Search Legislation

Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau)(Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

(2Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “adolygiad gwasanaeth gwladol” (“national service review”) yw adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn o dan adran 20(1)(d) o'r Ddeddf;

  • ystyr “adolygiad lleol” (“local review”) yw adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn o dan adran 20(1)(b) o'r Ddeddf neu reoliad 2(c) neu (d) o'r Rheoliadau Swyddogaethau;

  • ystyr “ymchwiliad”(“investigation”) yw ymchwiliad gan y Comisiwn yn unol ag adran 20(1)(c) o'r Ddeddf neu reoliad 2(3) o'r Rheoliadau Swyddogaethau;

  • ystyr “Awdurdod Iechyd perthnasol” (“relevant Health Authority”) yw'r Awdurdod Iechyd y mae darparydd gwasanaethau yn darparu gwasanaethau yn ei ardal;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o 12 mis yn gorffen ar 31 Mawrth;

  • ystyr “y Comisiwn Archwilio” (“the Audit Commission”) yw'r Comisiwn Archwilio dros Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr;

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw'r Comisiwn Gwella Iechyd a sefydlwyd gan adran 19 o'r Ddeddf;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “darparydd gwasanaethau” (“service provider”) yw person, heblaw corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd —

    (a)

    yn darparu gwasanaethau Rhan II; neu

    (b)

    yn darparu gwasanaethau yn unol â chynllun peilot o dan Ddeddf 1997(1);

  • ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;

  • ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd (Gofal Sylfaenol) 1997(2);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 1999;

  • mae i “gwasanaethau meddygol personol” (“personal medical services”) yr ystyr a roddir i “personal medical services” yn adran 1(8) o Ddeddf 1977;

  • ystyr “gwasanaethau Rhan II”(“Part II services”) yw gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwasanaethau deintyddol cyffredinol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu wasanaethau fferyllol o dan Ran II o Ddeddf 1977;

  • ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi'i gofrestru fel aelod o broffesiwn gofal iechyd;

  • ystyr “proffesiwn gofal iechyd”(“health care profession”) yw proffesiwn y mae adran 60(2) o'r Ddeddf yn gymwys iddo;

  • ystyr “y Rheoliadau Swyddogaethau” (“the Functions Regulations”) yw Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) 2000(3);

  • ystyr “trefniadau llywodraethu clinigol” (“clinical governance arrangements”) yw trefniadau gan gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu ddarparydd gwasanaethau ar gyfer monitro a gwella ansawdd y gofal iechyd(4) y mae ganddynt gyfrifoldeb drosto;

  • ystyr “ymchwiliad gwasanaeth iechyd” (“health service inquiry”) yw ymchwiliad a gynhelir neu a sefydlir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i unrhyw fater ynglŷn â rheoli, darparu, ac ansawdd y gofal iechyd y mae cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu ddarparwyr gwasanaethau yn gyfrifol amdanynt;

(3Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

(1)

Gweler adran 1 o Ddeddf 1997 ar gyfer diffiniad o “pilot scheme”.

(4)

Gweler adrannau 18(3) a 20(7) o Ddeddf 1999 ar gyfer y diffiniad o “health care”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources