- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Os oes cyffuriau'n cael eu cyflewni i glaf yn unol â Chyfarwyddyd Grwp Cleifion, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i'r person sy'n cyflenwi'r cyffuriau godi a chasglu ffi o £6.00 oddi wrth y claf mewn perthynas â chyflenwi pob swm.
(2) Os oes ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1), wrth wneud y taliad rhaid i'r person sy'n talu lofnodi datganiad ysgrifenedig fod y ffi berthnasol wedi'i thalu.
(3) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan y rheoliad hwn oddi wrth glaf sy'n esempt—
(a)o dan baragraff 1(1)(a) i (d) o Atodlen 12 i'r Ddeddf.
(b)o dan reoliad 8, neu
(c)am fod gan y claf hawl i beidio â thalu ffi o dan reoliad 3 o Reoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl,
ac sydd, yn yr achos a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(c) o Atodlen 12 i'r Ddeddf ac yn yr achosion a ddisgrifir yn is-baragraffau (b) ac (c), yn cwblhau datganiad o hawl i gael esemptiad o'r fath neu i beidio â thalu ffi ac yn darparu unrhyw dystiolaeth o'r hawl y mae'r person sy'n cyflenwi'r cyffur yn gofyn yn rhesymol amdani.
(4) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan y rheoliad hwn os yw'r cyffur yn cael ei gyflenwi i gael ei roi'n bersonol gan y person sy'n ei gyflenwi yn unol â'r Cyfarwyddyd Grwp Cleifion.
(5) Os yw'r claf yn gofyn felly, rhaid i berson sy'n codi ac yn casglu ffi o dan y rheoliad hwn roi derbynneb i'r claf am y swm a gafwyd ar ffurflen y mae'n rhaid iddi gynnwys ffurf datganiad i ategu cais am ad-daliad a gwybodaeth ynghylch i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r cyfeiriad at gyflenwi cyffur yn unol â Chyfarwyddyd Grwp Cleifion yn gyfeiriad at gyflenwi cyffur at y diben hwnnw y darperir ar ei gyfer yng Ngorchymyn Meddyginiaethau (Gwerthu gan Fferyllfeydd ac yn Gyffredinol – Esemptiad) 1980(1) neu yng Ngorchymyn Meddyginiaethau Presgripsiwn yn Unig (Defnydd Dynol) 1997(2).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: