- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Medi 2000.
(2) Dim ond i Gymru y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.
2.—(1) Os bydd corff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol yn bwriadu newid amserau sesiynau'r ysgol (neu, os nad oes ond un, sesiwn yr ysgol), rhaid iddynt —
(a)ymgynghori â'r awdurdod addysg lleol, y pennaeth a'r holl bersonau a gyflogir mewn swyddi addysgu neu swyddi nad ydynt yn swyddi addysgu yn yr ysgol cyn cymryd unrhyw un o'r camau a nodir ym mharagraffau (b) i (e);
(b)paratoi datganiad—
(i)sy'n dangos eu bod yn bwriadu newid yr amserau hynny,
(ii)sy'n pennu'r newid arfaethedig a phryd maent yn bwriadu iddo ddod yn weithredol,
(iii)sy'n tynnu sylw at unrhyw sylwadau ar y cynnig a gynhwysir fel atodiad i'r datganiad yn rhinwedd paragraff (c) ac sy'n cynnwys unrhyw ymateb i'r sylwadau y barnant i fod yn briodol, a
(iv)sy'n rhoi manylion am ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod y mae'n ofynnol iddynt ei gynnal yn rhinwedd paragraff (dd);
(c)cynnwys, mewn atodiad i'r datganiad hwnnw, unrhyw sylw ysgrifenedig ar y cynnig y bydd yr awdurdod addysg lleol yn ei ddarparu i'r perwyl hwnnw, os yw'r awdurdod yn gofyn amdano;
(ch)cynhyrchu'r datganiad hwnnw ac unrhyw atodiad mewn unrhyw iaith neu ieithoedd (yn ychwanegol at y Gymraeg neu'r Saesneg), os o gwbl, barnant yn briodol neu'n unol ag unrhyw gyfarwyddyd gan yr awdurdod addysg lleol;
(d)cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau—
(i)bod rhieni(1) pob plentyn cofrestredig yn yr ysgol yn cael (yn rhad ac am ddim) gopi o'r datganiad ac unrhyw atodiad nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei gynnal yn rhinwedd paragraff (dd), a
(ii)bod copïau o'r datganiad ac unrhyw atodiad ar gael i'w harchwilio (ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim) yn yr ysgol yn ystod y cyfnod o bythefnos yn union cyn y cyfarfod;
(dd)rhoi cyfle i drafod y cynnig mewn cyfarfod sy'n agored i—
(i)bob un o rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol,
(ii)y pennaeth, a
(iii)unrhyw bersonau arall y bydd y corff llywodraethu yn eu gwahodd;
(e)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ar y cynnig yn y cyfarfod cyn penderfynu a ddylid newid yr amserau ac (os dylid) a ddylid gweithredu'r cynnig gan ei addasu neu heb ei addasu;
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os bydd y corff llywodraethu yn penderfynu gweithredu'r newid arfaethedig (gan ei addasu neu heb ei addasu), rhaid iddynt, o fewn dim llai na chwe wythnos cyn bod unrhyw newid yn yr amserau hynny i ddod yn weithredol—
(i)hysbysu'r awdurdod addysg lleol o'r newid a phryd y bwriedir iddo ddechrau dod yn weithredol, a
(ii)cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn cael eu hysbysu.
(3) Pan fydd a wnelo'r newid â'r amserau y bwriedir i sesiwn ysgol ddechrau yn y bore neu ddod i ben yn y prynhawn (neu'r ddau) ni fydd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn llai na thri mis.
3. Ni fydd newid i amserau sesiynau ysgolion yn cael ei wneud ond er mwyn iddo ddod yn weithredol —
(a)pan fydd rheoliad 2(3) yn gymwys, ar ddechrau blwyddyn ysgol; a
(b)ym mhob achos arall, ar ddechrau tymor ysgol.
4. Bydd trafodion unrhyw gyfarfod y mae'n rhaid darparu cyfle i drafod ynddo yn rhinwedd Rheoliad 2(1)(dd) o dan reolaeth y corff llywodraethu.
Llofnodwyd ar ran Cynullaid Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
Jane Davidson
Y Dirprwy Lywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Gorffennaf 2000
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: