Search Legislation

Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 17

ATODLEN 5PRAWF DADANSODDOL AR GYFER GWINOEDD O SAFON PSR

Rhaid i'r prawf dadansoddol ar gyfer unrhyw win y mae ei gynhyrchydd wedi gofyn iddo gael ei ddynodi'n “quality wine psr” (yn ddarostyngedig i baragraff rhif 5 isod) gynnwys mesur pob ffactor a bennir yn y pennawd i baragraff â rhif yn yr Atodlen hon, a'r safon a bennir yng ngweddill y paragraff hwnnw yw'r safon (os oes un) y mae'n ofynnol ei bodloni mewn perthynas â'r ffactor hwnnw er mwyn i'r gwin gael ei ddynodi felly.

Cryfder Alcoholaidd

1.  Cryfder alcoholaidd o 5.5% o leiaf ar gyfer gwinoedd nad yw eu cryfder alcoholaidd naturiol yn llai na 10%.

Cryfder alcoholaidd o 8.5% o leiaf ar gyfer gwinoedd eraill.

Cyfanswm Echdyniad Sych (a geir drwy ddwysfesureg)

2.  O leiaf 15 g/l.

Rhydwytho Siwgrau

3.  Dim safon y mae'n ofynnol ei bodloni.

Cyfanswm Asidedd

4.  Lleiafswm o 5 g/l wedi'i fynegi fel asid tartarig.

Asidedd Anweddol

5.  Uchafswm cynnwys o ran asid anweddol fel y'i disgrifir ym mhwynt B, paragraff 1(a), (b) neu (c), o Atodiad V i Reoliad 1493/1999, fel y'i darllenir gydag Erthygl 20 o Reoliad 1622/2000, ac Atodiad XIII iddo.

pH

6.  Dim safon y mae'n ofynnol ei bodloni.

Sylffwr Deuocsid Rhydd

7.  Pan fydd technegau gwinyddol effeithiol yn cael eu defnyddio i sicrhau sefydlogrwydd y gwin, dim lleiafswm, ac fel arall 15 mg/l.

  • Uchafswm o 45 mg/l ar gyfer gwinoedd sych fel y'u diffinnir yn Erthygl 14(7) o Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 3201/90, fel y'i diwygiwyd.

  • Uchafswm o 60 mg/l ar gyfer gwinoedd eraill.

Cyfanswm y Sylffwr Deuocsid

8.  Uchafswm fel y'i diffinnir ym mhwynt A, paragraffau 1 a 2(a) a (b), o Atodiad V i Reoliad 1493/1999.

Copr

9.  Uchafswm o 0.5 mg/l.

Haearn

10.  Uchafswm o 8 mg/l.

Sterileiddiwch

11.  Rhaid peidio â chael unrhyw arwydd o furumau neu facteria sy'n dueddol o ddifetha'r gwin.

Sefydlogrwydd proteinau

12.  Rhaid i olwg y gwin beidio â newid ar ôl cael ei gadw ar 70°C am 15 munud a'i oeri wedyn i 20°C.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources