- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2000.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw corff y mae rheoliad 3(2) yn gymwys iddo;
ystyr “contract Gwasanaeth Iechyd Gwladol” yw'r ystyr a roddir i “NHS contract” yn adran 4(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(1);
ystyr “corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service body”) yw corff y mae rheoliad 3(1) yn gymwys iddo;
ystyr “cynllun gwella iechyd” (“health improvement plan”) yw cynllun y mae'n ofynnol i Awdurdod Iechyd ei baratoi o dan adran 28 o'r Ddeddf;
ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 1999;
ystyr “partneriaid” (“partners”), mewn perthynas â threfniadau partneriaeth, yw un neu fwy o gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac un neu fwy o awdurdodau lleol;
ystyr “swyddogaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service functions”) yw swyddogaethau cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a ragnodir o dan reoliad 5;
ystyr “swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd” (“health related functions”) yw swyddogaethau'r awdurdodau lleol a ragnodir o dan reoliad 6; ac
ystyr “trefniadau partneriaeth” (“partnership arrangements”) yw'r trefniadau a ragnodir o dan reoliadau 7, 8 a 9.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.
3.—(1) Y cyrff yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a ragnodir at ddibenion adran 31 o'r Ddeddf yw —
(a)Awdurdod Iechyd(2); a
(b)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol(3);
(2) Yr awdurdodau lleol a ragnodir at ddibenion adran 31 o'r Ddeddf yw —
(a)cyngor sir; a
(b)cyngor bwrdeistref sirol.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff y partneriaid wneud unrhyw drefniadau partneriaeth mewn perthynas ag arfer —
(a)unrhyw un o swyddogaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a
(b)unrhyw swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd,
os yw'r trefniadau partneriaeth yn debyg o arwain at wella'r ffordd y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer.
(2) Ni chaiff y partneriaid wneud unrhyw drefniadau partneriaeth oni bai eu bod wedi ymgynghori ar y cyd â'r personau hynny y mae'n ymddangos iddynt y bydd y trefniadau hynny yn effeithio arnynt.
(3) Ni chaiff y partneriaid wneud unrhyw drefniadau partneriaeth nad ydynt yn cyflawni'r amcanion a nodir yng nghynllun gwella iechyd yr Awdurdod Iechyd y bwriedir i'r trefniadau i weithredu yn ei ardal.
5. Dyma swyddogaethau cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol —
(a)swyddogaeth darparu, neu drefnu darparu, gwasanaethau —
(i)o dan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf 1977, gan gynnwys gwasanaethau adsefydlu a gwasanaethau y bwriedir iddynt osgoi derbyn cleifion i'r ysbyty ond heb gynnwys llawfeddygaeth, radiotherapi, terfynu beichiogrwydd, endosgopi, defnyddio triniaethau laser Dosbarth 4(4) a thriniaethau trychiadol eraill a gwasanaethau ambiwlansys brys; a
(ii)o dan adran 5(1), (1A) ac 1(B) o Ddeddf 1977(5), ac Atodlen 1 iddi; a
(b)y swyddogaethau o dan adrannau 25A i 25H a 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(6).
6. Dyma'r swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd —
(a)y swyddogaethau a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdodau Lleol 1970(7) ac eithrio swyddogaethau o dan —
(i)adrannau 22, 23(3), 26(2) i (4), 43, 45 a 49 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(8);
(ii)adrannau 6 a 7B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdodau Lleol 1970;
(iii)adrannau 1 a 2 o Ddeddf Mabwysiadu 1976(9);
(iv)adrannau 114 a 115 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;
(v)Deddf Cartrefi Cofrestredig 1984(10)); a
(vi)Rhannau VII i X ac adran 86 o Ddeddf Plant 1989(11);
(b)y swyddogaethau o dan adrannau 5, 7 neu 8 o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986(12)) ac eithrio i'r graddau y maent yn dyrannu swyddogaethau i awdurdod lleol yn rhinwedd eu swydd fel awdurdod addysg lleol;
(c)swyddogaethau darparu, neu sicrhau darparu, cyfleusterau hamdden o dan adran 19 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (13);
(ch)swyddogaethau awdurdodau addysg lleol o dan y Deddfau Addysg fel y'u diffinnir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996(14);
(d)swyddogaethau awdurdodau tai lleol o dan Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adnewyddu 1996(15); ac o dan Rannau VI a VII o Ddeddf Tai 1996(16);
(dd)swyddogaethau awdurdodau lleol o dan adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adnewyddu 1996;
(e)swyddogaethau casglu gwastraff neu waredu gwastraff o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(17);
(f)swyddogaethau darparu gwasanaethau iechyd yr amgylchedd o dan adrannau 180 a 181 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(18));
(ff)swyddogaethau awdurdodau priffyrdd lleol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980(19) ac adran 39 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(20)); ac
(g)y swyddogaethau o dan adran 63 (cludiant i deithwyr) ac adran 93 (cynlluniau gostyngiadau tocynnau teithio) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985(21).
7.—(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, caiff y partneriaid wneud trefniadau ar gyfer sefydlu a chynnal cronfa neu mewn cysylltiad â sefydlu a chynnal cronfa (“trefniadau cyd-gronfa”) a gaiff eu ffurfio o gyfraniadau gan y partneriaid ac y gellir gwneud taliadau ohoni tuag at wariant a dynnir wrth arfer unrhyw rai o swyddogaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd.
(2) Ni chaiff partner sy'n ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol wneud trefniadau cyd-gronfa gyda phartner sy'n awdurdod lleol oni fydd yn sicrhau cydsyniad pob Awdurdod Iechyd y mae ganddo gontract Gwasanaeth Iechyd Gwladol gydag ef ynghylch darparu gwasanaethau ar gyfer personau y gall y swyddogaethau sy'n destun y gyd-gronfa gael eu harfer mewn perthynas â hwy.
(3) Pan yw'r partneriaid wedi penderfynu gwneud trefniadau cyd-gronfa, rhaid i'r trefniadau gael eu gwneud mewn ysgrifen a rhaid iddynt bennu —
(a)y nodau a'r canlyniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y trefniadau cyd-gronfa;
(b)y cyfraniadau sydd i'w gwneud gan bob un o'r partneriaid i'r gyd-gronfa a sut y gall y cyfraniadau hyn gael eu hamrywio;
(c)y swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n destun y trefniadau;
(ch)y personau a'r math o wasanaethau y gellir arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) mewn perthynas â hwy;
(d)y staff, y nwyddau, y gwasanaethau neu'r llety sydd i'w darparu gan y partneriaid mewn cysylltiad â'r trefniadau;
(dd)am faint y bydd y trefniadau yn parhau, a'r ddarpariaeth ar gyfer adolygu'r trefniadau, eu hamrywio neu eu terfynu; ac
(e)sut mae'r gyd-gronfa i gael ei rheoli a'i monitro, gan gynnwys pa bartner fydd y partner lletyol yn unol â pharagraff (4).
(4) Rhaid i'r partneriaid gytuno y bydd un ohonynt (“y partner lletyol”) yn gyfrifol am y cyfrifon ac am yr archwilio ar gyfer trefniadau'r gyd-gronfa a rhaid i'r partner lletyol benodi un o'i swyddogion (“rheolydd y gyd-gronfa”) i fod yn gyfrifol am y canlynol —
(a)rheoli'r gyd-gronfa ar eu rhan, a
(b)cyflwyno adroddiadau chwarterol i'r partneriaid, ynghyd ag adroddiad blynyddol, ynghylch incwm a gwariant y gyd-gronfa a gwybodaeth arall y gall y partneriaid ei defnyddio i fonitro effeithiolrwydd trefniadau'r gyd-gronfa.
(5) Caiff y partneriaid gytuno y caiff un o swyddogion y naill bartner neu'r llall arfer y swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n destun trefniadau'r gyd-gronfa.
(6) Rhaid i'r partner lletyol drefnu archwilio cyfrifon trefniadau'r gyd-gronfa a'i gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn Archwilio wneud trefniadau ar gyfer ardystio adroddiad blynyddol ar y cyfrifon hynny o dan adran 28(1)(d) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998(22).
8.—(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, caiff y partneriaid wneud trefniadau i gyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol arfer swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd wrth i'r cyrff hynny arfer eu swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd.
(2) Pan yw'r partneriaid wedi penderfynu gwneud trefniadau o dan baragraff (1), rhaid i'r cytundeb gael ei wneud mewn ysgrifen a rhaid iddo bennu —
(a)y nodau a'r canlyniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y trefniadau;
(b)y taliadau sydd i'w gwneud gan yr awdurdodau lleol i'r cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sut y gall y taliadau hyn gael eu hamrywio;
(c)y swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd a swyddogaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol y mae eu cyflawni yn destun y trefniadau;
(ch)y personau a'r math o wasanaethau y gellir arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) mewn perthynas â hwy;
(d)y staff, y nwyddau, y gwasanaethau neu'r llety sydd i'w darparu gan y partneriaid mewn cysylltiad â'r trefniadau;
(dd)am faint y bydd y trefniadau yn parhau, a'r ddarpariaeth ar gyfer adolygu'r trefniadau, eu hamrywio neu eu terfynu; ac
(e)y trefniadau sydd ar gael i fonitro sut mae'r cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c).
(3) Rhaid i'r cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol gyflwyno adroddiadau i'r awdurdodau lleol, bob chwarter a phob blwyddyn, ynghylch arfer y swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n destun y trefniadau.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, caiff y partneriaid wneud trefniadau i awdurdodau lleol arfer swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol wrth i'r awdurdodau hynny arfer eu swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd hefyd.
(2) Ni chaiff partner sy'n ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol wneud trefniadau o dan baragraff (1) oni fydd yn sicrhau cydsyniad pob Awdurdod Iechyd y mae gan yr ymddiriedolaeth gontract Gwasanaeth Iechyd Gwladol gydag ef ynghylch darparu gwasanaethau ar gyfer personau y gall y swyddogaethau sy'n destun y trefniadau gael eu harfer mewn perthynas â hwy.
(3) Pan yw'r partneriaid wedi penderfynu gwneud trefniadau o dan baragraff (1), rhaid i'r cytundeb gael ei wneud mewn ysgrifen a rhaid iddo bennu —
(a)y nodau a'r canlyniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y trefniadau;
(b)y taliadau sydd i'w gwneud gan y cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol i'r awdurdodau lleol a sut y gall y taliadau hyn gael eu hamrywio;
(c)y swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol y mae eu harfer yn destun y trefniadau;
(ch)y personau a'r math o wasanaethau y gellir arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) mewn perthynas â hwy;
(d)y staff, y nwyddau, y gwasanaethau neu'r llety sydd i'w darparu gan y partneriaid mewn cysylltiad â'r trefniadau;
(dd)am faint y bydd y trefniadau yn parhau, a'r ddarpariaeth ar gyfer adolygu'r trefniadau, eu hamrywio neu eu terfynu; ac
(e)y trefniadau sydd ar gael i fonitro sut mae'r awdurdodau lleol yn arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c).
(4) Rhaid i'r awdurdodau lleol gyflwyno adroddiadau i'r cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol, bob chwarter a phob blwyddyn, ynghylch arfer y swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n destun y trefniadau.
10.—(1) Mewn cysylltiad ag unrhyw drefniadau partneriaeth, caiff partner benderfynu darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety ar gyfer partner arall.
(2) Caiff y partneriaid ffurfio cyd-bwyllgor i gymryd y cyfrifoldeb dros reoli'r trefniadau partneriaeth gan gynnwys monitro'r trefniadau a derbyn adroddiadau a gwybodaeth am sut mae'r trefniadau'n cael eu gweithredu.
(3) Heb ragfarnu unrhyw weithdrefnau cwyno o dan Ddeddf Gweithdrefnau Cwyno Ysbytai 1985(23) neu o dan adran 7B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdodau Lleol 1970 neu fel arall, pan yw'r partneriaid wedi ffurfio cyd-bwyllgor o dan baragraff (2) mewn perthynas â threfniadau partneriaeth, cânt gytuno bod is-bwyllgor, neu aelod o is-bwyllgor, yn cael ystyried cwynion am y trefniadau partneriaeth os caiff y cwynion eu gwneud gan ddefnyddwyr y gwasanaethau a ddarperir o dan y trefniadau partneriaeth neu ar ran y defnyddwyr hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(24).
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Tachwedd 2000
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: