- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Gwnaed
12 Hydref 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 56(4) o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) 2023.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 17 Hydref 2023—
(a)adrannau 21 i 23 (Ymyrraeth mewn marchnadoedd amaethyddol);
(b)adrannau 25-33 (Casglu a rhannu data);
(c)adran 34 (Safonau marchnata);
(d)adran 35 (Dosbarthiad carcasau);
(e)adran 55 (Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau etc.);
(f)Atodlen 1 (Cynhyrchion amaethyddol sy’n berthnasol i ddarpariaethau safonau marchnata);
(g)Atodlen 2 (Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol etc. sy’n ymwneud â Rhannau 1 i 3) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(h)Atodlen 3 (Diwygiadau canlyniadol etc. i’r Rheoliad CMO).
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2024—
(a)adrannau 36-44 (Coedwigaeth) i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.
4. Er bod paragraff 1(9) o Atodlen 2 i’r Ddeddf yn diddymu Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, mae’r rheoliadau a’r datganiadau a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn parhau mewn grym ac yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan yr adran o’r Ddeddf a bennir yng Ngholofn 2 o’r Atodlen.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
12 Hydref 2023
Erthygl 4
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Rheoliadau/Datganiadau a wnaed o dan Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 | Yr adran berthnasol y mae darpariaethau i gael effaith odani fel pe baent wedi eu gwneud o dan y Ddeddf |
Paragraff 4(1) | Adran 17 |
Paragraff 5(1) | Adran 18 |
Paragraff 6(1) | Adran 19 |
Paragraff 7(1) | Adran 21 |
Paragraff 16(1) | Adran 34 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023(2) (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 17 Hydref 2023—
(a)adrannau 21 i 23 (Ymyrraeth mewn marchnadoedd amaethyddol);
(b)adrannau 25-33 (Casglu a rhannu data);
(c)adran 34 (Safonau marchnata);
(d)adran 35 (Dosbarthiad carcasau);
(e)adran 55 (Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau etc.);
(f)Atodlen 1 (Cynhyrchion amaethyddol sy’n berthnasol i ddarpariaethau safonau marchnata);
(g)Atodlen 2 (Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol etc. sy’n ymwneud â Rhannau 1 i 3) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(h)Atodlen 3 (Diwygiadau canlyniadol etc. i’r Rheoliad CMO).
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2024—
(a)adrannau 36-44 (Coedwigaeth) i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.
Mae erthygl 4 yn darparu darpariaethau arbed mewn perthynas â rheoliadau neu ddatganiadau a wnaed o dan y darpariaethau presennol yn Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 a ddiddymir gan y Ddeddf.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys