- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Y Diwydiant Dŵr, Cymru
Gwnaed
13 Tachwedd 2018
Yn dod i rym
7 Ionawr 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 32 a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(1), a pharagraffau 4(a) a 14 o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol â pharagraff 14(5)(b) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Ionawr 2019.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “apelydd” (“appellant”) yw datblygwr sy’n gwneud apêl o dan y Gorchymyn hwn;
ystyr “ardal adeiladu” (“construction area”) yw—
yr ardal o dir a nodir ar blan sy’n mynd gyda’r cais am ganiatâd cynllunio, neu
os na wnaed cais am ganiatâd cynllunio, yr ardal o dir y mae gwaith adeiladu wedi cychwyn arno, neu y bwriedir cychwyn gwaith adeiladu arno;
ystyr “Atodlen 3” (“Schedule 3”) yw Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
mae i “awdurdod cynllunio lleol” yr ystyr a roddir i “local planning authority” yn adran 1(1B)(2) o Ddeddf 1990;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(3);
ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 mewn perthynas â system ddraenio ar gyfer gwaith adeiladu;
ystyr “datblygwr” (“developer”) yw person sy’n cychwyn gwaith adeiladu neu’n bwriadu cychwyn gwaith adeiladu;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(4);
ystyr “hysbysiad apêl” (“notice of appeal”) yw hysbysiad o dan erthygl 14;
mae i “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yr ystyr a roddir yn erthygl 8;
mae i “hysbysiad stop” (“stop notice”) yr ystyr a roddir yn erthygl 10;
mae i “hysbysiad stop dros dro” (“temporary stop notice”) yr ystyr a roddir yn erthygl 6;
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodir gan gorff cymeradwyo;
ystyr “pwerau mynediad” (“powers of entry”) yw’r pwerau a roddir gan erthygl 4;
mae i “terfyn amser ar gyfer gwneud apêl” (“time limit for making an appeal”) yr ystyr a roddir yn erthygl 13;
ystyr “toriad” (“breach”), mewn perthynas â’r gofyniad i gael cymeradwyaeth, yw—
cychwyn gwaith adeiladu(5) heb gymeradwyaeth,
torri un o amodau’r gymeradwyaeth, neu
nad yw gwaith adeiladu yn cydymffurfio â’r cynigion a gymeradwywyd.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, mae cyfeiriad at “gwaith adeiladu” i’w ddehongli fel cyfeiriad at waith adeiladu sydd â goblygiadau o ran draenio(6).
3.—(1) Caiff corff cymeradwyo(7) gytuno â’r awdurdod cynllunio lleol (“yr Awdurdod”) y caiff yr Awdurdod arfer swyddogaeth orfodi o dan y Gorchymyn hwn fel pe bai’r awdurdod oedd y corff cymeradwyo.
(2) Caiff y cytundeb—
(a)ymwneud ag unrhyw doriad o’r gofyniad i gael cymeradwyaeth, a
(b)cynnwys trefniadau i ad-dalu’r costau yr aed iddynt gan yr Awdurdod wrth arfer y swyddogaeth orfodi.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “swyddogaeth orfodi” yw unrhyw swyddogaeth sy’n arferadwy gan y corff cymeradwyo mewn perthynas ag—
(a)pwerau mynediad;
(b)hysbysiad stop dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop.
4.—(1) Caiff person awdurdodedig ar unrhyw adeg resymol fynd i ardal adeiladu (ac eithrio unrhyw fangre yn yr ardal adeiladu a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel tŷ annedd preifat) i ganfod—
(a)a dorrwyd y gofyniad i gael cymeradwyaeth, neu
(b)a chydymffurfiwyd â hysbysiad stop dros dro, hysbysiad stop neu hysbysiad gorfodi.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff (4).
(3) Rhaid i’r person awdurdodedig, ar gais, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad.
(4) Mewn argyfwng, caniateir arfer pwerau mynediad ar unrhyw adeg.
(5) Ni chaiff person awdurdodedig arfer pwerau mynediad i ganfod a dorrwyd y gofyniad i gael cymeradwyaeth os yw system ddraenio ar gyfer y gwaith adeiladu wedi ei mabwysiadu.
(6) Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i berson awdurdodedig fynd i unrhyw fangre mewn ardal adeiladu, a hynny gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—
(a)bod sail resymol dros fynd i’r fangre at ddibenion paragraff (1) o’r erthygl hon, a
(b)bod unrhyw un o’r amodau ym mharagraff (7) wedi ei fodloni.
(7) Yr amodau yw—
(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;
(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i fwriad mynd i’r fangre;
(c)bod angen mynediad ar frys;
(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.
(8) Mae gwarant yn ddilys am 3 mis.
(9) Rhaid i berson awdurdodedig sy’n mynd i fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu y mae ei meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd iddi.
5.—(1) Mae gan ddatblygwr neu berson arall hawlogaeth i ddigollediad—
(a)os yw person awdurdodedig yn mynd i ardal adeiladu neu unrhyw fangre mewn ardal adeiladu drwy arfer pwerau mynediad ond nad yw’n dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o dorri’r gofyniad i gael cymeradwyaeth, a
(b)os yw’r datblygwr neu berson arall yn cael colled o ganlyniad i arfer y pwerau hynny.
(2) Os yw person awdurdodedig yn mynd i ardal adeiladu neu unrhyw fangre mewn ardal adeiladu drwy arfer pwerau mynediad ac y canfyddir y torrwyd y gofyniad i gael cymeradwyaeth, mae digollediad yn daladwy—
(a)i’r datblygwr am unrhyw golled o ganlyniad i arfer y pwerau hynny yn afresymol yn unig;
(b)i unrhyw berson arall fel pe bai dim tystiolaeth o doriad wedi ei ganfod.
(3) Rhaid gwneud unrhyw hawliad am ddigollediad i’r corff cymeradwyo o fewn 12 mis ar ôl arfer y pwerau hynny.
(4) Mae anghydfodau ynghylch digollediad i’w penderfynu gan yr Uwch Dribiwnlys.
6.—(1) Caiff corff cymeradwyo roi hysbysiad (“hysbysiad stop dros dro”) i ddatblygwr os oes gan y corff cymeradwyo reswm i gredu—
(a)bod y datblygwr wedi torri’r gofyniad i gael cymeradwyaeth, a
(b)ei bod yn hwylus bod y gwaith adeiladu yn stopio ar unwaith.
(2) Rhaid i hysbysiad stop dros dro fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo—
(a)pennu’r gweithgarwch y credir ei fod yn doriad,
(b)rhoi rhesymau dros y farn honno,
(c)gwahardd y datblygwr rhag parhau â’r gweithgarwch, a
(d)pennu canlyniadau peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.
(3) Caiff corff cymeradwyo ar unrhyw adeg dynnu hysbysiad stop dros dro yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i ddatblygwr sy’n nodi’r rhesymau dros y penderfyniad i’w dynnu’n ôl.
(4) Mae hysbysiad stop dros dro yn cael effaith o’r adeg y’i rhoddir ac, oni bai y caiff ei dynnu’n ôl yn gynharach, mae’n peidio â chael effaith ar ddiwedd—
(a)y cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y’i rhoddir, neu
(b)unrhyw gyfnod byrrach a bennir yn yr hysbysiad, gan ddechrau â’r diwrnod y’i rhoddir.
(5) Ni chaniateir rhoi ail hysbysiad stop dros dro neu hysbysiad stop dros dro dilynol mewn cysylltiad â’r un gweithgarwch oni bai bod y corff cymeradwyo wedi cymryd unrhyw gamau gorfodi eraill yn gyntaf mewn perthynas â’r toriad.
7.—(1) Mae gan ddatblygwr sy’n cael colled o ganlyniad i gael hysbysiad stop dros dro hawlogaeth i ddigollediad—
(a)os yw’r corff cymeradwyo yn tynnu’r hysbysiad yn ôl, neu
(b)os nad yw’r corff cymeradwyo yn cymryd unrhyw gamau gorfodi pellach.
(2) Rhaid gwneud unrhyw hawliad am ddigollediad i’r corff cymeradwyo o fewn 12 mis ar ôl i’r hysbysiad gael ei dynnu’n ôl neu ar ôl iddo beidio â chael effaith, pa un bynnag sydd gynharaf.
(3) Mae anghydfodau ynghylch digollediad i’w penderfynu gan yr Uwch Dribiwnlys.
8.—(1) Os yw datblygwr yn torri’r gofyniad i gael cymeradwyaeth, caiff y corff cymeradwyo roi hysbysiad i’r datblygwr sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr gymryd camau i unioni’r toriad (“hysbysiad gorfodi”).
(2) Caniateir rhoi hysbysiad gorfodi ar unrhyw adeg cyn y mabwysiedir system ddraenio ar gyfer y gwaith adeiladu, ond nid hwyrach na 4 blynedd ar ôl i’r toriad ddigwydd.
(3) Rhaid i hysbysiad gorfodi fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu—
(a)yr ardal adeiladu y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi,
(b)manylion y toriad,
(c)y camau y mae’n rhaid i’r datblygwr eu cymryd i unioni’r toriad,
(d)y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid cymryd y camau,
(e)hawliau apelio, gan gynnwys y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, a
(f)canlyniadau peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.
(4) Ni chaiff hysbysiad gorfodi ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr gymryd unrhyw gamau tan o leiaf 4 wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
(5) Caiff corff cymeradwyo ar unrhyw adeg, drwy hysbysiad ysgrifenedig i ddatblygwr—
(a)tynnu hysbysiad gorfodi yn ôl, gan roi rhesymau, neu
(b)amrywio hysbysiad gorfodi drwy—
(i)lleihau faint o waith sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad, neu
(ii)estyn y cyfnod ar gyfer cymryd unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad.
9.—(1) Ar gyfer gwaith adeiladu a gychwynnir heb gymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad gorfodi ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr—
(a)gwneud cais am gymeradwyaeth (gan wneud y cais fel pe na bai’r gwaith adeiladu wedi cychwyn), neu
(b)adfer yr ardal adeiladu i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn.
(2) Ar gyfer achos o dorri amod cymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad gorfodi ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr—
(a)gwneud gwaith i sicrhau bod y system ddraenio yn cydymffurfio â’r amodau cymeradwyo, neu
(b)adfer yr ardal adeiladu i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn.
(3) Ar gyfer gwaith adeiladu nad yw’n cydymffurfio â’r cynigion a gymeradwywyd, rhaid i’r hysbysiad gorfodi ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr—
(a)gwneud gwaith i sicrhau bod y system ddraenio yn cydymffurfio â’r cynigion a gymeradwywyd, neu
(b)adfer yr ardal adeiladu i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn.
(4) Os yw datblygwr yn methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi, caiff y corff cymeradwyo—
(a)cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad gorfodi neu awdurdodi person arall i gymryd y camau hynny, a
(b)ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr dalu treuliau yr aed iddynt o dan is-baragraff (a), gyda’r fath dreuliau i fod yn adenilladwy fel dyled.
(5) Caiff y corff cymeradwyo neu berson a awdurdodir o dan baragraff (4)(a) ar unrhyw adeg resymol fynd i ardal adeiladu i gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad gorfodi.
10.—(1) Caiff corff cymeradwyo roi hysbysiad (“hysbysiad stop”) i ddatblygwr—
(a)os yw’r datblygwr wedi apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi, a
(b)os yw’r corff cymeradwyo yn meddwl ei bod yn hwylus y dylai’r gwaith adeiladu ar y tir y mae’r hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef stopio ar unwaith.
(2) Caiff hysbysiad stop wahardd datblygwr rhag parhau â’r gwaith adeiladu a bennir yn yr hysbysiad hyd nes—
(a)bod yr apêl yn erbyn yr hysbysiad gorfodi yn cael ei phenderfynu neu ei thynnu’n ôl, neu
(b)bod y corff cymeradwyo—
(i)yn tynnu’r hysbysiad stop yn ôl, neu
(ii)yn cymryd camau gorfodi pellach.
(3) Rhaid i hysbysiad stop fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu—
(a)y dyddiad y mae’n cael effaith,
(b)ar ba seiliau y’i cyflwynwyd,
(c)canlyniadau peidio â chydymffurfio ag ef, a
(d)yr hysbysiad gorfodi y mae’n ymwneud ag ef.
(4) Rhaid atodi copi o’r hysbysiad gorfodi i’r hysbysiad stop.
(5) Caiff corff cymeradwyo dynnu hysbysiad stop yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i ddatblygwr sy’n nodi’r rhesymau dros y penderfyniad i’w dynnu’n ôl.
11.—(1) Rhaid i gorff cymeradwyo gadw cofrestr sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r holl hysbysiadau stop dros dro, hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau stop a roddir ganddo.
(2) Rhaid i’r gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ragnodir at ddiben adran 188(1)(8) o Ddeddf 1990 a chan erthygl 30 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(9) ond gyda’r addasiadau a ddisgrifir ym mharagraff (3).
(3) Yr addasiadau yw—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at yr awdurdod i’w ddarllen fel cyfeiriad at y corff cymeradwyo;
(b)mae unrhyw gyfeiriad at gyflwyno’r hysbysiad neu gopïau o’r hysbysiad i’w ddarllen fel cyfeiriad at roi’r hysbysiad;
(c)mae unrhyw gyfeiriad at dorri rheolaeth gynllunio i’w ddarllen fel cyfeiriad at dorri’r gofyniad i gael cymeradwyaeth;
(d)mae unrhyw gyfeiriad at hysbysiad torri amod i’w ddarllen fel cyfeiriad at hysbysiad stop neu hysbysiad stop dros dro.
(4) Rhaid cofnodi’r wybodaeth ar y gofrestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ond nid mwy na 2 wythnos ar ôl rhoi’r hysbysiad.
(5) Rhaid dileu cofnod sy’n ymwneud â hysbysiad o’r gofrestr os yw’r hysbysiad yn cael ei dynnu’n ôl neu os yw’n peidio â chael effaith.
12.—(1) Caiff datblygwr y rhoddir hysbysiad gorfodi iddo apelio drwy hysbysiad i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad i’w roi.
(2) Seiliau’r apêl yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(d)nad oes toriad o’r gofyniad i gael cymeradwyaeth.
(3) Mae hysbysiad gorfodi yn cael ei atal dros dro hyd nes y caiff apêl ei phenderfynu neu ei thynnu’n ôl.
13. Rhaid cyflwyno apêl o fewn y cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad gorfodi i ddatblygwr.
14.—(1) Rhaid i hysbysiad apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi—
(a)bod yn ysgrifenedig, ar ffurflen a gafwyd oddi wrth Weinidogion Cymru,
(b)datgan seiliau’r apêl,
(c)datgan y ffeithiau y bydd yr apelydd yn dibynnu arnynt i ategu pob un o’r seiliau hynny ac unrhyw fanylion eraill am yr achos y mae’r apelydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl, a
(d)cynnwys enw, cyfeiriad (gan gynnwys unrhyw gyfeiriad e-bost) a rhif ffôn yr apelydd ac unrhyw asiant sy’n gweithredu ar ran yr apelydd.
(2) Rhaid anfon yr hysbysiad at Weinidogion Cymru gyda’r canlynol—
(a)datganiad ynghylch pa un a yw’r apelydd yn dymuno i’r apêl gael ei hymdrin drwy sylwadau ysgrifenedig, drwy wrandawiad neu drwy ymchwiliad,
(b)copi o’r hysbysiad gorfodi, ac
(c)copi o unrhyw hysbysiad stop neu hysbysiad stop dros dro cysylltiedig.
(3) Rhaid i ddatblygwr sy’n anfon hysbysiad apêl at Weinidogion Cymru, ar yr un pryd, anfon copi o’r hysbysiad apêl a’r dogfennau sy’n mynd gyda’r hysbysiad apêl i’r corff cymeradwyo.
(4) Yn yr erthygl hon, ystyr “dogfennau sy’n mynd gyda” yw’r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (2).
(5) Caniateir i unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall y mae’r erthygl hon yn ei gwneud yn ofynnol i’w hanfon neu i’w darparu gael eu hanfon drwy’r post neu gyfathrebiad electronig.
15.—(1) Mae paragraffau (2) i (6) o’r erthygl hon yn gymwys pan fo’r apelydd yn defnyddio cyfathrebiad electronig at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn erthygl 14.
(2) Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu’r ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—
(a)yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddo neu iddi,
(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, ac
(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ato neu ati yn nes ymlaen.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol” yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu’r ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau â phe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(4) Os caiff y derbynnydd y cyfathrebiad electronig y tu hwnt i’w oriau busnes, cymerir ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.
(5) Mae gofyniad yn erthygl 14 y dylai unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall fod yn ysgrifenedig wedi ei fodloni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (2), ac mae “ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.
(6) Pan fo apelydd yn anfon unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall at Weinidogion Cymru drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, cymerir eu bod wedi cytuno i’r hyn a ganlyn—
(a)i ddefnyddio’r cyfathrebiadau hynny at yr holl ddibenion sy’n ymwneud â’r apêl y mae modd eu cyflawni drwy gyfrwng electronig;
(b)mai cyfeiriad yr apelydd at ddiben cyfathrebiadau o’r fath yw’r cyfeiriad sydd wedi ei ymgorffori yn yr hysbysiad neu’r ddogfen arall, neu sydd fel arall wedi ei gysylltu yn rhesymegol â hwy;
(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes iddo hysbysu ei fod yn dymuno dirymu’r cytundeb yn unol ag erthygl 16.
16.—(1) Pan na fo apelydd bellach yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Gorchymyn hwn y mae modd ei gyflawni yn electronig, rhaid i’r apelydd roi hysbysiad ysgrifenedig sydd—
(a)yn tynnu’n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu gorff cymeradwyo amdano at y diben hwnnw, neu
(b)yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed gyda Gweinidogion Cymru neu gyda chorff cymeradwyo at y diben hwnnw.
(2) Bydd y tynnu’n ôl neu’r dirymu o dan baragraff (1) yn derfynol ac yn cymryd effaith ar y diweddaraf o’r hyn a ganlyn—
(a)y dyddiad a bennwyd gan yr apelydd yn yr hysbysiad, ond ni ddylai’r dyddiad hwnnw fod yn llai nag 1 wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, neu
(b)y dyddiad y daw’r cyfnod o 1 wythnos i ben gan ddechrau ar y dyddiad pan y rhoddir yr hysbysiad.
17.—(1) Mae paragraffau (2) i (4) o’r erthygl hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad apêl dilys.
(2) Mae adran 319B (pennu’r weithdrefn ar gyfer achosion penodol: Cymru) o Ddeddf 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017(10) (“Rheoliadau 2017”) yn gymwys i apêl o dan y Gorchymyn hwn gyda’r addasiadau a ddisgrifir ym mharagraff (3), fel pe bai’n apêl a gyflwynir o dan adran 174 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi) o Ddeddf 1990.
(3) Yr addasiadau yw—
(a)mae i unrhyw gyfeiriad at “apelydd” yr ystyr a roddir yn erthygl 2;
(b)mae unrhyw gyfeiriad at “apêl” o dan adran 174 o Ddeddf 1990 i’w ddarllen fel cyfeiriad at apêl o dan y Gorchymyn hwn;
(c)mae unrhyw gyfeiriad at “person penodedig” yn gyfeiriad at berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru o dan y Gorchymyn hwn i adrodd i Weinidogion Cymru;
(d)mae unrhyw gyfeiriad at “apêl gorfodi” i’w ddarllen fel cyfeiriad at apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi o dan y Gorchymyn hwn;
(e)mae unrhyw gyfeiriad at “hysbysiad gorfodi” o dan adran 172(1) o Ddeddf 1990 i’w ddarllen fel cyfeiriad at hysbysiad gorfodi o dan y Gorchymyn hwn;
(f)mae cyfeiriad at “datganiad achos llawn” i’w ddarllen fel cyfeiriad at y datganiad yn erthygl 14(1)(c);
(g)mae unrhyw gyfeiriad at “personau â buddiant” i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr ymgyngoreion statudol a bennir ym mharagraff 11(3) o Atodlen 3;
(h)mae unrhyw gyfeiriad at “awdurdod cynllunio lleol” i’w ddarllen fel cyfeiriad at y corff cymeradwyo a roddodd hysbysiad gorfodi o dan y Gorchymyn hwn.
(4) Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad apêl dilys” yw hysbysiad apêl—
(a)sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 14(1),
(b)a anfonir at Weinidogion Cymru—
(i)yn unol ag erthygl 14(2),
(ii)o fewn y cyfnod a bennir yn erthygl 13, ac
(c)y mae’r apelydd yn ardystio ei fod wedi anfon copi i’r corff cymeradwyo yn unol ag erthygl 14(3).
18.—(1) Mae apêl o dan y Gorchymyn hwn i’w phenderfynu gan Weinidogion Cymru.
(2) At ddibenion paragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru benodi person (“y person penodedig”) i adrodd i Weinidogion Cymru.
19. Wrth benderfynu ar apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)penderfynu bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith, neu
(b)cadarnhau neu amrywio’r hysbysiad.
20.—(1) Mae is-adrannau (2) a (3) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(11) (ymchwiliadau lleol: tystiolaeth a chostau) yn gymwys gyda’r addasiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2) i ymchwiliad o dan y Gorchymyn hwn fel y maent yn gymwys i ymchwiliadau lleol o dan yr adran honno.
(2) Yr addasiadau yw—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at y person a benodir i gynnal yr ymchwiliad i’w ddarllen fel cyfeiriad at y person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 18(2);
(b)mae unrhyw gyfeiriad at awdurdod lleol i’w ddarllen fel cyfeiriad at gorff cymeradwyo.
(3) Mae adran 322C o Ddeddf 1990(12) (costau: Cymru) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad o dan y Gorchymyn hwn fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad lleol y cyfeirir ato yn yr adran honno.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i gostau gwrandawiad neu ymchwiliad a gynhelir o dan y Gorchymyn hwn gael eu talu gan Weinidogion Cymru.
21.—(1) Mae person sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad stop dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop yn euog o drosedd, ac yn agored—
(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy nag £20,000, neu
(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.
(2) Wrth benderfynu ar swm y ddirwy, rhaid i’r llys roi sylw yn benodol i unrhyw fantais ariannol sydd wedi cronni, neu yr ymddengys ei bod wedi cronni, i’r person sy’n cael euogfarn o ganlyniad i’r drosedd.
22. Mae person sy’n rhwystro yn fwriadol person awdurdodedig sy’n arfer pwerau mynediad—
(a)yn euog o drosedd, a
(b)yn agored, ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
23.—(1) Os profir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog—
bydd y swyddog, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw—
(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg i’r corff, neu
(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath.
(3) Os rheolir materion corff corfforaethol gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau rheoli’r aelod fel y mae’n gymwys i swyddog corff corfforaethol.
24.—(1) Rhaid i achos ar gyfer trosedd o dan y Gorchymyn hwn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig gael ei dwyn yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(2) At ddibenion achosion o’r fath—
(a)mae rheolau’r llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol, a
(b)mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol—
(i)adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(13);
(ii)Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(14).
(3) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ar euogfarn am drosedd o dan y Gorchymyn hwn i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(4) Os profir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan bartneriaeth—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner—
mae’r partner, yn ogystal â’r bartneriaeth, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(5) Ym mharagraff (4), mae “partner” yn cynnwys person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel partner.
(6) Os profir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth)—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath—
mae’r swyddog, yn ogystal â’r gymdeithas, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(7) Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig, yw—
(a)un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu, neu
(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o’r fath.
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
13 Tachwedd 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer gorfodi unrhyw doriad o’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol (“y gofyniad i gael cymeradwyaeth”) o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29) (“y Ddeddf”) mewn perthynas â systemau draenio ar gyfer gwaith adeiladu.
Mae erthygl 3 yn darparu y caiff corff cymeradwyo gytuno â’r awdurdod cynllunio lleol y caniateir i’r awdurdod hwnnw arfer swyddogaethau gorfodi o dan y Gorchymyn hwn ar ran y corff cymeradwyo.
Mae erthygl 4 yn darparu ar gyfer pwerau mynediad i eiddo person a awdurdodir gan gorff cymeradwyo at y diben o ganfod pa un a dorrwyd y gofyniad i gael cymeradwyaeth neu ba un a gydymffurfiwyd â hysbysiad stop dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop, gan gynnwys o dan ba amgylchiadau y caniateir i gais gael ei wneud i lys am warant.
Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau y caiff datblygwr neu berson arall adennill digollediad mewn perthynas â cholled yr aed iddi o ganlyniad i arfer pwerau mynediad yn unol ag erthygl 4 oddi tanynt.
Mae erthygl 6 yn rhoi pŵer i gorff cymeradwyo roi hysbysiad stop dros dro i ddatblygwr, pan fo gan y corff reswm i gredu bod datblygwr wedi torri’r gofyniad i gael cymeradwyaeth. Mae hyd hysbysiad o’r fath wedi ei gyfyngu yn unol â’r erthygl honno.
Mae erthygl 7 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau y caiff datblygwr adennill digollediad mewn perthynas â cholled yr aed iddi o ganlyniad i gael hysbysiad stop dros dro oddi tanynt.
Mae erthygl 8 yn rhoi pŵer i gorff cymeradwyo, pan fo datblygwr wedi torri’r gofyniad i gael cymeradwyaeth, roi hysbysiad i’r datblygwr (“hysbysiad gorfodi”), sy’n pennu’r camau i’w cymryd gan y datblygwr i unioni’r toriad.
Mae erthygl 9 yn pennu’r camau i’w cymryd gan ddatblygwr, y mae rhaid eu cynnwys mewn hysbysiad gorfodi mewn amgylchiadau penodedig, ac yn darparu ar gyfer y camau y caiff y corff cymeradwyo eu cymryd os na chydymffurfir â’r hysbysiad.
Mae erthygl 10 yn rhoi pŵer i gorff cymeradwyo roi hysbysiad stop i ddatblygwr, mewn amgylchiadau pan fo’r datblygwr wedi apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi a bod y corff cymeradwyo yn meddwl ei fod yn hwylus i’r gwaith adeiladu y mae’r hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef stopio ar unwaith. Mae erthygl 10 hefyd yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau y mae hysbysiad o’r fath yn peidio â chael effaith oddi tanynt.
Mae erthygl 11 yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff cymeradwyo gadw cofrestr o’r holl hysbysiadau stop, hysbysiadau stop dros dro a hysbysiadau gorfodi y mae’n eu rhoi, ac yn rhagnodi’r wybodaeth i’w chynnwys yn y gofrestr.
Mae erthygl 12 yn darparu i ddatblygwr apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn hysbysiad gorfodi ar y seiliau a bennir yn yr erthygl.
Mae erthygl 13 yn rhagnodi o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid gwneud apêl.
Mae erthygl 14 yn rhagnodi cynnwys hysbysiad apêl, a’r camau y mae rhaid eu cymryd i wneud apêl.
Mae erthygl 15 yn darparu ar gyfer defnyddio cyfathrebu electronig, ac mae erthygl 16 yn darparu ar gyfer tynnu’n ôl y cydsyniad i ddefnyddio cyfathrebu electronig mewn perthynas ag apelau.
Mae erthygl 17 yn gwneud darpariaeth i adran 319B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) (“Deddf 1990”) a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/544 (Cy. 121)) fod yn gymwys, gydag addasiadau priodol, i apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi o dan y Gorchymyn hwn, fel pe bai’n apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi cynllunio.
Mae erthygl 18 yn darparu mai Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu ar apêl o dan y Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 19 yn darparu ar gyfer pwerau Gweinidogion Cymru i benderfynu ar apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi.
Mae erthygl 20 yn darparu ar gyfer gweithdrefn mewn perthynas â thystiolaeth mewn gwrandawiad neu ymchwiliad drwy gymhwyso, yn ddarostyngedig i addasiadau priodol, isadrannau (2) a (3) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (ymchwiliadau lleol: tystiolaeth a chostau), ac mewn perthynas â chostau, drwy gymhwyso adran 322C o Ddeddf 1990 (costau: Cymru).
Mae erthygl 21 yn darparu ar gyfer trosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad stop dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop.
Mae erthygl 22 yn darparu ar gyfer trosedd o rwystro’n fwriadol berson a awdurdodir gan gorff cymeradwyo sy’n arfer pwerau mynediad o dan erthygl 4.
Mae erthygl 23 yn gwneud darpariaeth ar gyfer atebolrwydd swyddogion ac aelodau pan fo trosedd o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei chyflawni gan gorff corfforaethol.
Mae erthygl 24 yn gwneud darpariaeth ar gyfer atebolrwydd partneriaethau a phartneriaid, pan fo trosedd o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei chyflawni gan bartneriaeth, ac ar gyfer atebolrwydd cymdeithasau anghorfforedig a’u swyddogion pan fo trosedd o’r fath yn cael ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig.
Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol, o ran Cymru, o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
2010 p. 29. Diwygiwyd Atodlen 3 gan adrannau 21(3), 88(a) ac 88(b) o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21) ac O.S. 2012/1659 a 2013/755 (Cy. 90).
Mewnosodwyd adran 1(1B) gan adran 18(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19).
2000 p. 7. Diwygiwyd adran 15(1) gan baragraff 158 o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21).
Diffinnir “construction work” ym mharagraff 7(2)(a) o Atodlen 3.
Diffinnir “drainage implications” ym mharagraff 7(2)(b) o Atodlen 3.
Diffinnir “approving body” ym mharagraff 6 o Atodlen 3.
Diwygiwyd adran 188(1) gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 a Rhan 1 o Atodlen 19 i Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a chan baragraff 24(5) o Atodlen 6 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
1972 p. 70. Diwygiwyd adran 250 gan adrannau 37, 38 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48); adran 49(2) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p. 63) ac Atodlen 12 iddi a chan y Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1989 (p. 43).
Mewnosodwyd adran 322C gan adran 49 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4).
1925 p. 86. Diwygiwyd adran 33 gan Atodlen 6 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55); paragraff 19 o Atodlen 8 i Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23) ac Atodlen 10 i Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39).
1980 p. 43. Diwygiwyd Atodlen 3 gan Atodlen 13 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 43) a pharagraffau 51(13)(a) a (b) o Atodlen 3 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys