Adran 23 Dyletswydd darparwyr gofal dydd i gofrestru
61.Mae adran 23 yn gosod dyletswydd ar unrhyw berson (p’un a yw’n berson naturiol neu’n gorff corfforaethol neu anghorfforedig o bersonau) sy’n darparu gofal dydd i blant yng Nghymru i gael ei gofrestru gan Weinidogion Cymru. Bydd person sy’n gwneud hynny heb gofrestru a heb esgus rhesymol yn cyflawni tramgwydd. Mae is-adran (3) yn darparu bod person a geir yn euog gan Lys Ynadon o dramgwydd o dan is-adran (2) yn agored i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd).