Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1350 (Cy. 349)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021

Gwnaed

am 9.30 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

3 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 84(2)(a) a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.

Diwygio adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

2.—(1Mae adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (9), yn y diffiniad o “awdurdod cyhoeddus”, ym mharagraff (e), ar ôl “awdurdod lleol” mewnosoder “, cyd-bwyllgor corfforedig”.

(3Yn is-adran (10), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

Am 9.30 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3) er mwyn cynnwys cyd-bwyllgorau corfforedig yn y diffiniad o “awdurdod cyhoeddus” yn is-adran (9) o’r adran honno, fel bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau (“y ddyletswydd bioamrywiaeth”). O ganlyniad i’r Rheoliadau hyn, bydd yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig ystyried Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru wrth wneud penderfyniadau.

Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) (“y Ddeddf”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a oedd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o’r Ddeddf. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

(2)

2016 dccc 3. Diwygiwyd adran 6 gan baragraff 46(a)(i) a (ii) o Ran 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill