- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3. Yn y Rhan hon—
ystyr “cyfnod hysbysu” (“notice period”), mewn perthynas â deiseb, yw'r cyfnod o un mis sy'n dechrau gyda dyddiad y ddeiseb;
ystyr “cyfnod moratoriwm” (“moratorium period”), mewn perthynas ag ardal awdurdod lleol a deiseb, yw'r cyfnod o 48 mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y cynhaliwyd refferendwm ddiwethaf o dan Ran II o'r Ddeddf mewn perthynas â'r ardal honno;
mae “deiseb” (“petition”), oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, yn cynnwys deiseb gyfun;
mae i “deiseb ddilys” (“valid petition”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1);
ystyr “deiseb gyfun” (“amalgamated petition”) yw'r ddeiseb unigol sy'n deillio o gyfuno deisebau yn unol â pharagraff (1) neu (3) o reoliad 8;
ystyr “deiseb ôl-gyhoeddiad” (“post-announcement petition”) yw deiseb sy'n dod i law o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn rheoliad 7(1);
ystyr “deisebau cyfansoddol” (“constituent petitions”) yw deisebau sydd wedi'u cyfuno;
ystyr “dibenion dilysu” (“verification purposes”) yw dibenion darganfod a yw deiseb yn ddeiseb ddilys;
ystyr “dyddiad y ddeiseb” (“petition date”)—
mewn perthynas â deiseb a gyflwynir cyn cyhoeddi'r rhif dilysu yn unol â rheoliad 4(1), yw'r dyddiad y cyhoeddir y rhif dilysu hwnnw;
yn ddarostyngedig i baragraff (ch), mewn perthynas â deisebau cyfansoddol sy'n cael eu cyfuno yn unol â rheoliad 8(3), yw'r dyddiad diwethaf y daeth deiseb gyfansoddol i law'r awdurdod;
yn ddarostyngedig i baragraff (ch), mewn perthynas ag unrhyw ddeiseb arall, yw'r dyddiad y daeth i law'r awdurdod;
mewn perthynas â deiseb a ddaeth i law o fewn y cyfnod o chwe mis yn dechrau gyda'r dyddiad sydd ddeuddeng mis cyn y dyddiad cynharaf y mae'n gyfreithlon cynnal ail refferendwm (neu refferendwm dilynol) yn ardal yr awdurdod y cyfeirir y ddeiseb ato, yw'r dyddiad y daw'r cyfnod hwnnw o chwe mis i ben;
ystyr “newid cyfansoddiadol” (“constitutional change”)—
oni bai bod awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth sy'n cynnwys maer etholedig, yw cynnig y dylai'r awdurdod weithredu trefniadau gweithrediaeth—
lle bydd y weithrediaeth o fath a bennir yn is-adran (2) neu (4) o adran 11 (gweithrediaethau awdurdodau lleol), neu fel arall yn cynnwys maer etholedig; neu,
o fath nad yw wedi'i bennu yn y cynnig;
os oes gan awdurdod lleol drefniadau gweithrediaeth ar waith sy'n cynnwys maer etholedig (“trefniadau gweithrediaeth presennol”), yw cynnig y dylai'r awdurdod weithredu trefniadau gweithrediaeth lle mae'r weithrediaeth o fath—
sydd wedi'i phennu yn y cynnig;
sy'n cynnwys maer etholedig; a
sy'n wahanol i'r math o weithrediaeth o dan y trefniadau gweithrediaeth presennol;
ystyr “rhif dilysu” (“verification number”), mewn perthynas â deiseb, yw'r rhif sydd i'w ddefnyddio at ddibenion dilysu yn rhinwedd paragraff (2), (3), (6) neu (7) o reoliad 4, yn ôl fel y digwydd;
mae i “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” gan adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1);
ystyr “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”) yw trefniadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 32(1) o'r Ddeddf; ac
ystyr “trefnydd deiseb” (“petition organiser”)—
mewn perthynas â deisebau cyfansoddol sy'n cael eu cyfuno yn unol â pharagraff (1) o reoliad 8, yw'r person a bennir yn unol â pharagraff (5) o reoliad 10;
mewn unrhyw achos arall, yw'r ystyr a roddir gan baragraff (4) o reoliad 10.
4.—(1) Heb fod yn fwy na phedair wythnos ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i swyddog priodol pob awdurdod lleol gyhoeddi'r rhif sy'n hafal i 10 y cant o nifer yr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod fel y'i dangosir yn y gofrestr neu'r cofrestrau etholiadol a gyhoeddwyd ac sy'n effeithiol ar gyfer ardal yr awdurdod am y cyfnod sy'n dechrau ar 16 Chwefror 2001(2).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r rhif a gyhoeddir yn unol â pharagraff (1) gael ei ddefnyddio at ddibenion dilysu mewn perthynas ag unrhyw ddeiseb a gyflwynir i'r awdurdod cyn 1 Ebrill 2002.
(3) Os yw'r rhif a gyhoeddir yn 2002 yn unol â pharagraff (4) yn llai na'r rhif a gyhoeddir yn 2001, y rhif lleiaf yw'r rhif sydd i'w ddefnyddio at ddibenion dilysu mewn perthynas ag unrhyw ddeiseb a gyflwynir i'r awdurdod yn y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir y rhif lleiaf hwnnw ac sy'n diweddu yn union cyn 1 Ebrill 2002.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ym mhob blwyddyn sy'n dechrau gyda'r flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ionawr 2002, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda 15 Chwefror, rhaid i swyddog priodol pob awdurdod gyhoeddi'r rhif sy'n hafal i 10 y cant o nifer yr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod a ddangosir yn y fersiwn ddiwygiedig o'r gofrestr honno, neu, yn ôl fel y digwydd, yn y cofrestrau sy'n effeithiol ar gyfer yr ardal honno ar yr 15 Chwefror hwnnw(3).
(5) Os yw'r cyfan o'r cyfnod o 12 mis sy'n dechrau gyda'r 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn y mae paragraff (4) yn gymwys iddi yn syrthio o fewn cyfnod moratoriwm, ni fydd y paragraff hwnnw yn gymwys mewn perthynas â'r blynyddoedd y mae rhan o'r cyfnod hwnnw o 12 mis yn syrthio.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i'r rhif a gyhoeddir bob blwyddyn yn unol â pharagraff (4) gael ei ddefnyddio at ddibenion dilysu mewn perthynas ag unrhyw ddeiseb a gyflwynir i'r awdurdod yn ystod y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau gyda'r 1 Ebrill yn y flwyddyn honno.
(7) Os yw'r rhif a gyhoeddir mewn unrhyw flwyddyn ar ôl 2002 yn unol â pharagraff (4) yn llai na'r rhif a gyhoeddwyd yn y flwyddyn flaenorol, y rhif sydd i'w ddefnyddio at ddibenion dilysu mewn perthynas ag unrhyw ddeiseb a gyflwynir i'r awdurdod yn y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad cyhoeddi'r rhif lleiaf ac yn diweddu yn union cyn 1 Ebrill yn y flwyddyn honno fydd y rhif lleiaf hwnnw.
(8) Mewn cysylltiad â chyflawni'r dyletswyddau a osodir gan baragraffau (1) a (4), caiff y swyddog priodol wneud cais ysgrifenedig i swyddog cofrestru etholiadol roi gwybodaeth i'r swyddog priodol sy'n berthnasol i'r rhif sydd i'w gyhoeddi yn unol â'r naill neu'r llall o'r paragraffau hynny; a rhaid i swyddog cofrestru etholiadol sy'n cael cais o'r fath gydymffurfio ag ef o fewn y cyfnod o saith diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daw'r cais i law.
5. Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i rif gael ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 4(1) neu (4), rhaid i'r awdurdod gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cynnwys datganiad—
(a)bod swyddog priodol yr awdurdod wedi cyhoeddi'r rhif sy'n hafal i 10 y cant o nifer yr etholwyr llywodraeth leol a ddangosir yn y gofrestr neu'r cofrestrau etholiadol sy'n effeithiol ar gyfer ardal yr awdurdod—
(i)os yw wedi'i gyhoeddi yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1) o reoliad 4, am y cyfnod sy'n diweddu ar 16 Chwefror 2001;
(ii)os yw wedi'i gyhoeddi yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) o reoliad 4, ar 15 Chwefror yn y flwyddyn honno;
(b)o'r rhif a gyhoeddwyd fel hyn;
(c)y bydd i'r rhif a gyhoeddwyd fel hyn effaith—
(i)os yw wedi'i gyhoeddi yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1) o reoliad 4, at ddibenion dyfarnu ar ddilysrwydd deisebau a gyflwynir cyn 1 Ebrill 2002, oni bai bod yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys;
(ii)os yw wedi'i gyhoeddi yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) o reoliad 4, at ddibenion dyfarnu ar ddilysrwydd deisebau a gyflwynir i'r awdurdod ar ôl 31 Mawrth yn y flwyddyn gyhoeddi a chyn 1 Ebrill yn y flwyddyn ganlynol, oni bai bod i rif gwahanol effaith yn rhinwedd paragraff (7) o reoliad 4; ac
(ch)o effaith paragraffau (3) a (7) o reoliad 4; a
(d)o gyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 7, 8(8) a 19, rhaid i awdurdod gynnal refferendwm yn rhinwedd y Rhan hon os yw'n cael deiseb ddilys (ond ni fydd yn ofynnol iddo gynnal refferendwm o'r fath os yw'n cael deiseb nad yw'n ddeiseb ddilys).
(2) Gall deiseb gael ei chyflwyno i awdurdod lleol—
(a)drwy ei chyfeirio'n gywir, talu amdani ymlaen llaw a'i phostio i brif swyddfa'r awdurdod; neu
(b)drwy fynd â hi i brif swyddfa'r awdurdod.
7.—(1) Mewn perthynas â deiseb sy'n dod i law ar ôl i awdurdod roi hysbysiad ei fod yn bwriadu cynnal refferendwm a'r dyddiad y cynhelir y refferendwm hwnnw (boed yn unol â'r Rhan hon, â chyfarwyddyd o dan reoliad 18, neu ag adran 27 (refferendwm yn achos cynigion sy'n cynnwys maer etholedig)) ynghylch cynigion sy'n cynnwys maer sydd wedi'i ethol yn uniongyrchol, ni fydd dim yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gynnal refferendwm nac i gymryd unrhyw gamau heblaw'r rhai a bennir ym mharagraff (2) a rheoliad 12.
(2) Y camau a bennir yn y paragraff hwn yw sicrhau bod y swyddog priodol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r ddeiseb ddod i law—
(a)yn hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb—
(i)bod y ddeiseb wedi dod i law;
(ii)mai deiseb ôl-gyhoeddiad yw'r ddeiseb; a
(iii)nad yw'r awdurdod yn bwriadu cymryd dim camau pellach mewn perthynas â hi;
a
(b)yn hysbysu trefnydd y ddeiseb y caiff trefnydd y ddeiseb, o fewn y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried arfer unrhyw bwer a roddir iddo gan Ran III o'r Rheoliadau.
(3) Os—
(a)daw deiseb i law awdurdod—
(i)ar ôl iddo gael cyfarwyddyd o dan reoliad 18(1); a
(ii)cyn iddo roi hysbysiad o'r dyddiad y cynhelir y refferendwm yn unol â'r cyfarwyddyd; a
(b)bod y newid cyfansoddiadol a gynigir yn y ddeiseb yr un fath â'r newid cyfansoddiadol y mae'r cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol cynnal y refferendwm mewn perthynas ag ef,
rhaid i'r awdurdod beidio â chymryd dim camau pellach mewn perthynas â'r ddeiseb a, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddo gydymffurfio â gofynion paragraff (4).
(4) Rhaid i'r awdurdod hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb—
(a)bod y ddeiseb wedi dod i law; a
(b)nad yw'n bwriadu cymryd dim camau pellach mewn perthynas â'r ddeiseb am ei bod yn cynnig yr un newid cyfansoddiadol â'r newid cyfansoddiadol y mae'r refferendwm i'w gynnal mewn perthynas ag ef yn unol â'r cyfarwyddyd.
(5) Os—
(a)daw deiseb i law awdurdod—
(i)ar ôl iddo gael cyfarwyddyd o dan reoliad 18(1); a
(ii)cyn iddo roi hysbysiad o'r dyddiad y cynhelir y refferendwm yn unol â'r cyfarwyddyd; a
(b)nad yw'r newid cyfansoddiadol a gynigir yn y ddeiseb yr un fath â'r newid cyfansoddiadol y mae'r cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol cynnal y refferendwm mewn perthynas ag ef,
rhaid i'r awdurdod sicrhau bod y swyddog priodol yn dyfarnu, yn unol â'r Rhan hon, a yw'r ddeiseb yn ddeiseb ddilys.
(6) Os yw'r swyddog priodol yn dyfarnu nad yw deiseb o'r disgrifad ym mharagraff (5) yn ddeiseb ddilys, rhaid i'r swyddog priodol gydymffurfio â rheoliad 14(1) ond, yn ddarostyngedig i hynny—
(a)rhaid i'r awdurdod beidio â chymryd dim camau pellach mewn perthynas â'r ddeiseb; a
(b)at ddibenion rheoliad 21, dyddiad dyfarniad y swyddog priodol fydd dyddiad y cyfarwyddyd.
(7) At ddibenion paragraffau (3) i (5)—
(a)mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan reoliad 18(1) sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gynnal refferendwm ar fath o weithrediaeth sy'n cynnwys maer etholedig, trinnir deiseb sydd wedyn yn dod i law'r awdurdod hwnnw na phennir y math o weithrediaeth ynddi fel pe bai'n cynnig yr un newid cyfansoddiadol; a
(b)trinnir newidiadau cyfansoddiadol eraill fel yr un newidiadau cyfansoddiadol os ydynt yn cynnig trefniadau gweithrediaeth lle mae'r weithrediaeth o'r un fath.
8.—(1) Os oes mwy nag un ddeiseb sy'n ymwneud â'r un ardal wedi'i pharatoi, ar unrhyw adeg cyn eu cyflwyno i'r awdurdod gall y deisebau hynny gael eu cyfuno; ac yna trinnir y deisebau hynny at bob diben arall yn y Rhan hon fel un ddeiseb.
(2) Os nad yw deisebau cyfansoddol sy'n cael eu cyfuno o dan baragraff (1) yn cynnig yr un newid cyfansoddiadol, rhaid i'r awdurdod beidio ag ystyried y ddeiseb gyfun oni bai bod datganiad yn cyd-fynd â hi, wedi'i lofnodi gan drefnydd y ddeiseb mewn perthynas â'r ddeiseb gyfun, fod y ddeiseb gyfun yn cael ei chyflwyno gyda chytundeb trefnydd deiseb pob un o'r deisebau cyfansoddol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4),(5) a (6), os caiff awdurdod fwy nag un ddeiseb sy'n ymwneud â'r un ardal, os yw'r swyddog priodol wedi'i fodloni eu bod yn ddilys ym mhob ystyr heblaw'r un a grybwyllir yn rheoliad 9(1)(a), rhaid i'r swyddog priodol gyfuno'r deisebau hynny yn unol â pharagraff (7); ac yna trinnir y deisebau hynny at bob diben arall yn y Rhan hon fel un ddeiseb.
(4) Rhaid i'r swyddog priodol beidio â chyfuno deisebau os yw wedi'i fodloni bod y ddeiseb gyntaf sy'n dod i law'r awdurdod (gan gynnwys deisebau cyfansoddol sy'n cael eu cyfuno yn unol â pharagraff (1)) yn cynnwys nifer o lofnodion etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod sy'n hafal i'r rhif dilysu neu'n fwy nag ef ac sydd, mewn ystyron eraill, yn ddeiseb ddilys.
(5) Pan fydd deiseb gyfun (sydd wedi'i chyfuno yn unol â pharagraff (3)) yn cynnwys nifer o lofnodion etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod sy'n hafal i'r rhif dilysu neu'n fwy nag ef ac sydd, mewn ystyron eraill, yn ddeiseb ddilys, rhaid i'r swyddog priodol beidio â chyfuno unrhyw ddeiseb arall â'r ddeiseb gyfun honno.
(6) Rhaid i'r swyddog priodol
(a)beidio â chyfuno deisebau nad ydynt yn cynnig yr un newid cyfansoddiadol oni bai bod y swyddog priodol wedi sicrhau cytundeb ysgrifenedig trefnydd deiseb pob deiseb a fyddai, ar ôl eu cyfuno, yn ddeiseb gyfansoddol.
(b)hysbysu pob trefnydd deiseb y mae angen eu cytundeb at ddibenion is-baragraff (a) o ganlyniad y cyfuno a bennir ym mharagraff (10) isod.
(7) Rhaid i ddeisebau gael eu cyfuno yn y drefn y deuant i law ac eithrio, os daw mwy nag un ddeiseb i law ar yr un diwrnod—
(a)y ddeiseb sy'n cynnwys y nifer uchaf o lofnodion a drinnir fel yr un gyntaf i ddod i law;
(b)y ddeiseb sy'n cynnig yr un newid cyfansoddiadol â'r newid cyfansoddiadol a gynigir yn y ddeiseb a nodir yn unol ag is-baragraff (a) a drinnir fel yr ail ddeiseb i ddod i law; ac os oes mwy nag un ddeiseb o'r fath, trinnir y deisebau hynny fel pe baent wedi dod i law mewn trefn, gan ddechrau â'r ddeiseb sy'n cynnwys y nifer uchaf o lofnodion;
(c)trinnir unrhyw ddeisebau eraill fe pe baent wedi dod i law yn y drefn ganlynol—
(i)y ddeiseb sy'n cynnwys y nifer uchaf o lofnodion;
(ii)y ddeiseb, os oes un, sy'n cynnig yr un newid cyfansoddiadol a'r ddeiseb a nodir yn unol â pharagraff (i);
(iii)y ddeiseb sy'n cynnwys y nifer uchaf nesaf o lofnodion;
(iv)y ddeiseb, os oes un, sy'n cynnwys yr un newid cyfansoddiadol a'r ddeiseb a nodir yn unol â pharagraff (iii);
(v)y ddeiseb sy'n cynnwys y nifer uchaf nesaf o lofnodion; ac felly yn y blaen.
(8) Os bydd—
(a)awdurdod yn cael mwy nag un ddeiseb ar yr un diwrnod; a
(b)bod pob un o'r deisebau hynny yn cynnwys nifer o lofnodion etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod sy'n hafal i'r rhif dilysu neu'n fwy nag ef ac sydd, mewn ystyron eraill, yn ddeisebau dilys; ac
(c)nad yw'r deisebau hynny yn cynnig yr un newid cyfansoddiadol,
rhaid i'r awdurdod hwnnw wneud dyfarniad ynglyn â'r ddeiseb y bydd yn cynnal refferendwm mewn perthynas â hi.
(9) Cyn gwneud dyfarniad o dan baragraff (8)—
(a)rhaid i'r awdurdod gymryd i ystyriaeth ganlyniad unrhyw ymgynghori ymlaen llaw a wnaed gan yr awdurdod hwnnw yn unol ag adrannau 25 neu 31 neu reoliadau 17 neu 19; a
(b)os yw'r awdurdod o'r farn ei bod yn angenrheidiol, ymgynghori ymhellach â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod ac â phersonau eraill sydd â buddiant ynddi.
(10) Os oes deiseb gyfun yn deillio o gyfuno deisebau cyfansoddol nad ydynt yn cynnig yr un newid cyfansoddiadol, trinnir y ddeiseb gyfun at ddibenion y Rhan hon fel pe bai'n cynnig y dylai'r awdurdod weithredu trefniadau gweithrediaeth nad yw'r math o weithrediaeth wedi'i phennu odani.
(11) At ddibenion y rheoliad hwn, trinnir newidiadau cyfansoddiadol fel yr un newidiadau cyfansoddiadol—
(a)os ydynt yn cynnig trefniadau gweithrediaeth y ceir yr un math o weithrediaeth odanynt; neu
(b)os nad yw'r math arfaethedig o weithrediaeth wedi'i bennu.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd deiseb yn ddeiseb ddilys—
(a)os yw wedi'i llofnodi (naill ai cyn neu ar ôl i'r Ddeddf gael ei phasio neu i'r Rheoliadau hyn ddod i rym) gan nifer nad yw'n llai na'r rhif dilysu;
(b)os yw'n bodloni gofynion rheoliad 10; ac
(c)os yw wedi'i chyflwyno i'r awdurdod y mae wedi'i chyfeirio ato ar ddiwrnod heblaw un sy'n syrthio o fewn cyfnod moratoriwm.
(2) Ni fydd deiseb yn annilys dim ond oherwydd methiant i fodloni unrhyw ofyniad yn rheoliad 10 os gellir darganfod y newid cyfansoddiadol y ceisir y refferendwm mewn perthynas ag ef.
(3) Os oes person yn llofnodi deiseb ond nad yw'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 10(3)(a) wedi'i chynnwys, neu os nad yw wedi'i chynnwys ar ffurf ddarllenadwy, caiff llofnod y person hwnnw ei anwybyddu wrth ddyfarnu a yw'r ddeiseb yn bodloni gofynion paragraff (1)(a).
(4) Os oes person yn llofnodi deiseb fwy nag unwaith, caiff ail lofnod y person hwnnw neu ei lofnod wedyn ei anwybyddu wrth ddyfarnu a yw'r ddeiseb yn bodloni gofynion paragraff (1)(a).
(5) Caiff unrhyw lofnod ar ddeiseb sy'n dwyn dyddiad mwy na 12 mis cyn dyddiad y ddeiseb ei anwybyddu wrth ddyfarnu a yw'r ddeiseb yn bodloni gofynion paragraff (1)(a).
10.—(1) Rhaid i ddeiseb ddatgan ar bob dalen—
(a)enw'r awdurdod y mae'n cael ei chyfeirio ato; a
(b)y newid cyfansoddiadol y ceisir y refferendwm mewn perthynas ag ef.
(2) Rhaid i ddeiseb gynnwys, ar bob dalen, ddatganiad yn y termau a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn neu mewn termau i'r un perwyl.
(3) Mewn perthynas â phob person sy'n llofnodi deiseb, rhaid i'r wybodaeth ganlynol gael ei rhoi—
(a)enw cyntaf a chyfenw a chyfeiriad y person hwnnw; a
(b)y dyddiad y mae'r person hwnnw'n llofnodi'r ddeiseb.
(4) Rhaid i ddeiseb gynnwys, datganiad sy'n cynnwys enw a chyfeiriad llawn y person (y cyfeirir ato fel “trefnydd y ddeiseb” yn y Rhan hon) y mae gohebiaeth sy'n ymwneud â'r ddeiseb i gael ei hanfon ato, neu rhaid i ddatganiad o'r fath gyd-fynd â'r ddeiseb.
(5) Os caiff deisebau eu cyfuno cyn eu cyflwyno i'r awdurdod—
(a)rhaid i drefnydd deiseb pob un o'r deisebau cyfansoddol benderfynu ar enw'r person (p'un a yw'r person hwnnw'n drefnydd deiseb unrhyw un o'r deisebau cyfansoddol neu beidio) sydd i fod yn drefnydd deiseb at ddibenion y ddeiseb gyfun; a
(b)rhaid i drefnydd deiseb y ddeiseb gyfun hysbysu'r awdurdod o enw a chyfeiriad llawn trefnydd y ddeiseb.
11.—(1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ddeiseb ddod i law, rhaid i'r swyddog priodol—
(a)os yw paragraff (3) o reoliad 8 yn gymwys mewn perthynas â'r ddeiseb, hysbysu trefnydd deiseb pob un o'r deisebau cyfansoddol, o ddyddiad deiseb y ddeiseb gyfun; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, hysbysu trefnydd y ddeiseb o ddyddiad y ddeiseb.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ddeiseb ddod i law, a heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod hysbysu, rhaid i'r swyddog priodol ddyfarnu ynghylch dilysrwydd y ddeiseb.
(3) Os ail ddeiseb (neu ddeiseb ddilynol) (“deiseb ddiweddarach”) yw'r ddeiseb, na ellir ei chyfuno'n gyfreithlon â deiseb gynharach am reswm a grybwyllir ym mharagraff (4), (5) neu (6) o reoliad 8, rhaid i'r swyddog priodol gymryd y camau a bennir ym mharagraff (4) isod ac unrhyw gamau eraill a gyfarwyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(4) Y camau a bennir yn y paragraff hwn yw bod rhaid i'r swyddog priodol, o fewn y cyfnod hysbysu—
(a)hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb—
(i)bod y ddeiseb wedi dod i law, a dyddiad y ddeiseb;
(ii)bod pob deiseb gynharach wedi dod i law, a'u dyddiad deiseb;
(iii)o'r rheswm na all y ddeiseb ddiweddarach gael ei chyfuno ag unrhyw ddeiseb gynharach; a
(iv)bod y swyddog priodol, oherwydd bod deiseb ddilys gynharach wedi dod i law, yn bwriadu peidio â chymryd dim camau pellach mewn perthynas â'r ddeiseb ddiweddarach; a
(b)hysbysu trefnydd y ddeiseb y caiff trefnydd y ddeiseb, o fewn y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried arfer unrhyw bwer a roddir iddo gan reoliad 18.
12. Am y cyfnod o chwe blynedd sy'n dechrau gyda dyddiad y ddeiseb, rhaid i'r awdurdod sicrhau bod deiseb ar gael yn ei brif swyddfa i aelodau'r cyhoedd ei archwilio ar bob adeg resymol a hynny yn ddi-dâl.
13.—(1) Os yw'r swyddog priodol wedi'i fodloni bod deiseb yn ddilys, o fewn y cyfnod hysbysu, rhaid i'r swyddog priodol hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a naill ai trefnydd y ddeiseb neu os yw'r ddeiseb wedi'i chyfuno yn unol â rheoliad 8(3) trefnydd deiseb pob un o'r deisebau cyfansoddol—
(a)o gasgliad y swyddog priodol; a
(b)y caiff refferendwm ei gynnal.
(2) Mewn achos y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cynnwys datganiad—
(a)bod deiseb ddilys wedi dod i law;
(b)o'r newid cyfansoddiadol a geisir gan y ddeiseb neu, yn ôl fel y digwydd, o'r newid cyfansoddiadol yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'r ddeiseb yn ei geisio;
(c)o ddyddiad y ddeiseb;
(ch)bod y ddeiseb ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i aelodau'r cyhoedd ei harchwilio ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl;
(d)o gyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod; ac
(dd)y bydd refferendwm yn cael ei gynnal.
14.—(1) Os yw'r swyddog priodol wedi'i fodloni nad yw deiseb yn ddeiseb ddilys, o fewn y cyfnod hysbysu, rhaid i'r swyddog priodol hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb (os oes un) o'i dyfarniad ac o'r rhesymau dros y dyfarniad hwnnw.
(2) Os yw'r awdurdod wedi gwneud dyfarniad o dan reoliad 8(8) rhaid i'r swyddog priodol, o fewn y cyfnod hysbysu, hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb ynghylch dyfarniad yr awdurdod a'r rhesymau dros y dyfarniad hwnnw.
(3) Mewn achos y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cynnwys datganiad—
(a)bod deiseb wedi dod i law y dyfarnwyd ei bod yn ddeiseb annilys;
(b)o'r rhesymau dros y dyfarniad hwnnw;
(c)o'r newid cyfansoddiadol a geisir gan y ddeiseb neu, yn ôl fel y digwydd, o'r newid cyfansoddiadol yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'r ddeiseb yn ei geisio;
(ch)o ddyddiad y ddeiseb;
(d)bod y ddeiseb ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i aelodau'r cyhoedd ei harchwilio ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a
(dd)o gyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod.
(4) Os yw deiseb yn annilys dim ond am nad yw'n cydymffurfio â rheoliad 9(1)(a), rhaid i'r hysbysiad o dan baragraff (1) a'r datganiad sydd i'w gyhoeddi gan yr awdurdod o dan baragraff (3) gynnwys datganiad hefyd y gall y ddeiseb annilys gael ei chyfuno ag unrhyw ddeisebau dilynol a gyflwynir i'r awdurdod.
(5) Mewn achos y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cynnwys datganiad—
(a)bod deiseb ddilys wedi dod i law;
(b)na fydd yr awdurdod yn cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â'r ddeiseb honno am ei fod wedi gwneud dyfarniad o dan reoliad 8(8) o'r Rheoliadau hyn;
(c)o'r rhesymau dros y dyfarniad hwnnw;
(ch)o'r newid cyfansoddiadol a geisir gan y ddeiseb;
(d)o ddyddiad y ddeiseb;
(dd)bod y ddeiseb ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i aelodau'r cyhoedd ei harchwilio ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a
(e)o gyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod.
15.—(1) Rhaid i awdurdod beidio â thynnu unrhyw wariant at ddibenion—
(a)cyhoeddi unrhyw ddeunydd y mae'n ymddangos, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ei fod wedi'i gynllunio i ddylanwadu ar etholwyr llywodraeth leol wrth iddynt benderfynu a ddylid llofnodi deiseb o dan y Rhan hon neu beidio;
(b)helpu unrhyw berson i gyhoeddi unrhyw ddeunydd o'r fath; neu
(c)dylanwadu ar etholwyr llywodraeth leol wrth iddynt benderfynu a ddylid llofnodi deiseb o dan y Rhan hon neu beidio, neu helpu unrhyw berson i ddylanwadu arnynt, drwy unrhyw gyfrwng arall.
(2) Rhaid peidio â chymryd dim byd ym mharagraff (1) fel pe bai'n atal awdurdod rhag tynnu gwariant ar gyhoeddi unrhyw wybodaeth ffeithiol neu ei darparu fel arall ar gyfer unrhyw berson (boed yn unol ag unrhyw ddyletswydd i wneud hynny neu beidio) cyn belled ag y caiff ei chyflwyno'n deg.
(3) Wrth ddyfarnu at ddibenion paragraff (2) a yw unrhyw wybodaeth wedi'i chyflwyno'n deg, rhaid rhoi sylw i unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi am y tro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) a rheoliad 21, rhaid i refferendwm o ganlyniad i ddeiseb ddilys gael ei gynnal heb fod yn hwyrach—
(a)na diwedd y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda dyddiad y ddeiseb; neu
(b)na diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y mae rheoliadau o dan adran 45 (mewn perthynas â'r refferendwm) yn dod i rym, p'un bynnag yw'r olaf.
(2) Rhaid peidio â chynnal refferendwm cyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad yr anfonir cynigion a datganiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â rheoliad 17(9).
(3) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal refferendwm drwy arfer y pwer a roddir gan reoliad 25.
(4) Ni all refferendwm o dan y Rhan hon gael ei gynnal—
(a)ar ddydd Sadwrn na dydd Sul,
(b)ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Iau Cablyd, Dydd Gwener y Groglith nac ar ddiwrnod sy'n wyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4) yng Nghymru, nac
(c)ar unrhyw ddiwrnod a bennir yn ddiwrnod diolchgarwch neu alar cyhoeddus.
17.—(1) Cyn cynnal refferendwm o dan y Rhan hon, rhaid i'r awdurdod—
(a)os nad yw'r ddeiseb yn pennu'r math o weithrediaeth a gynigir ar gyfer gweithrediaeth yr awdurdod, neu os ymdrinnir â hi fel pe na bai'n ei bennu—
(i)yn ddarostyngedig i baragraff (2), penderfynu pa fath o weithrediaeth sydd i fod; a
(ii)penderfynu i ba raddau y mae'r swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) i fod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; neu
(b)os yw'r ddeiseb yn pennu'r math o weithrediaeth a gynigir ar gyfer gweithrediaeth yr awdurdod, penderfynu i ba raddau y mae'r swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) i fod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth.
(2) Rhaid i'r math o weithrediaeth y penderfynir arno o dan baragraff (1)(a)(i) gynnwys maer etholedig.
(3) Cyn cynnal refferendwm o dan y Rhan hon, rhaid hefyd i'r awdurdod —
(a)llunio cynigion ar gyfer gweithredu'r trefniadau gweithrediaeth; a
(b)llunio cynigion wrth-gefn amlinellol.
(4) Cyn llunio cynigion o dan baragraff (3)(a) a (b), rhaid i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i ymgynghori ag etholwyr llywodraeth leol ardal yr awdurdod ac â phersonau eraill sydd â buddiant ynddi.
(5) Rhaid i gynigion yr awdurdod o dan baragraff (3)(a) gynnwys—
(a)unrhyw fanylion am y trefniadau gweithrediaeth a gyfarwyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru,
(b)amserlen mewn perthynas â rhoi'r cynigion ar waith, ac
(c)manylion unrhyw drefniadau trosiannol y mae eu hangen er mwyn rhoi'r cynnig ar waith.
(6) Wrth lunio cynigion o dan baragraff (3)(a), rhaid i'r awdurdod ystyried i ba raddau y mae'n debyg y bydd y cynigion, o'u rhoi ar waith, yn helpu i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd yr arferir swyddogaethau'r awdurdod, o roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
(7) O ran cynigion yr awdurdod o dan baragraff (3)(b)—
(a)os nad oes gan yr awdurdod drefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen ar waith bryd hynny—
(i)rhaid iddynt gynnwys unrhyw fanylion am y trefniadau gweithrediaeth neu'r trefniadau amgen y maent yn ymwneud â hwy a gyfarwyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(ii)rhaid iddynt gynnwys amserlen mewn perthynas â rhoi cynigion wrth-gefn manwl sydd wedi'u seilio ar y cynigion wrth-gefn amlinellol ar waith os digwydd bod y cynigion sydd i fod yn destun y refferendwm yn cael eu gwrthod; a
(iii)cânt gynnwys, fel cynigion wrth-gefn amlinellol yr awdurdod, unrhyw gynigion o dan is-adran (1) o adran 28 (cymeradwyo cynigion wrth-gefn amlinellol) a gymeradwyir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(b)os oes gan yr awdurdod drefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen ar waith bryd hynny, rhaid iddynt gynnwys crynodeb o'r trefniadau hynny.
(8) Wrth lunio cynigion o dan baragraff (3)(a) a (b) rhaid i'r awdurdod roi sylw i unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi am y tro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38.
(9) Heb fod yn hwyrach na dau fis cyn y dyddiad y mae'r refferendwm i gael ei gynnal, rhaid i'r awdurdod anfon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
(a)copi o'r cynigion a lunnir o dan baragraff (3)(a) a (b); a
(b)datganiad sy'n disgrifio—
(i)y camau a gymerodd yr awdurdod i ymgynghori ag etholwyr llywodraeth leol ardal yr awdurdod ac â phersonau eraill sydd â buddiant ynddi, a
(ii)canlyniad yr ymgynghori hwnnw ac i ba raddau y mae'r canlyniad wedi'i adlewyrchu yn y cynigion.
(10) Rhaid i'r awdurdod gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion y rheoliad hwn.
Adran 13 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p.2) y rhoddwyd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p.2), Atodlen 2, paragraff 6 yn ei lle ar 16 Chwefror 2001.
Gweler adran 13(5) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 y rhoddwyd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000, Atodlen 1, paragraff 6 yn ei lle, ynghylch y cyfnod y mae cofrestrau yn effeithiol ar ei gyfer.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: