- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “AaGIC” (“HEIW”) yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru a sefydlir gan Orchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017(1);
ystyr “aelod” (“member”), ac eithrio yn rheoliad 5(2) a pharagraffau 3(4) a 4(1) o Atodlen 1, yw aelod o AaGIC, yn cynnwys y cadeirydd;
ystyr “cadeirydd” (“chair”) yw cadeirydd AaGIC;
ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw—
grŵp comisiynu clinigol a sefydlir o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(2),
Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig wedi ei gyfansoddi o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3),
Addysg Iechyd Lloegr,
yr Awdurdod Ymchwil Iechyd,
Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,
y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal,
Bwrdd Iechyd Lleol,
ymddiriedolaeth GIG a sefydlir neu a barheir o dan adran 18 o’r Ddeddf neu a sefydlir o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,
ymddiriedolaeth sefydledig GIG,
Addysg GIG yr Alban,
Asiantaeth Hyfforddiant Meddygol a Deintyddol Gogledd Iwerddon;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yw gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o’r Ddeddf.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys