Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Erthygl 3

YR ATODLENAddasiadau i Fanyleb Safonau Prentisiaethau Cymru

1.  Yn lle paragraff 1 rhodder—

1.  Mae Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru (“SASW”) yn nodi’r gofynion sylfaenol i’w cynnwys mewn fframwaith prentisiaeth Cymreig cydnabyddedig. Mae cydymffurfio â’r SASW yn un o ofynion statudol Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009. Mae’r fersiwn hon yn ymgorffori’r addasiadau a wnaed i’r SASW wreiddiol a gyhoeddwyd ym mis Mai 2013 a’r addasiadau a wnaed yn 2016.

Mae’n ymgorffori addasiadau er mwyn caniatáu cymwysterau “procsi” ychwanegol fel dewis arall cydnabyddedig yn lle Sgiliau Hanfodol fel y manylir arnynt o dan bob lefel fframwaith prentisiaeth, ac mae’n cynnwys cynnig mwy cynhwysol i bobl ag anawsterau ac anableddau dysgu er mwyn ehangu cyfranogiad, gan agor y gofynion mynediad o ran sgiliau hanfodol ar gyfer lefelau 2 a 3.

Mae’n cynnwys adran newydd ar brentisiaethau gradd a phroffesiynol (lefelau 6 a 7), sy’n dileu’r gofynion o ran sgiliau hanfodol ar gyfer prentisiaethau ar y lefel hon.

Mae canllawiau cyfredol wedi eu cyhoeddi mewn dogfen ar wahân. Rhaid i Awdurdodau Cyhoeddi Cymru roi sylw i’r canllawiau cyfredol hyn wrth wneud penderfyniad ynghylch a yw cyflwyniad fframwaith yn cydymffurfio â’r SASW.

Mae’r addasiadau i’r SASW wedi eu gwneud drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.

2.  Yn lle paragraff 2 rhodder—

2.  Rhaid i fframwaith prentisiaeth bennu ei lefel gan ddefnyddio’r disgrifyddion lefel cenedlaethol a ddisgrifir yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (“FfCChC”).

3.  Yn lle paragraff 3 rhodder—

3.  Rhaid i fframwaith fod ar Lefel 2 i fod yn gymwys fel Prentisiaeth Sylfaen, ar Lefel 3 i fod yn gymwys fel Prentisiaeth, ar Lefel 4 neu 5 i fod yn gymwys fel Prentisiaeth Uwch ac ar Lefel 6 neu 7 i fod yn gymwys fel Prentisiaeth Gradd neu Broffesiynol.

4.  Yn lle paragraff 6 rhodder—

6.  Rhaid i fframwaith fod yn 38 o gredydau o leiaf, heb gynnwys credydau sgiliau hanfodol, ond pan fo’n briodol, gall fod yn fwy na hyn; mewn sawl achos bydd fframweithiau gryn dipyn yn fwy na 38 o gredydau. Ni all fframwaith fod mor gul fel nad yw ond yn berthnasol i weithle penodol lle yr enillwyd y brentisiaeth.

5.  Yn lle paragraff 10 rhodder—

10.  Bydd y datblygwr fframwaith yn penderfynu ar gydbwysedd y credydau rhwng cymwyseddau galwedigaethol a chymwysterau gwybodaeth dechnegol perthnasol. Fodd bynnag, rhaid i’r fframwaith bennu:

(a)o leiaf 19 o gredydau a gyflawnwyd o gymhwyster ar sail cymhwysedd galwedigaethol neu elfen cymhwysedd cymhwyster integredig, sy’n ymwneud yn benodol â’r sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth ac sy’n seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) lle y maent yn bodoli, neu safonau ar gyfer y diwydiant cyfan neu, lle nad ydynt yn bodoli, safonau proffesiynol ar gyfer y sector cyflogaeth y lluniwyd y fframwaith ar ei gyfer a rhaid iddo fod ar lefel sy’n adlewyrchu rôl y swydd; a

(b)o leiaf 19 o gredydau a gyflawnwyd o gymhwyster gwybodaeth dechnegol neu elfen gwybodaeth cymhwyster integredig sy’n darparu’r wybodaeth dechnegol a’r ddealltwriaeth o’r cysyniadau damcaniaethol sy’n ymwneud yn benodol â’r sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth i ategu cymhwysedd galwedigaethol. Rhaid i’r elfen cymhwyster gwybodaeth roi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r diwydiant a’i farchnad i’r prentis; neu

(c)o leiaf 19 o gredydau o gymhwyster cymwyseddau cyfatebol (nad ydynt yn rhai FfCChC) a gydnabyddir gan gorff proffesiynol ar gyfer Prentisiaeth Uwch ar Lefelau 4 neu 5 a Phrentisiaethau Gradd neu Broffesiynol Lefelau 6 neu 7 pan fo cwblhau prentisiaeth o’r fath yn llwyddiannus yn llwybr cydnabyddedig at gofrestru proffesiynol.

6.  Yn lle is-baragraff 11(b) rhodder—

(b)y cynnwys dysgu o gymhwyster cymwyseddau cyfatebol a gydnabyddir gan gorff proffesiynol ar gyfer Prentisiaeth Uwch a Phrentisiaeth Gradd a Phroffesiynol, pan fo cwblhau prentisiaeth o’r fath yn llwybr cydnabyddedig at gofrestru proffesiynol.

7.  Ar ôl paragraff 16 mewnosoder—

16A.  Mae’n bosibl y bydd rhai prentisiaid ag anhawster dysgu neu anabledd dysgu yn gallu cyrraedd y safon alwedigaethol ond y byddant yn ei chael hi’n anodd cyflawni’r cymhwyster mewn Saesneg neu fathemateg ar y lefel sy’n ofynnol fel arfer. Disgwylir i ddarparwyr barhau i wneud pob ymdrech i helpu prentisiaid i gyrraedd y safonau hyn.

Fodd bynnag, gan gydnabod y rhwystrau i gyfranogiad y gall y gofynion hyn eu peri i berson ag anhawster neu anabledd dysgu, caniateir eithriadau ar gyfer prentisiaethau sylfaen a phrentisiaethau i’r gofynion sylfaenol ar gyfer Saesneg a mathemateg.

Bydd rhesymoldeb yr addasiad sydd i’w wneud yn dibynnu ar amgylchiadau unigol y prentis a’i asesiad. Gall yr addasiad fod yn gymwys i un pwnc, neu i Saesneg a mathemateg ill dwy. Os nad yw’r addasiad ond yn cael ei gymhwyso i un pwnc, bydd y gofynion arferol ar gyfer y pwnc nas addaswyd yn parhau i fod yn gymwys. Gall y darparwr ystyried addasu’r gofynion sylfaenol am Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif fesul achos unigol pan fo’r holl amodau a ganlyn wedi eu bodloni:

  • Mae gan y prentis naill ai fersiwn gyfredol neu fersiwn a ddyroddwyd yn flaenorol o Gynllun Datblygu Unigol (CDU), datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal (AIG), neu Gynllun Dysgu a Sgiliau (CDS);

  • Cynhelir asesiad â thystiolaeth sy’n dangos nad yw’r prentis, hyd yn oed gyda chymorth ac addasiadau, yn gallu cyflawni Saesneg neu fathemateg i’r lefel ofynnol o ganlyniad i’w anhawster dysgu neu ei anabledd dysgu;

  • Rhaid i’r cyflogwr a’r darparwr ddisgwyl yn rhesymol y bydd y prentis yn gallu cyflawni’n llwyddiannus bob agwedd arall ar ofynion y brentisiaeth, dod yn gymwys yn alwedigaethol a chyflawni Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif yn y pynciau a addaswyd cyn diwedd ei brentisiaeth; ac

  • Nid oes unrhyw ofynion mynediad sylfaenol ar gyfer y diwydiant penodol hwnnw.

8.  Yn lle paragraff 19 rhodder—

19.  Gall fframwaith Prentisiaeth Uwch ar Lefelau 4 neu 5 neu Brentisiaeth Gradd neu Broffesiynol Lefelau 6 neu 7 bennu cymwysterau proffesiynol ychwanegol fel y’u cydnabyddir gan y sector os ydynt yn rhoi cymhwystra ar gyfer statws proffesiynol.

9.  Yn lle paragraff 24 rhodder—

24.  Gall fframwaith prentisiaeth sylfaen bennu fel un o ofynion tystysgrif Cymru gymhwyster mewn Sgiliau Hanfodol mewn Llythrennedd Digidol i Lefel 1 o leiaf, oni fydd Llythrennedd Digidol yn amherthnasol i berfformiad effeithiol yn y sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth y mae’r fframwaith yn ymwneud ag ef/â hi. Fodd bynnag, caniateir eithriadau mewn cysylltiad â phrentisiaid ag anawsterau dysgu neu anabledd dysgu fel yr amlinellir ym mharagraff 16A.

10.  Ar ôl paragraff 25 mewnosoder—

25A.  Gall yr awdurdod dyroddi, yn ôl ei ddisgresiwn, bennu mewn fframwaith y derbynnir cymwysterau rheoleiddiedig sy’n cyfateb i’r cymwysterau procsi a restrir yn y SASW ar gyfer Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu sydd ar lefel uwch na’r cymwysterau procsi hynny. Rhaid i unrhyw gymwysterau o’r fath roi tystiolaeth bod y cymwyseddau a asesir yn y cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn cyfathrebu a rhif wedi eu cwblhau.

25B.  Pan bennir cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn fframwaith prentisiaeth sylfaen, rhaid i’r fframwaith prentisiaeth bennu fel un o ofynion tystysgrif Cymru y derbynnir un o’r cymwysterau procsi cydnabyddedig a amlinellir yn y tablau isod:

Cymhwyster SaesnegMeini prawf Lefel / Gradd
Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu neu Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu 1Lefel 1 o leiaf

TGAU/TGAU Ryngwladol Saesneg - unrhyw un â Saesneg yn yr enw. Gan gynnwys:

Llenyddiaeth Saesneg, Saesneg Iaith, Astudiaethau Saesneg a Chyfathrebu Saesneg

Cyrsiau byr, Cyrsiau peilot Cymraeg Iaith

Dyfarniadau Dwbl (gradd isaf sy’n dderbyniol E neu F)

(nid yw Saesneg fel Ail Iaith yn dderbyniol)

Gradd 1 o leiaf neu Radd G o leiaf
Sgiliau Gweithredol – SaesnegLefel 1 o leiaf
Safon Uwch/UG Saesneg - unrhyw un â Saesneg yn yr enw. Gan gynnwys: - Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg neu Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, Cymraeg IaithGradd E o leiaf neu radd “O” Safon Uwch cyn 1986 o leiaf (cyfateb i Radd Gyffredin)
Lefel O Saesneg, Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg neu Saesneg Iaith a LlenyddiaethGradd E o leiaf neu dystiolaeth cyn 1975 o Lwyddo

Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu / Llythrennedd

(Dim ond portffolio sydd ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Cymraeg. Mae’n ofynnol cyflawni prawf a phortffolio ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Saesneg)

Lefel 1 o leiaf
TAU Saesneg2 neu 3
Tystysgrif Pre U Llenyddiaeth mewn SaesnegP3
Tystysgrif Gogledd Iwerddon mewn Sgiliau Allweddol mewn CyfathrebuLefel 1 o leiaf
Iaith Arwyddion Prydain - cymhwyster rheoleiddiedig (dim ond pan mai Iaith Arwyddion Prydain yw prif iaith y Prentis)Lefel 1 o leiaf neu Lefel 4 SCQF o leiaf
Cymhwyster Uwch Estynedig yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 7)Gradd C o leiaf
Cymhwyster Uwch yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 6)Gradd C o leiaf
Cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 4 mewn Saesneg (SCQF Lefel 4)Llwyddo
Cymhwyster Canolradd yr Alban 1 mewn Saesneg (SCQF Lefel 4)Gradd C o leiaf
Gradd Safonol Gyffredinol yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 4)Gradd 3 o leiaf
Uned Tystysgrif Genedlaethol yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 6)Llwyddo
Uned Sgiliau Craidd yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 4)Llwyddo

Uned Graidd Gweithle yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 4)

(Cyfathrebu Llafar a chyfathrebu ysgrifenedig)

Llwyddo
Uned Genedlaethol yr Alban mewn Llythrennedd (SCQF Lefel 4)Llwyddo
Gradd Gyffredin yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 5)Gradd C o leiaf
Rhaglen Blynyddoedd Canol y Fagloriaeth Ryngwladol Lefel 1 / 2 Tystysgrif mewn Iaith a LlenyddiaethGradd 2 o leiaf

Cymhwyster Safonol neu Lefel Uwch Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol mewn:

  • Saesneg A: Llenyddiaeth neu;

  • Saesneg A: Iaith a Llenyddiaeth neu;

  • Lenyddiaeth Saesneg a Pherfformio

Gradd 3 o leiaf
Mae cymwysterau tramor yn dderbyniol gyda thystiolaeth glir gan NARIC (tystysgrif / datganiad o gymharedd) fod y cymhwyster ar lefel sy’n cyfateb i ofynion sylfaenol y SASW a gwybodaeth ychwanegol sy’n cadarnhau bod y cymhwyster yn cyfateb i TGAU A*-CGradd sy’n cyfateb i TGAU A*-C o leiaf
Bagloriaeth Cymru – Dim ond pan ddangosir elfen Gyfathrebu Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau HanfodolLefel 1 o leiaf
Cymhwyster mathemategMeini Prawf Lefel/ Gradd
Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif neu Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso RhifLefel 1 o leiaf

TGAU/TGAU Ryngwladol Mathemateg - unrhyw un â Mathemateg yn yr enw. Gan gynnwys:

  • Cwrs byr, Cyrsiau peilot

  • Dyfarniadau Dwbl (y lleiaf sy’n dderbyniol yw EF)

  • Mathemateg Linol, Mathemateg Fodiwlar

  • Cymhwyso Mathemateg

  • Dulliau mewn Mathemateg

  • Mathemateg Ychwanegol

  • Defnyddio Mathemateg

Gradd 1 o leiaf

Neu

Radd G o leiaf

Sgiliau Gweithredol – MathemategLefel 1 o leiaf
Safon Uwch/UG Mathemateg - unrhyw un â Mathemateg yn yr enw. Gan gynnwys: Mathemateg Bur, Mathemateg Bellach, Defnyddio MathemategGradd E o leiaf neu radd “O” Safon Uwch cyn 1986 o leiaf (cyfateb i Radd Gyffredin)
Mathemateg Lefel O

Gradd E o leiaf

Neu dystiolaeth cyn 1975 o lwyddo

Sgiliau Allweddol mewn Cymhwyso Rhif (Rhifedd)

Dim ond portffolio sydd ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Cymraeg, mae’n ofynnol cyflawni prawf a phortffolio ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Saesneg

Lefel 1 o leiaf
Tystysgrif Gogledd Iwerddon mewn Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso RhifLefel 1 o leiaf
TAU MathemategLefel 2 o leiaf

Mathemateg Graidd Lefel 3 (pan fo wedi ei chynnwys mewn tablau perfformiad)

  • Astudiaethau Mathemategol

  • Defnyddio a Chymhwyso Mathemateg

  • Datrys Problemau Meintiol

  • Rhesymu Meintiol

  • Mathemateg yn ei Chyd-destun

  • Mathemateg ar gyfer Gwaith a Bywyd

Gradd E o leiaf
Cymhwyster Mathemateg Annibynnol Lefel 2 - Sylfeini Mathemateg UwchGradd E o leiaf
Tystysgrif Pre U mewn Mathemateg neu Fathemateg BellachP3 o leiaf
Cymhwyster Uwch Estynedig yr Alban mewn Mathemateg neu Fathemateg BellachGradd C o leiaf
Cymhwyster Uwch yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 6)Gradd C o leiaf
Cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 4 mewn Mathemateg neu Sgiliau Bywyd mewn Mathemateg neu Gymhwyso Mathemateg (SCQF Lefel 4)Llwyddo
Cymhwyster Canolradd yr Alban 1 mewn Mathemateg (SCQF Lefel 4)Gradd C o leiaf
Gradd Safonol Gyffredinol yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 4)3 o leiaf
Uned Sgiliau Craidd yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 4) Gwybodaeth Graffigol a Defnyddio RhifLlwyddo
Uned Sgiliau Craidd Gweithle yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 4)Llwyddo
Uned Genedlaethol yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 4)Llwyddo
Gradd Gyffredin yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 5)Gradd C o leiaf
Rhaglen Blynyddoedd Canol y Fagloriaeth Ryngwladol Lefel 1/2 Tystysgrif mewn Mathemateg neu Fathemateg EstynedigGradd 2 o leiaf

Cymhwyster Safonol neu Lefel Uwch Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol mewn:

  • Astudiaethau Mathemategol neu;

  • Fathemategol neu;

  • Fathemateg Bellach

Gradd 3 o leiaf
Mae cymwysterau tramor yn dderbyniol gyda thystiolaeth glir gan NARIC (tystysgrif / datganiad o gymharedd) fod y cymhwyster ar lefel sy’n cyfateb i ofynion sylfaenol y SASW a gwybodaeth ychwanegol sy’n cadarnhau bod y cymhwyster yn cyfateb i TGAU A*-CGradd sy’n cyfateb i TGAU A*-C o leiaf
Bagloriaeth Cymru – Dim ond pan ddangosir elfen Cymhwyso Rhif Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau HanfodolLefel 1 o leiaf.

11.  Yn lle paragraff 35 rhodder—

35.  Gall fframwaith prentisiaeth bennu fel un o ofynion tystysgrif Cymru gymhwyster mewn Sgiliau Hanfodol mewn Llythrennedd Digidol i Lefel 2 o leiaf, oni fydd Llythrennedd Digidol yn amherthnasol i berfformiad effeithiol yn y sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth y mae’r fframwaith yn ymwneud ag ef/â hi. Fodd bynnag, caniateir eithriadau ar gyfer pobl ag Anawsterau neu Anableddau Dysgu yn ogystal â’r cymwysterau hynny a amlinellir ym mharagraff 16A.

12.  Yn lle paragraff 36 rhodder—

36.  Gall yr awdurdod dyroddi, yn ôl ei ddisgresiwn, bennu mewn fframwaith y derbynnir cymwysterau rheoleiddiedig sy’n cyfateb i’r cymwysterau procsi a restrir yn y SASW ar gyfer Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif neu sydd ar lefel uwch na’r cymwysterau procsi hynny. Rhaid i unrhyw gymwysterau o’r fath roi tystiolaeth bod y cymwyseddau a asesir yn y cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn cyfathrebu a rhif wedi eu cwblhau.

36A.  Pan bennir cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn fframweithiau prentisiaeth, rhaid i’r fframwaith prentisiaeth bennu fel un o ofynion tystysgrif Cymru y derbynnir un o’r cymwysterau procsi cydnabyddedig a amlinellir yn y tablau isod:

Cymhwyster SaesnegMeini Prawf Lefel / Gradd
Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu neu Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu 1Lefel 2 o leiaf

TGAU/TGAU Ryngwladol Saesneg - unrhyw un â Saesneg yn yr enw. Gan gynnwys:

  • Llenyddiaeth Saesneg, Saesneg Iaith, Astudiaethau Saesneg a Chyfathrebu Saesneg

  • Cymraeg Iaith

  • Cyrsiau byr, Cyrsiau peilot

  • Dyfarniadau Dwbl (gradd isaf sy’n dderbyniol C/D)

(nid yw Saesneg fel Ail Iaith yn dderbyniol)

Gradd 4 o leiaf neu Radd C o leiaf
Sgiliau Gweithredol – SaesnegLefel 2 o leiaf
Safon Uwch/UG Saesneg - unrhyw un â Saesneg yn yr enw. Gan gynnwys: Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg neu Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, Cymraeg IaithGradd E o leiaf neu radd “O” Safon Uwch cyn 1986 o leiaf (cyfateb i Radd Gyffredin)
Lefel O Saesneg, Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg neu Saesneg Iaith a LlenyddiaethGradd C o leiaf neu dystiolaeth cyn 1975 o Lwyddo

Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu / Llythrennedd

(Dim ond portffolio sydd ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Cymraeg. Mae’n ofynnol cyflawni prawf a phortffolio ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Saesneg)

Lefel 2 o leiaf
TAU SaesnegGradd 1 o leiaf
Tystysgrif Pre U Llenyddiaeth mewn SaesnegP3
Tystysgrif Gogledd Iwerddon mewn Sgiliau Allweddol mewn CyfathrebuLefel 2 o leiaf
Iaith Arwyddion Prydain - cymhwyster rheoleiddiedig (dim ond pan mai Iaith Arwyddion Prydain yw prif iaith y Prentis)Lefel 2 o leiaf neu Lefel 5 SCQF o leiaf
Cymhwyster Uwch Estynedig yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 7)Gradd C o leiaf
Cymhwyster Uwch yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 6)Gradd C o leiaf
Cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 mewn Saesneg (SCQF Lefel 5)Gradd D o leiaf
Cymhwyster Canolradd yr Alban 2 mewn Saesneg (SCQF Lefel 5)Gradd C o leiaf
Gradd Safonol Gyffredinol yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 5)2 o leiaf
Uned Tystysgrif Genedlaethol yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 6)Llwyddo
Uned Sgiliau Craidd yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 5)Llwyddo

Uned Graidd Gweithle yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 5)

(Cyfathrebu Llafar A chyfathrebu ysgrifenedig)

Llwyddo
Uned Genedlaethol yr Alban mewn Llythrennedd (SCQF Lefel 5)Llwyddo
Gradd Gyffredin yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 5)Gradd C o leiaf
Rhaglen Blynyddoedd Canol y Fagloriaeth Ryngwladol Lefel 1 / 2 Tystysgrif mewn Iaith a LlenyddiaethGradd 3 o leiaf

Cymhwyster Safonol neu Lefel Uwch Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol mewn:

  • Saesneg A: Llenyddiaeth neu;

  • Saesneg A: Iaith a Llenyddiaeth neu;

  • Lenyddiaeth Saesneg a Pherfformio

Gradd 3 o leiaf
Mae cymwysterau tramor yn dderbyniol gyda thystiolaeth glir gan NARIC (tystysgrif / datganiad o gymharedd) fod y cymhwyster ar lefel sy’n cyfateb i ofynion sylfaenol y SASW a gwybodaeth ychwanegol sy’n cadarnhau bod y cymhwyster yn cyfateb i TGAU A*-CGradd sy’n cyfateb i TGAU A*-C o leiaf
Bagloriaeth Cymru –Dim ond pan ddangosir elfen Gyfathrebu Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau HanfodolLefel 2 o leiaf
Cymhwyster MathemategMeini prawf Lefel / Gradd
Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif neu Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso RhifLefel 2 o leiaf

TGAU/TGAU Ryngwladol Mathemateg - unrhyw un â Mathemateg yn yr enw. Gan gynnwys:

  • Cwrs byr, Cyrsiau peilot

  • Dyfarniadau Dwbl (yr isaf sy’n dderbyniol yw CD)

  • Mathemateg Linol, Mathemateg Fodiwlar

  • Cymhwyso Mathemateg

  • Dulliau mewn Mathemateg

  • Mathemateg Ychwanegol

  • Defnyddio Mathemateg

Gradd 4 o leiaf

neu

Radd C o leiaf

Sgiliau Gweithredol – MathemategLefel 2 o leiaf
Safon Uwch/UG Mathemateg - unrhyw un â Mathemateg yn yr enw. Gan gynnwys: Mathemateg Bur, Mathemateg Bellach, Defnyddio MathemategGradd E o leiaf neu radd “O” Safon Uwch cyn 1986 o leiaf ( cyfateb i Radd Gyffredin)
Mathemateg Lefel O

Gradd C o leiaf

Neu dystiolaeth cyn 1975 o lwyddo

Sgiliau Allweddol mewn Cymhwyso Rhif (Rhifedd)Lefel 2 o leiaf
Tystysgrif Gogledd Iwerddon mewn Sgiliau Allweddol mewn Cymhwyso RhifLefel 2 o leiaf
TAU MathemategLefel 1 o leiaf

Mathemateg Graidd Lefel 3 (pan fo wedi ei chynnwys yn y tablau perfformiad)

  • Astudiaethau Mathemategol

  • Defnyddio a Chymhwyso Mathemateg

  • Datrys Problemau Meintiol

  • Rhesymu Meintiol

  • Mathemateg yn ei Chyd-destun

  • Mathemateg ar gyfer Gwaith a Bywyd

Gradd E o leiaf
Cymhwyster Mathemateg Annibynnol Lefel 2 - Sylfeini Mathemateg UwchGradd C o leiaf
Tystysgrif Pre U mewn Mathemateg neu Fathemateg BellachP3 o leiaf
Cymhwyster Uwch Estynedig yr Alban mewn MathemategGradd C o leiaf
Cymhwyster Uwch yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 6)Gradd C o leiaf
Cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 mewn Mathemateg neu Sgiliau Bywyd mewn Mathemateg neu Gymhwyso Mathemateg (SCQF Lefel 5)Gradd D o leiaf
Cymhwyster Canolradd yr Alban 2 mewn Mathemateg (SCQF Lefel 5)Gradd C o leiaf
Gradd Safonol Gyffredinol yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 5)2 o leiaf
Uned Sgiliau Craidd yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 5) Gwybodaeth Graffigol a Defnyddio RhifLlwyddo
Uned Sgiliau Craidd Gweithle yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 5)Llwyddo
Uned Genedlaethol yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 5)Llwyddo
Gradd Gyffredin yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 5)Gradd C o leiaf
Rhaglen Blynyddoedd Canol y Fagloriaeth Ryngwladol Lefel 1/2 Tystysgrif mewn Mathemateg neu Fathemateg EstynedigGradd 3 o leiaf

Cymhwyster Safonol neu Lefel Uwch Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol mewn:

Astudiaethau Mathemategol; neu

Fathemategol; neu

Fathemateg Bellach

Gradd 3 o leiaf
Mae cymwysterau tramor yn dderbyniol gyda thystiolaeth glir gan NARIC (tystysgrif / datganiad o gymharedd) fod y cymhwyster ar lefel sy’n cyfateb i ofynion sylfaenol y SASW a gwybodaeth ychwanegol sy’n cadarnhau bod y cymhwyster yn cyfateb i TGAU A*-CGradd sy’n cyfateb i TGAU A*-C o leiaf
Bagloriaeth Cymru –Dim ond pan ddangosir elfen Cymhwyso Rhif Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau HanfodolLefel 2 o leiaf.

13.  Yn lle’r pennawd ym mharagraff 38 rhodder “Fframweithiau Prentisiaeth Uwch (Lefelau 4 a 5)”.

14.  Ar ôl paragraff 42 mewnosoder—

Prentisiaethau Gradd neu Broffesiynol (Lefel 6 a 7) – Cymwysterau sy’n gysylltiedig â’r sectorCyfeirnodau adran
43. Rhaid i fframwaith prentisiaeth gradd neu broffesiynol nodi’r cymhwyster cymwyseddau galwedigaethol y mae’n rhaid i’r prentis eu cyflawni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer tystysgrif prentisiaeth Cymru, a’r cymhwyster sy’n ofynnol er mwyn dangos cymhwysedd wrth gyflawni’r sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth y mae’r fframwaith yn ymwneud ag ef/â hi. Rhaid i’r cymhwyster cymwyseddau fod ar lefel y fframwaith a bennir a chael ei ategu gan Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) lle y maent yn bodoli, neu safonau ar gyfer y diwydiant cyfan neu safonau proffesiynol lle nad ydynt yn bodoli. Adran 31(2)(c)(iii)
44. Rhaid i fframwaith prentisiaeth gradd neu broffesiynol nodi cymhwyster gwybodaeth dechnegol y mae’n rhaid i’r prentis ei gyflawni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer tystysgrif prentisiaeth Cymru. Cymhwyster gwybodaeth dechnegol yw’r cymhwyster sy’n ofynnol i ddangos bod y sgiliau technegol, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r cysyniadau damcaniaethol a’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r diwydiant a’i farchnad yn berthnasol i’r sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth y mae’r fframwaith yn ymwneud ag ef/â hi wedi eu cyflawni. Adran 31(2)(c)(ii)

45. Rhaid i fframwaith prentisiaeth gradd a phroffesiynol nodi:

cymhwyster cymwyseddau galwedigaethol a chymhwyster gwybodaeth dechnegol ar wahân ar Lefel 6 o leiaf; neu

gymhwyster integredig ar Lefel 6 o leiaf sy’n cyfuno cymwyseddau galwedigaethol ac elfennau gwybodaeth dechnegol y caiff pob elfen ei hasesu ar wahân ynddynt; neu

bennu cymhwyster gwybodaeth dechnegol berthnasol a gydnabyddir gan gorff proffesiynol sy’n cynrychioli’r maes galwedigaethol.

Adran 31(2)(a)

Adran 31(2)(c)(iii)

Sgiliau Hanfodol
46. Nid oes unrhyw ofynion sgiliau hanfodol ar gyfer fframweithiau prentisiaeth Gradd a Phroffesiynol.
Hyfforddiant mewn swydd a hyfforddiant y tu allan i’r gwaith
47. Mae’r gofynion fel y maent ar gyfer fframwaith prentisiaeth sylfaen ar Lefel 2Adran 31(2)(b).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill