- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd 1991, O.S. 1991/2206 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1992/1031, 1993/1878, 1994/2592 a 1997/1474) (Rheoliadau 1991). Deuant i rym ar 29 Tachwedd 2001 ac maent yn gymwys i Gymru'n unig.
Mae'r diwygiadau i Reoliadau 1991 yn peri bod Cyfarwyddeb y Cyngor 98/95/EC (OJ Rhif L25, 1.2.1999, t.1) yn effeithiol yng Nghymru gan ddiwygio, mewn perthynas â chyfuno'r farchnad fewnol, adnoddau planhigion a addaswyd yn enetig ac adnoddau genetig planhigion, cyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a'r catalog cyffredin o amrywiadau rhywogaethau planhigion amaethyddol.
Mae'r cyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 98/95/EC yn cynnwys Cyfarwyddeb y Cyngor 66/403/EEC (OJ Rhif L125, 11.7.66, t.2320) (OJ/SE 1965—66, t.154) ar farchnata tatws hadyd. Mae Cyfarwyddeb y Cyngor 98/96/EC (OJ Rhif L25, 1.2.1999, t.27) hefyd yn diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 66/403/EEC ond nid yw'r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol diwygio Rheoliadau 1991.
Mae'r Rheoliadau hyn —
(a)yn diwygio diffiniadau yn rheoliad 2 (o Reoliadau 1991), gan gynnwys y diffiniadau o “marketing” a “seed potatoes” (rheoliad 3);
(b)yn darparu ar gyfer marchnata tatws hadyd rhag-sylfaenol (amryw o reoliadau);
(c)yn gwneud darpariaeth newydd yn rheoliad 6 mewn perthynas â marchnata at ddibenion gwyddonol neu waith dethol ac o ganlyniad maent yn hepgor rheoliad 5 (rheoliadau 4 a 5);
(ch)yn mewnosod rheoliad 10A newydd sy'n ymwneud â thatws hadyd a addaswyd yn enetig (rheoliad 9);
(d)yn mewnosod rheoliad 12A newydd sy'n ymwneud â mewnforio tatws hadyd o drydydd gwledydd (rheoliad 10);
(dd)yn diwygio Atodlen 1 Rhan III mewn perthynas ag ardystio tatws hadyd (rheoliad 11)(d); ac
(e)yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 1991 (amryw o reoliadau).
Mae Rheoliadau tebyg wedi'u gwneud er mwyn diwygio Rheoliadau 1991 i'r graddau y maent yn gymwys i Loegr (gweler O.S. 2000/1788). Yn yr Alban, mae Rheoliadau newydd sy'n disodli Rheoliadau 1991 mewn perthynas â'r Alban wedi'u gwneud (gweler O.S.A. 2000/201).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: