- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 29(1) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (“Deddf 2009”). Mae’r Gorchymyn hwn yn addasu Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru (y “SASW”) y rhoddwyd effaith iddi yn wreiddiol ym mis Mai 2013 gan Orchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) 2013, ac a addaswyd wedyn yn 2016 gan Orchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2016.
Mae’r SASW yn pennu’r gofynion y mae rhaid eu bodloni er mwyn i fframweithiau prentisiaethau Cymreig cydnabyddedig gael eu dyroddi o dan adran 19(1) o Ddeddf 2009.
Mae’r addasiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn cynnwys sicrhau hygyrchedd ar gyfer y rheini sydd ag anhawster neu anabledd dysgu.
Er mwyn helpu’r darllenydd mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi fersiwn wedi ei chydgrynhoi o’r SASW sy’n ymgorffori’r addasiadau a ddangosir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys