- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hadau Grawnfwydydd 1993, O.S. 1993/2005, (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1482, 1997/616 a 1999/1860) (“Rheoliadau 1993”). Deuant i rym ar 29 Tachwedd 2001 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Mae'r diwygiadau i Reoliadau 1993 yn peri bod Cyfarwyddebau canlynol y Cyngor, a ddiwygiodd gyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a'r catalog cyffredin o amrywiadau o rywogaethau planhigion amaethyddol, yn effeithiol yng Nghymru:—
(a)98/95/EC (OJ Rhif L25, 1.2.1999, t.1) mewn perthynas â chyfuno'r farchnad fewnol, adnoddau planhigion a addaswyd yn enetig ac adnoddau genetig planhigion; a
(b)98/96/EC (OJ Rhif L25, 1.2.1999, t.27) o ran archwiliadau maes answyddogol.
Mae'r cyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 98/95/EC a Chyfarwyddeb y Cyngor 98/96/EC yn cynnwys Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC (OJ Rhif L125, 11.7.66, t.2309/66) (OJ/SE 1965—66, t.143) ar farchnata hadau grawnfwydydd.
Mae'r Rheoliadau diwygio hyn —
(a)yn diwygio diffiniadau yn rheoliad 3 (o Reoliadau 1993), gan gynnwys y diffiniadau o “marketing” ac “official examination” (rheoliad 3);
(b)yn diwygio rheoliad 5 mewn perthynas â marchnata (gan gynnwys marchnata hadau grawnfwydydd a addaswyd yn enetig) ac awdurdodiadau marchnata, profion a threialon, hadau fel y cânt eu tyfu, gwaith dethol a dibenion gwyddonol eraill; ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 4 (rheoliadau 4 a 5);
(c)yn diwygio rheoliad 9 i wneud darpariaeth mewn perthynas â dangos amrywiadau a addaswyd yn enetig yn glir (rheoliad 6);
(ch)yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 9A (rheoliad 7); a
(d)yn diwygio Atodlen 6 i wneud darpariaeth ar gyfer rhoi gwybodaeth ynghylch hadau sydd wedi'u mewnforio ac i ddiwygio darpariaethau mewn perthynas â phecynnau bach (rheoliad 9).
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn peri bod Cyfarwyddeb y Comisiwn 99/8/EC (OJ Rhif L50, 26.2.99, t.26) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 99/54/EC (OJ Rhif L142, 5.6.99, t.30) sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC (OJ Rhif L125, 11.7.66, t.2309/66) (OJ/SE 1965—66, t.143) ar farchnata hadau grawnfwydydd, yn effeithiol yng Nghymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1993 i ganiatáu marchnata hadau croesrywiau hunan-beilliol o amrywiadau triticêl fel Hadau Sylfaenol a Hadau a Ardystiwyd (rheoliadau 3 a 4(2)). Maent hefyd yn sefydlu'r amodau sydd i'w bodloni gan y cnydau y ceir yr hadau ohonynt a chan yr hadau eu hunain yn achos y croesryw hwn a chroesrywiau ceirch, barlys, gwenith, gwenith durum a gwenith yr Almaen (rheoliadau 8(2) a (3)).
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 1993 i leihau isafswm y gofyniad egino ar gyfer triticêl o 85 y cant i 80 y cant ac i gyflwyno safonau purdeb ar gyfer samplau Hadau a Ardystiwyd (yn ôl Isafswm y Safon) (rheoliad 8(3)).
Mae Rheoliadau tebyg wedi'u gwneud er mwyn diwygio Rheoliadau 1993 i'r graddau y maent yn gymwys i Loegr ac i'r Alban (gan O.S. 1999/2196 a 2000/1793 ac O.S.A. 2000/248 yn y drefn honno).
Mae Rheoliadau tebyg yn cael eu gwneud mewn perthynas â Chymru ynglŷn â'r canlynol:—
hadau betys
hadau llysiau
tatws hadyd
hadau planhigion olew a ffibr
hadau planhigion porthiant.
I gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau hynny, cysylltwch â'r Is-adran Cefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: