- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, rhaid i bob person a benodir i gyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 11 uchod gan weithrediaeth, aelod gweithrediaeth neu bwyllgor gweithrediaeth fod yn aelod o'r weithrediaeth honno, ac ni fydd y gofynion ynglŷn â chydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi aelodau o'r fath.
(2) Os gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor yw'r weithrediaeth o dan sylw —
(a)rhaid i'r maer etholedig beidio â bod yn aelod o'r cyd-bwyllgor; a
(b)caiff y rheolwr cyngor naill ai fod yn aelod o'r cyd-bwyllgor neu drefnu i un arall o swyddogion yr awdurdod lleol fod yn aelod o'r cyd-bwyllgor, a bydd yr aelod hwnnw yn aelod gyda phleidlais o'r pwyllgor hwnnw.
(3) Os—
(a)oes gan y cyd-bwyllgor swyddogaethau mewn perthynas â rhan yn unig o ardal un o'r awdurdodau lleol o dan sylw;
(b)yw'r swyddogaethau hynny yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod hwnnw; ac
(c)naill ai—
(i)nad yw arwynebedd y rhan honno yn fwy na dwy ran o bump o gyfanswm arwynebedd yr awdurdod; neu
(ii)nad yw poblogaeth y rhan honno, yn ôl amcangyfrif yr awdurdod, yn fwy na dwy ran o bump o gyfanswm poblogaeth yr awdurdod yn ôl yr amcangyfrif hwnnw,
caiff cynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw ar y cyd-bwyllgor gynnwys unrhyw aelodau o'r awdurdod hwnnw sydd wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno o ardal yr awdurdod, ac ni fydd y gofynion ynglyn â chydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi'r aelodau hynny.
(4) Os oes gan y cyd-bwyllgor swyddogaethau mewn perthynas â rhan o ardal un o'r awdurdodau lleol o dan sylw a bod cynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw ar y pwyllgor hwnnw yn cael eu penodi gan yr awdurdod, ni fydd y gofynion ynglyn â chydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi'r cynrychiolwyr hynny a rhaid i'r cynrychiolwyr hynny fod yn aelodau o'r awdurdod lleol hwnnw sydd wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno o ardal yr awdurdod.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: