Search Legislation

Rheoliadau Cig (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2000

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn (sy'n gymwys i Gymru yn unig) yn peri yn rhannol fod y darpariaethau yng Nghyfarwyddebau canlynol y Cyngor ynghylch rheoli clefydau yn effeithiol:

Cyfarwyddeb y Cyngor 72/461/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar y fasnach cig ffres o fewn y Gymuned (OJ Rhif L302, 31.12.72, t. 24 (Rhifyn arbennig 1972 31 Rhag (3) t. 3)), a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Cyngor 95/1/EC, Euratom, ECSC (OJ Rhif L1, 1.1.95, t.1);

Cyfarwyddeb y Cyngor 91/494/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach cig dofednod ffres o fewn y Gymuned a mewnforion y cig hwnnw o drydydd gwledydd (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 35), a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 93/121/EC (OJ Rhif L340, 31.12.93, t.39);

Cyfarwyddeb y Cyngor 80/215/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar y fasnach cynhyrchion cig o fewn y Gymuned (OJ Rhif L47, 21.2.80, t. 4), a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Cyngor 95/1/EC, Euratom, ECSC (OJ Rhif L1, 1.1.95, t.1);

Cyfarwyddeb y Cyngor 77/99/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu a marchnata cynhyrchion cig a rhai cynhyrchion eraill sy'n deillio o anifeiliaid (mae testun y Gyfarwyddeb honno wed'i ddisodli gan y testun a atodwyd i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/5/EEC (OJ Rhif L57, 2.3.92, t.1);

Cyfarwyddeb y Cyngor 94/65/EC sy'n nodi'r gofynion ar gyfer cynhyrchu briwgig a pharatoadau cig a'u gosod ar y farchnad (OJ Rhif L368, 31.12.94, t.10).

Mae'r Rheoliadau'n gwneud y prif ddiwygiadau canlynol –

1.  Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995. Mae'n darparu bod rhaid i'r marc iechyd gael ei dros-stampio pan geir cig o dan amgylchiadau lle y mae cyfyngiadau iechyd anifeiliaid yn gymwys mewn cysylltiad â rhai clefydau penodedig. Ni all cig sydd wedi'i dros-stampio neu nad yw wedi'i gynhyrchu ar wahân i gig sydd wedi'i dros-stampio gael ei fasnachu gyda Gwladwriaethau eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

2.  Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995. Mae'n darparu bod rhaid i'r marc iechyd gael ei dros-stampio pan geir cig dofednod o dan amgylchiadau lle y mae cyfyngiadau iechyd anifeiliaid yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw glefyd y mae dofednod yn dueddol o'i gael – yn benodol ffliw adar a chlefyd Newcastle. Ni all cig sydd wedi'i dros-stampio neu nad yw wedi'i gynhyrchu ar wahân i gig sydd wedi'i dros-stampio gael ei fasnachu gyda Gwladwriaethau eraill yr AEE. Hefyd, ni all cig o aderyn sydd wedi'i frechu yn erbyn clefyd Newcastle o fewn 30 diwrnod o gael ei ladd gael ei fasnachu gyda Gwladwriaethau eraill yr AEE.

3.  Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994. Mae'n gwahardd defnyddio cig sydd wedi'i dros-stampio mewn cynhyrchion cig sydd i'w masnachu gyda Gwladwriaethau eraill yr AEE, oni bai bod y cynhyrchion cig yn mynd drwy un o'r mathau o driniaeth a bennir yn rheoliad 4(5) (sy'n diwygio Rhan VIII o Atodlen 2 i Rheoliadau 1994). Rhaid i gynhyrchion cig o'r fath gael eu paratoi o dan oruchwyliaeth filfeddygol, a rhaid cael tystysgrif iechyd i gyd-fynd â hwy, a honno'n cadarnhau eu bod wedi'u trin yn unol â'r Rheoliadau. Erbyn hyn, rhaid cael dogfennau masnachol i gyd-fynd â phob cynnyrch cig wrth ei gludo, yn ychwanegol at y gofyniad i gael tystysgrif iechyd o dan amgylchiadau penodedig.

4.  Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995. Mae'n cyfyngu ar ddefnyddio cig sydd wedi'i dros-stampio mewn briwgig a pharatoadau cig.

5.  Mae rheoliad 6 (a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972 (p.68)) yn gwneud nifer o ddiwygiadau canlyniadol i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124, fel y'i diwygiwyd eisoes).

Mae'r holl Reoliadau sy'n cael eu diwygio gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i Brydain Fawr yn unig. Er hynny, dim ond i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru y mae'r Rheoliadau hyn yn eu diwygio.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources