Search Legislation

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1941 (Cy.139)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000

Wedi'i wneud

19 Gorffennaf 2000

Yn dod i rym

1 Medi 2000

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod o'r farn ei bod yn briodol, o gofio amcanion cyffredinol Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, i'r Cyngor gyflawni'r swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn, ac ar ôl ymgynghori fel y gwêl yn dda, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 a daw i rym ar 1 Medi 2000.

2.  Yn y Gorchymyn hwn –

  • ystyr “athro neu athrawes cynllun carlam” (“fast track teacher”) yw athro neu athrawes ddosbarth y mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth neu asesydd a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol wedi eu hardystio felly;

  • ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person sydd am y tro wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;

  • mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr un ystyr ag a roddir i “qualified teacher” yn adran 218(2) o Ddeddf 1988(3);

  • ystyr “athro neu athrawes sydd wedi croesi'r trothwy” (“teacher who has passed the threshold”) yw athro neu athrawes y mae asesydd a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth wedi ardystio eu bod wedi croesi'r trothwy perfformiad a bennwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu y mae pennaeth neu berson arall wedi eu hardystio felly o dan drefniadau sydd wedi'u cymeradwyo gan asesydd;

  • ystyr “athro neu athrawes uwch-fedrau” (“advanced skills teacher”) yw athro neu athrawes sydd wedi'u hardystio gan asesydd a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth yn un sy'n gymwys i'w penodi i swydd athro neu athrawes uwch-fedrau;

  • mae “cyflogaeth” (“employment”) mewn perthynas â chyflogaeth athro neu athrawes yn cynnwys rhoi gwaith i'r athro neu'r athrawes neu trefnu rhoi gwaith iddynt er mwyn iddynt ddarparu eu gwasanaeth fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, a dehonglir “cyflogi” (“employed”) yn unol â hynny;

  • ystyr “cyfnod ymsefydlu” (“induction period”) yw cyfnod ymsefydlu a fwrir yn unol â rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf 1998(4);

  • ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Diwygio Addysg 1988(5);

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998; ac

  • ystyr “y Gofrestr” (“the Register”) yw'r gofrestr o athrawon ac athrawesau y mae'n ofynnol i'r Cyngor ei sefydlu a'i chadw yn unol ag adran 3 o Ddeddf 1998 a rheoliadau a wnaed o dan adran 4 o'r Ddeddf honno, a dehonglir “cofrestru” (“registration”) yn unol â hynny.

3.—(1Drwy hyn rhoddir i'r Cyngor y swyddogaeth ychwanegol o gadw cofnodion sy'n ymwneud â'r categorïau o bersonau a restrir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

(2Bydd y cofnodion a grybwyllir ym mharagraff (1) yn cynnwys yr wybodaeth a restrir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i'r graddau y mae'n gymwys i'r person o dan sylw.

(3Caiff y cofnodion a grybwyllwyd ym mharagraff (1) eu cadw ar ffurf ysgrifenedig neu ar ffurf electronig.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Gorffennaf 2000

Erthygl 3

ATODLEN

RHAN IPersonau y mae'n ofynnol i'r Cyngor gadw cofnodion mewn perthynas â hwy

1.  Personau y mae eu henwau wedi'u tynnu oddi ar y Gofrestr heblaw rhai y cafodd eu henwau eu tynnu ar eu cais hwy eu hunain neu sydd wedi marw.

2.  Personau sy'n anghymwys i'w cofrestru yn rhinwedd adran 3(3)(a) i (c) a (4) o Ddeddf 1998.

3.  Athrawon neu athrawesau cymwysedig nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig.

4.  Personau nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig, sydd wedi dechrau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac athrawesau, p'un a ydynt wedi cwblhau'r cwrs hwnnw neu beidio.

5.  Personau nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cymwysedig ac sy'n cael eu cyflogi yn athrawon neu athrawesau mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol.

6.  Personau nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig ac sy'n paratoi at Gymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol Prifathrawiaeth, neu wedi'i ennill.

7.  Personau nad ydynt yn perthyn i unrhyw un o'r categorïau uchod ac nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig, sydd —

(a)â rhif cyfeirnod swyddogol wedi'i ddyrannu iddynt; a

(b)yn cael eu cyflogi, neu wedi cael eu cyflogi ar unrhyw adeg, yn athro neu'n athrawes mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall.

RHAN IIYr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cofnodion

1.  Y rhif cyfeirnod swyddogol, os oes un, a ddyrannwyd i'r person.

2.  Ai gwryw ynteu fenyw yw'r person.

3.  Dyddiad geni'r person.

4.  Os yw'n hysbys, unrhyw enw y câi'r person ei adnabod wrtho o'r blaen.

5.  Os yw'n hysbys, i ba grŵp hil y mae'r person yn perthyn.

6.  Os yw'n hysbys, a yw'r person yn anabl.

7.  Cyfeiriad cartref y person, neu gyfeiriad cyswllt arall, rhif ffôn, rhif cyflunydd a chyfeiriad post electronig.

8.  Rhif yswiriant gwladol y person.

9.—(1Os yw'n hysbys, pan yw'r person yn cael ei gyflogi fel athro neu athrawes —

(a)enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyflunydd a chyfeiriad post electronig yr ysgol neu'r sefydliad lle mae'r person yn cael ei gyflogi i addysgu;

(b)manylion y math o ysgol neu sefydliad lle mae'r person yn cael ei gyflogi i addysgu ac enw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu'r sefydliad os yw hynny'n gymwys;

(c)ai cyflogaeth amser-llawn neu ran-amser ydyw;

(ch)y swydd sydd gan y person; a

(d)y dyddiad yr ymgymerodd y person â'i swydd bresennol.

(2Pan nad yw'r person yn cael ei gyflogi fel athro neu athrawes ar hyn o bryd, y dyddiad diwethaf pryd yr oedd yn cael ei gyflogi felly, a'r manylion ym mharagraffau (a) i (d) o is-baragraff (1) mewn perthynas â'i swydd addysgu ddiweddaraf.

10.  A yw'r person wedi ymddeol, yn cymryd saib gyrfa, yn ddi-waith neu yn cael ei gyflogi heblaw fel athro neu athrawes.

11.  Pan fo gan y person radd neu gymhwyster cyfatebol —

(a)y dyddiad y'i dyfarnwyd;

(b)y teitl;

(c)y sefydliad a'i dyfarnodd;

(ch)dosbarth y radd neu'r cymhwyster; a

(d)y pwnc.

12.  Y dyddiad yr enillodd y person gymhwyster athro neu athrawes.

13.  Y dyddiad yr ymgymerodd y person â'i swydd gyntaf fel athro neu athrawes gymwysedig.

14.  Pan yw'r person wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon neu athrawesau yn llwyddiannus —

(a)enw'r sefydliad a ddarparodd y cwrs;

(b)teitl neu ddisgrifiad y cwrs;

(c)y pwnc neu'r pynciau a astudiwyd gan y person;

(ch)oedrannau'r disgyblion y bwriadwyd y cwrs i baratoi'r person i'w haddysgu; a

(d)dyddiad dechrau a chwblhau'r cwrs.

15.  Pan enillodd y person gymhwyster athro neu athrawes gymwysedig heblaw drwy gwblhau cwrs hyfforddiant cychwynol i athrawon ac athrawesau yn llwyddiannus —

(a)y math o raglen hyfforddi a gwblhawyd;

(b)enw'r ysgol neu'r sefydliad lle gwnaed yr ymarfer addysgu; ac

(c)dyddiad cwblhau'r rhaglen hyfforddi.

16.  Os ydynt yn hysbys,

(a)manylion unrhyw gymhwyster sydd gan y person ar gyfer addysgu'r rhai y mae ganddynt nam ar eu golwg neu eu clyw, fel y cyfeirir ato yn rheoliad 11, 12 neu 13 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(7);

(b)os dyfarnwyd y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth i'r person, nodyn i ddweud hynny a dyddiad y dyfarniad;

(c)manylion unrhyw gymhwyster proffesiynol neu academaidd arall sydd gan y person; ac

(ch)os yw'r athro neu'r athrawes yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, nodyn i ddweud hynny.

17.  Os yw'n hysbys —

(a)os yw'r person yn athro neu athrawes sydd wedi croesi'r trothwy, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y croesodd y person y trothwy ac enw'r ysgol lle'r oedd y person yn cael ei gyflogi pan groesodd y trothwy;

(b)os athro neu athrawes uwch-fedrau yw'r person, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad yr ardystiwyd y person yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau ac enw'r ysgol lle'r oedd y person yn cael ei gyflogi pan gafodd ei ardystio yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau;

(c)os athro neu athrawes cynllun carlam yw'r person, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad yr ymunodd y person â'r cynllun carlam, a'r ysgol lle'r oedd y person yn cael ei gyflogi pan ymunodd â'r cynllun carlam.

18.—(1Pan yw'r person wedi bwrw cyfnod ymsefydlu neu ran o gyfnod ymsefydlu, boed yng Nghymru neu Loegr, —

(a)enw'r corff priodol (o fewn ystyr “appropriate body” yn adran 19 o Ddeddf 1998);

(b)y dyddiad y dechreuodd y person y cyfnod ymsefydlu;

(c)os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y person wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus, a dyddiad ei gwblhau;

(ch)os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y person wedi methu â chwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus;

(d)os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y cyfnod ymsefydlu wedi'i estyn ar gyfer y person, a chyfnod yr estyniad; a

(dd)os yw'n gymwys, nodyn i ddweud mai rhan yn unig o'r cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i chwblhau gan y person, a'r cyfnod sydd wedi'i fwrw.

(2Pan nad yw'r person wedi bwrw cyfnod ymsefydlu,

(a)a yw'r person yn esempt rhag y gofyniad i fwrw cyfnod ymsefydlu, a'r rheswm dros yr esemptiad; neu

(b)os nad oedd yn ofynnol bwrw cyfnod ymsefydlu ar yr adeg berthnasol, datganiad o'r ffaith honno(8).

19.  Os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y person wedi methu cyfnod prawf, ac a yw'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cydsynio i'r person gael ei gyflogi fel athro neu athrawes o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218(1) a (2) o Ddeddf 1988(9).

20.  Pan yw'r person yn athro neu'n athrawes gymwysedig sy'n anghymwys i gael ei gofrestru yn unol ag adran 3(3) o Ddeddf 1998 a rheoliadau o dan adran 4 ohoni, manylion y cyfarwyddyd, y gorchymyn disgyblu neu'r gwaharddiad arall y mae'r person yn anghymwys i'w gofrestru o'i herwydd.

21.  Pan yw enw'r person wedi'i dynnu oddi ar y Gofrestr, manylion ar ba sail y cafodd enw'r person ei dynnu oddi ar y Gofrestr.

22.  Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person o ganlyniad i gyfarwyddyd a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd adran 218(6) o Ddeddf 1988(10).

23.  Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person o ganlyniad i achos disgyblu a ddygwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

24.  Os yw'n gymwys, nodyn bod y person wedi ymddeol o dan reoliad E4(4) o Reoliadau Pensiwn Athrawon 1997(11)) (ymddeoliad afiechyd).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, corff corfforaethol a sefydlwyd gan Orchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998, a wnaed o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adran 8. O dan Ddeddf 1998 mae swyddogaethau'r Cyngor yn cynnwys sefydlu a chadw cofrestr o athrawon ac athrawesau, cyhoeddi Cod Ymarfer yn nodi'r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir oddi wrth athrawon ac athrawesau cofrestredig, arfer pwerau disgyblu mewn perthynas ag athrawon ac athrawesau cofrestredig a phersonau sy'n gwneud cais am gofrestru a rhoi cyngor ynghylch materion addysgu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac eraill.

Y swyddogaethau ychwanegol y mae'r Gorchymyn hwn yn eu rhoi yw cadw cofnodion ar ffurf ysgrifenedig neu electronig mewn perthynas â'r categorïau o bersonau a grybwyllir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn. Personau yw'r rhain sy'n:

(i)athrawon neu athrawesau y mae eu henwau wedi'u tynnu oddi ar y gofrestr,

(ii)rhai athrawon neu athrawesau sy'n anghymwys i'w cofrestru,

(iii)athrawon neu athrawesau a chanddynt statws athro neu athrawes gymwysedig sydd heb gofrestru,

(iv)personau sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant athrawon ac athrawesau,

(v)rhai athrawon neu athrawesau sydd heb ennill cymhwyster,

(vi)athrawon neu athrawesau anghofrestredig sy'n paratoi at y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth,

(vii)personau anghofrestredig y mae ganddynt rif cyfeirnod fel athro neu athrawes ac sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio yn y gorffennol fel athrawon neu athrawesau.

Nodir yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cofnodion yn Rhan II o'r Atodlen ac mae'n debyg i'r wybodaeth sydd i'w chofnodi ar y gofrestr mewn perthynas ag athrawon neu athrawesau cofrestredig.

(1)

1998 p.30. Yn effeithiol o 1 Medi 2000 ymlaen, bydd y darpariaethau perthnasol yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o Orchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911). I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 43(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

Adeg gwneud y Gorchymyn hwn y rheoliadau mewn grym o dan y ddarpariaeth hon ar gyfer Cymru oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817). Adeg gwneud y Gorchymyn hwn y rheoliadau mewn grym o dan y ddarpariaeth hon ar gyfer Lloegr oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166).

(4)

Adeg gwneud y Gorchymyn hwn nid oedd rheoliadau mewn grym o dan y ddarpariaeth hon mewn perthynas â Chymru. Adeg gwneud y Gorchymyn hwn y rheoliadau mewn grym o dan y ddarpariaeth hon mewn perthynas â Lloegr oedd Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu Athrawon Ysgol) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/1065) a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2211.

(8)

Adeg gwneud y Gorchymyn hwn, nid oedd ymsefydlu'n ofynnol ar gyfer athrawon ac athrawesau yng Nghymru; nid oedd rheoliadau wedi'u gwneud o dan adran 19 o Ddeddf 1998 mewn perthynas â Chymru. Mae'r gofyniad ynghylch cyfnod ymsefydlu yn Lloegr yn gymwys ers 1 Medi 1999 (O.S. 1999/1065).

(9)

Gweler nodyn (c) ar dudalen 3 uchod.

(10)

Adeg gwneud y Gorchymyn hwn y rheoliadau mewn grym o dan y ddarpariaeth hon oedd Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993 (O.S. 1993/543); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S 1995/2594 a 1998/1584.

(11)

O.S. 1997/3001 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources