- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau hynny yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002. Mae hefyd yn dod â'r darpariaethau hynny yn y Ddeddf honno a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym, a hynny ar 1 Medi 2002.
Esbonnir effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen isod.
Mae adran 36 yn rhoi pŵ er i Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (“y Cyngor Cenedlaethol”) roi grantiau i awdurdod addysg lleol ar gyfer addysg a ddarperir gan ysgolion ar gyfer y rheiny sydd dros oedran ysgol gorfodol.
Mae adran 113 yn dod ag Atodlen 7 i rym, sy'n cynnwys pwerau a dyletswyddau sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech annigonol. Yn benodol, mae'n rhoi pŵ er i'r Cyngor Cenedlaethol gyhoeddi cynigion i gau darpariaeth chweched dosbarth a gynhelir yn dilyn dau adroddiad arolygu anffafriol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer gweithdrefn i ymdrin â gwrthwynebiadau y mae'n rhaid ei dilyn cyn y gellir gweithredu unrhyw gynigion o'r fath.
Mae adran 140 ((1)—(2) a (4) i(6)) yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol mewn amgylchiadau penodol i drefnu ar gyfer asesiad i berson y cedwir datganiad o anghenion arbennig ar ei gyfer. Rhaid i'r asesiad gael ei wneud yn ystod blwyddyn olaf orfodol y person hwnnw yn yr ysgol.
Mae Atodlenni 9 ac 11 yn eu trefn yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Esbonnir effaith y ddarpariaeth a bennir yn Rhan II o'r Atodlen isod.
Mae adran 97 yn gymwys i sefydliad neu gyflogwr, sy'n darparu cyrsiau ar gyfer y rhai 19 oed a throsodd, ac a ariennir gan awdurdod addysg lleol neu'r Cyngor Cenedlaethol. Mae'n gosod sefydliad neu gyflogwr o'r fath o dan ddyletswydd i beidio â gwneud unrhyw daliad mewn perthynas â chymhwyster allanol onid yw'r cymhwyster hwnnw wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: