yn cael ei gadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol ei cynhyrchu ar ffurf sy'n ei gwneud yn bosibl mynd ag ef oddi yno.

Cymorth i bersonau awdurdodedig

17.  Rhaid i'r ceisydd, unrhyw weithiwr cyflogedig, gwas neu asiant ceisydd neu unrhyw berson sydd â gofal anifeiliaid ar y tir roi i'r person awdurdodedig unrhyw gymorth y mae'n gofyn yn rhesymol amdano er mwyn galluogi i'r person awdurdodedig i arfer unrhyw bŵ er a roddir gan reoliad 16 ac yn benodol, mewn perthynas ag unrhyw anifail, rhaid iddynt drefnu bod yr anifail hwnnw'n cael ei gasglu, ei osod mewn lloc a'i gadw'n ddiogel, os gofynnir iddynt wneud hynny.

Tramgwyddau

18.  Bydd yn drosedd i berson—

(a)rhwystro person awdurdodedig yn fwriadol wrth iddo arfer pŵ er a roddir gan reoliad 16;

(b) methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â'r gofynion a wneir o dan reoliad 16 neu gais a wneir o dan y rheoliad hwnnw; neu

(c)gwneud datganiad, yn fwriadol neu'n ddi-hid, neu roi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol os yw'r datganiad yn cael ei wneud neu os yw'r wybodaeth yn cael ei rhoi er mwyn sicrhau bod y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw daliad Tir Mynydd yn cael ei roi iddo'i hun neu i unrhyw berson arall.

Cosbi

19.—(1Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 18(a) neu 18(b) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 18(c) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Terfyn amser ar gyfer erlyn

20.—(1Gall achos ynglyn â thramgwydd o dan reoliad 18 gael ei ddwyn, yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, o fewn cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y caiff yr erlynydd wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol yn ei farn ef i haeddu achos.

(2Ni all achos o'r fath gael ei ddwyn yn rhinwedd y rheoliad hwn fwy na deuddeng mis ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, bydd tystysgrif a lofnodir gan neu ar ran yr erlynydd ac yn datgan y dyddiad y cafodd wybod am dystiolaeth a oedd yn ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r ffaith honno.

(4Bernir bod tystysgrif sy'n datgan y ffaith honno ac sy'n ymhonni ei bod wedi'i llofnodi felly wedi'i llofnodi felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.

Tramgwyddau cyrff corfforaethol

21.—(1Pan yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan reoliad 18, a phan brofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y corff corfforaethol, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd ef, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei fusnes gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources