Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.—(1Ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn –

(a)mae i “addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education” gan adran 2(3) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1));

(b)ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988;

(c)ystyr “gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc” (“worker with children or young persons”) yw person a gyflogir –

(i)gan awdurdod addysg lleol, neu

(ii)gan gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad sy'n dod o fewn adran 218(10) neu (11) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(2);

mewn gwaith, heblaw fel athro neu athrawes, sy'n dod â'r person hwnnw i gyswllt yn rheolaidd â phersonau ifanc sydd heb gyrraedd 19 mlwydd oed.

(ch)ystyr “sefydliad addysg bellach” (“further educaton institution”) yw sefydliad, nad yw'n ysgol, sy'n darparu addysg bellach (p'un a yw'n darparu addysg uwch hefyd neu beidio) ac sydd naill ai –

(i)yn cael ei gynnal gan awdurdod addysg lleol; neu

(ii)yn sefydliad yn y sector addysg bellach (o fewn ystyr adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3));

(d)ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, neu ysgol arbennig(4) nad yw'n cael ei chynnal felly.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gyflogaeth berthnasol yn gyfeiriad at gyflogaeth –

(a)gan awdurdod addysg lleol fel athro neu athrawes (p'un ai mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach neu beidio) neu fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc;

(b)gan unrhyw gorff arall, fel athro neu athrawes mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach;

(c)gan gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc;

(ch)gan berchennog ysgol annibynnol, fel athro neu athrawes neu fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc; a

(d)mewn ysgol annibynnol, fel athro neu athrawes neu fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyflogaeth yn cynnwys ymglymu person i ddarparu ei wasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth a dehonglir cyfeiriadau at gyflogaeth neu gyflogaeth berthnasol yn unol â hynny.

(2)

Diwygiwyd adran 218(10) ac (11) gan adran 93 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), a pharagraff 49 o Atodlen 8 ac Atodlen 9 iddi.

(4)

Ar gyfer ystyr “ysgol arbennig” gweler adrannau 6(2) a 337 o Ddeddf Addysg 1996, fel y'u diwygiwyd yn ôl eu trefn gan baragraffau 60 a 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith 1998.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources