Adran 16: Pŵer i’w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth yn cael ei rhoi
49.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud yn ofynnol bod awdurdod lleol neu unrhyw berson yr ymrwymodd yr awdurdod lleol i drefniadau gydag ef wrth arfer y swyddogaethau o dan adrannau 7 i 10, yn darparu iddynt wybodaeth, dogfennau neu gofnodion sy’n berthnasol. Mae’r pŵer yn cynnwys unrhyw wybodaeth, dogfennau neu gofnodion sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12 ac sy’n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru at ddibenion eu swyddogaethau o dan y Rhan hon ac mae hefyd yn cwmpasu sefyllfa lle mae person ar wahân i Weinidogion Cymru yn cynnal arolygiadau am fod rheoliadau o dan adran 13(2) yn darparu ar gyfer hynny.