Search Legislation

Rheoliadau Darpariaethau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi eu heffaith i'r canlynol ar waith yng Nghymru—

(a)Cyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ar fwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio (OJ Rhif L66, 13.3.99, t.16); a

(b)Cyfarwyddeb 1999/3/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch sefydlu rhestr Gymunedol o fwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio (OJ Rhif L66, 13.3.99, t.24).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi eu heffaith i'r darpariaethau uchod drwy ddiwygio'r Rheoliadau canlynol i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—

(a)Rheoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990 (OS 1990/2490), fel y'u diwygiwyd; a

(b)Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (OS 1996/1499), fel y'u diwygiwyd.

3.  Mae Rheoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990 a Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 yn gymwys i Brydain Fawr gyfan.

4.  Mae'r diwygiadau o sylwedd i Reoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990 fel a ganlyn—

(a)mae diffiniadau o Gyfarwyddebau 1999/2/EC a 1999/3/EC yn cael eu mewnosod yn rheoliad 2(1) (rheoliad 3(a));

(b)mae'r diffiniad o “ionising radiation” yn rheoliad 2(1) yn cael ei ddiwygio (rheoliad 3(b));

(c)mae rheoliad newydd, 6A, yn cael ei fewnosod, yn ei gwneud yn ofynnol bod bwydydd nad ydynt ar gyfer defnyddwyr ac sy'n cael eu trin ag ymbelydredd ïoneiddio yn cael eu labelu (rheoliad 6);

(ch)mae testun rheoliad 8 (amddiffyniad mewn perthynas ag allforio) yn cael ei ddiwygio (rheoliad 8). Erbyn hyn, mewn perthynas â bwyd y bwriedir ei allforio i wlad nad yw'n aelod o'r Gymuned Ewropeaidd yn unig y mae'r amddiffyniad yn gweithredu;

(d)mae'r manylion a bennir ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 1 (manylion sydd i'w hanfon i'r awdurdod trwyddedu gan berson sy'n gwneud cais am drwydded arbelydru) yn cael eu diwygio (rheoliad 9);

(dd)mae'r materion a nodir ym mharagraff 3 o Ran I o Atodlen 1 (materion y mae'n rhaid i'r awdurdod trwyddedu eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu a ddylid rhoi trwydded arbelydru neu ei gwrthod) yn cael eu diwygio (rheoliad 10);

(e)mae'r telerau a'r amodau a nodir yn Rhan II o Atodlen 1 (telerau ac amodau sydd i'w cynnwys mewn trwyddedau arbelydru) yn cael eu hamrywio (rheoliad 11);

(f)mae pwer yn cael ei roi i'r awdurdod trwyddedu a'r trwyddegid i gytuno ar amrywiad yn un o delerau trwydded arbelydru a fewnosodir yn rhinwedd paragraff 4 o Ran II o Atodlen 1 (rheoliad 12);

(ff)mae'r pwer i estyn trwydded arbelydru, a geir ar hyn o bryd yn Rhan IV o Atodlen 1 yn cael ei ddiddymu (rheoliad 13);

(g)mae paragraff 2 diwygiedig o Ran VI o Atodlen 1 (sy'n pennu swm pob ffi y cyfeirir ati yn yr Atodlen honno) yn cael ei roi yn lle paragraff 2 presennol y Rhan honno, sydd hefyd yn pennu swm pob ffi y cyfeirir ati yn Atodlen 1 (rheoliad 14(a));

(ng)mae paragraff 3(b) o Ran VI o Atodlen 1 yn cael ei ddiwygio er mwyn amrywio'r uchafsymiau sydd i'w talu mewn unrhyw un flwyddyn mewn perthynas â'r archwiliadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 9(3) (rheoliad 14(b)); ac

(h)mae Atodlen 2 ddiwygiedig (yn ymwneud â mewnforio bwyd) yn cael ei rhoi yn lle'r Atodlen bresennol sy'n dwyn y rhif hwnnw (sydd hefyd yn ymwneud â mewnforio bwyd) (rheoliad 15).

5.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud rhywfaint o ddiwygiadau canlyniadol i Reoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990.

6.  Dyma'r diwygiadau i'r Rheoliadau Labelu Bwyd—

(a)mae diffiniad o Gyfarwyddeb 1999/2/EC yn cael ei fewnosod yn rheoliad 2(1) (rheoliad 18(a));

(b)mae'r diffiniad o “ionising radiation” yn rheoliad 2(1) yn cael ei ddiwygio (rheoliad 18(b));

(c)mae'r esemptiad yn rheoliad 3(1) ar gyfer bwyd y deuir ag ef i Prydain Fawr o dan amgylchiadau penodol o Aelod-wladwriaeth arall neu o un o wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn cael ei addasu er mwyn ei gwneud yn ofynnol bod bwyd o'r fath yn cydymffurfio (os yw'n gymwys) â Chyfarwyddeb 1999/2/EC (rheoliad 19);

(ch)mae is-baragraff (b) diwygiedig o reoliad 15(4) (yn darparu eithriad i'r gofyniad bod enwau cynhwysion cynhwysyn cyfansawdd a ddefnyddir i baratoi bwyd yn gorfod cael eu rhoi yn y rhestr o gynhwysion y bwyd) yn cael ei roi yn lle'r is-baragraff (b) presennol o reoliad 15(4) (rheoliad 20);

(d)mae rheoliad 26 (pecynnau bach a photeli penodol sydd wedi'u marcio'n annileadwy) yn cael ei ddiwygio i'w gwneud yn ofynnol bod bwyd penodol sydd, er ei fod wedi'i esemptio o'r gofyniad i gael ei farcio neu ei labelu â rhestr o gynhwysion, yn cynnwys cynhwysyn sydd wedi'i arbelydru, yn cael ei farcio a'i labelu yn unol â hynny (rheoliad 21);

(dd)mae rheoliad 35 (sy'n gosod gofyniad cyffredinol ynghylch dull marcio neu labelu bwydydd penodol) yn cael ei ddiwygio fel bod y dewis arall yn lle'r gofyniad hwnnw a geir ar ddiwedd y rheoliad hwnnw yn cael ei ddiwygio yn achos categori penodedig o'r bwyd hwnnw sydd wedi'i arbelydru (rheoliad 22);

(e)mae rheoliad 36 (sy'n gosod gofyniad ynghylch dull marcio neu labelu bwydydd penodol eraill) yn cael ei ddiwygio fel bod—

(i)cymhwyso paragraffau (2) i (4) o'r rheoliad hwnnw (sy'n caniatáu defnyddio labeli gwahanol yn achos bwyd penodol sydd wedi bod yn gynhwysyn a arbelydrwyd neu sy'n cynnwys un) yn cael ei gyfyngu i fwyd sy'n cael ei baratoi ar gyfer cleifion y mae arnynt angen deiet sterilaidd o dan oruchwyliaeth feddygol, a

(ii)yn achos gwerthu bwyd y mae rheoliad 23 neu 27 o OS 1996/1499 yn gymwys iddo ac sydd wedi'i arbelydru (heblaw bwyd a baratoir ar gyfer cleifion y mae arnynt angen deiet sterilaidd o dan oruchwyliaeth feddygol), bod rhaid i'r dogfennau masnachol sy'n ymwneud â'r bwyd ddangos ym mhob achos ei fod wedi'i arbelydru (rheoliad 23); ac

(f)mae'r amddiffyniad mewn perthynas ag allforion (rheoliad 47) yn cael ei ddiweddaru i gynnwys cyfeiriad at Gyfarwyddeb 1999/2/EC (rheoliad 24).

7.  Mae arfarniad rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EN.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources