Pennod 1- Perfformiad
71.Mae'r Bennod hon yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf 1996 er mwyn cryfhau pwerau Gweinidogion Cymru gyda golwg ar berfformiad LCCau.
72.Mae adrannau 35 i 37 yn mewnosod adrannau 33A i 33C o flaen adran 34 o Ddeddf 1996.
Adran 35 - Safonau perfformiad
73.Mae is-adran (1) o'r adran 33A newydd yn rhoi i Weinidogion Cymru'r pŵer i osod safonau perfformiad ar gyfer LCCau. Fe ddichon y safonau hyn fod yn gymwys i swyddogaethau'r LCCau sy'n ymwneud â darparu tai neu â llywodraethu neu reolaeth ariannol dros yr LCCau.
74.Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth osod safonau, roi sylw i fuddioldeb gadael i LCCau fod yn rhydd i ddewis sut i ddarparu gwasanaethau a gweithredu'u busnes.
Adran 36 - Canllawiau ar safonau perfformiad
75.Mae adrannau (1) a (2) o'r adran 33B newydd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd ynghylch y safonau a osodir ganddynt, ac y caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i'r canllawiau hyn wrth ystyried a yw'r safonau wedi'u bodloni ai peidio.
76.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru adolygu'r cyfryw ganllawiau neu eu tynnu'n ôl.
77.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddwyn y canllawiau i sylw'r LCCau.
Adran 37 - Ymgynghori
78.Mae'r adran 33C newydd yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag un neu fwy o gyrff sy'n cynrychioli buddiannau'r LCCau cyn gosod safonau neu roi neu adolygu canllawiau neu eu tynnu'n ôl.
Adran 38 - Gwybodaeth am lefelau perfformiad
79.Mae'r adran hon (is-adran (2)) yn diwygio adran 35 o Ddeddf 1996 fel y'i bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru gasglu gwybodaeth oddi wrth LCCau ynglŷn â lefel eu perfformiad, sy'n ymwneud â'u darpariaeth tai yng Nghymru ac â'u llywodraethu a'u rheolaeth ariannol
80.Mae is-adran (3) yn cadw'r ddyletswydd bresennol ar Weinidogion Cymru i gasglu gwybodaeth ynglŷn â pherfformiad yr LCCau yn Lloegr.
81.Mae is-adran (4) yn diwygio is-adran (2) o adran 35 o Ddeddf 1996 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd i bob LCC i roi gwybodaeth iddynt ynglŷn â'r lefel o berfformiad a gyrhaeddwyd gan yr LCC ym mhob un o'r safonau a osodwyd o dan adran 33A o Ddeddf 1996 (a fewnosodwyd gan adran 35 o'r Mesur hwn). Mae methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o'r fath, heb esgus rhesymol, yn drosedd sy'n dwyn cosb o ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (sef £5,000 ar hyn o bryd).
Adran 39 - Canllawiau ynghylch cwynion ynghylch perfformiad
82.Mae'r adran hon yn mewnosod adran 35A newydd yn Neddf 1996 sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ynglŷn â sut mae cwyno wrthynt hwy ynghylch perfformiad LCCau. Fe ddichon y canllawiau bennu materion amrywiol, megis y weithdrefn gwyno, y meini prawf sydd i'w defnyddio gan Weinidogion Cymru wrth benderfynu p'un ai i ymchwilio i mewn i gwyn ai peidio, ac o fewn pa gyfnod y maent yn anelu at hysbysu achwynyddion o'r canlyniad.
83.Mae is-adran (3) o'r adran 35A newydd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru adolygu cyfarwyddyd o'r fath neu ei dynnu'n ôl.
Adran 40 - Ymgynghori
84.Mae'r adran hon yn mewnosod adran 35B newydd yn Neddf 1996 sy'n darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, os ydynt yn cyhoeddi canllawiau ynglŷn â chwynion wrthynt ynghylch perfformiad, ymgynghori ar y canllawiau cyn eu cyhoeddi.