- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
21 Mehefin 2001
Yn dod i rym
28 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 68(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a Chomisiynydd Lleol yng Nghymru (Swyddogaethau a Threuliau) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Deddf 1974” (“the 1974 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1974(2);
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
(4) Onid yw'n ymddangos bod yna fwriad i'r gwrthwyneb, bydd i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr ystyr a roddir iddynt yn Neddf 1974 neu yn Neddf 2000 (yn ôl fel y digwydd).
2. At ddibenion adran 23(11) o Ddeddf 1974, bydd swyddogaethau Comisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 1974 yn cynnwys swyddogaethau'r Comisiynydd o dan Ran III o Ddeddf 2000.
3. At ddibenion adrannau 23(12), (12A), (12B) a (13), a 23A o Ddeddf 1974 ac Atoden 4 iddi, bydd swyddogaethau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru yn cynnwys ei swyddogaethau o dan Ran III o Ddeddf 2000.
4. At ddibenion paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf 1974, bydd treuliau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 1974 yn cynnwys treuliau'r Comisiwn, neu dreuliau Comisiynydd Lleol yng Nghymru, o dan Ran III o Ddeddf 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
O dan adran 68(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Deddf 2000), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â thrin swyddogaethau Comisiynydd Lleol yng Nghymru a'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 (Deddf 1974) fel pe baent yn cynnwys swyddogaethau penodedig o dan Ran III o Ddeddf 2000. Hefyd caiff y rheoliadau ddarparu i dreuliau'r Comisiwn o dan Ddeddf 1974 gynnwys treuliau Comisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 2000.
Yn y rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan adran 68(3), mae rheoliad 2 yn cymhwyso adran 23(11) (gofyniad i Gomisiynydd Lleol gynhyrchu adroddiad blynyddol ynghylch cyflawni swyddogaethau) o Ddeddf 1974 at swyddogaethau Comisiynydd Lleol o dan Ran II o Ddeddf 2000.
Mae Rheoliad 3 yn cymhwyso adrannau 23(12) (gofyniad i'r Comisiwn gynnal adolygiad bob tair blynedd o weithrediad Rhan III), (12A) (disgresiwn i'r Comisiwn roi cyngor a chanllawiau ynghylch Rhan III), (12B) (y personau y mae'n rhaid ymgynghori â hwy mewn perthynas â chanllawiau adran 23(12A)), (13) (cymhwyso Atodlen 4 at y Comisiwn), adran 23A (Adroddiadau Blynyddol o'r Comisiwn) ac Atodlen 4 (Y Comisiynau) at swyddogaethau'r Comisiwn o dan Ran III o Ddeddf 2000.
Mae rheoliad 4 yn cymhwyso paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf 1974 fel bod treuliau'r Comisiwn o dan y Ddeddf honno yn cynnwys treuliau'r Comisiwn neu dreuliau Comisiynydd o dan Ran III o Ddeddf 2000.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: