Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg a Gwella Iechyd Cymru 2017

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 909 (Cy. 221)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau Addysg a Gwella Iechyd Cymru 2017

Gwnaed

11 Medi 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Medi 2017

Yn dod i rym

5 Hydref 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1)a pharagraffau 3(3) a (4), 5 a 13 o Atodlen 5 iddi, ac ar ôl ymgynghori yn unol â pharagraff 4(1) o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg a Gwella Iechyd Cymru 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Hydref 2017.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “AaGIC” (“HEIW”) yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru a sefydlir gan Orchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017(2);

ystyr “aelod” (“member”), ac eithrio yn rheoliad 5(2) a pharagraffau 3(4) a 4(1) o Atodlen 1, yw aelod o AaGIC, yn cynnwys y cadeirydd;

ystyr “cadeirydd” (“chair”) yw cadeirydd AaGIC;

ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw—

(a)

grŵp comisiynu clinigol a sefydlir o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(3),

(b)

Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig wedi ei gyfansoddi o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(4),

(c)

Addysg Iechyd Lloegr,

(d)

yr Awdurdod Ymchwil Iechyd,

(e)

Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,

(f)

y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal,

(g)

Bwrdd Iechyd Lleol,

(h)

ymddiriedolaeth GIG a sefydlir neu a barheir o dan adran 18 o’r Ddeddf neu a sefydlir o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,

(i)

ymddiriedolaeth sefydledig GIG,

(j)

Addysg GIG yr Alban,

(k)

Asiantaeth Hyfforddiant Meddygol a Deintyddol Gogledd Iwerddon;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yw gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o’r Ddeddf.

Penodi aelodau

3.—(1Penodir aelodau AaGIC fel a ganlyn—

(a)penodir y cadeirydd gan Weinidogion Cymru;

(b)penodir hyd at chwe aelod arall yn ogystal â’r cadeirydd gan Weinidogion Cymru;

(c)penodir y prif weithredwr yn unol â pharagraff (4);

(d)penodir hyd at bedwar aelod arall gan yr aelodau a benodir o dan is-baragraffau (a) a (b).

(2Ni chaniateir i’r aelodau a benodir o dan baragraff (1)(a) a (b) fod yn gyflogeion AaGIC, a chyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “aelodau nad ydynt yn swyddogion”.

(3Cyflogeion AaGIC fydd yr aelodau a benodir o dan baragraff (1)(c) a (d), a chyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “swyddog-aelodau”.

(4Penodir y prif weithredwr gan yr aelodau nad ydynt yn swyddogion ar wahân i’r prif weithredwr cyntaf a benodir gan Weinidogion Cymru.

Cyfnod swydd

4.—(1Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn, mae person yn dal swydd fel aelod nad yw’n swyddog yn unol â thelerau penodiad y person hwnnw.

(2Cyfnod penodiad aelod nad yw’n swyddog yw’r cyfnod hwnnw, nad yw’n hwy na 4 blynedd, a bennir gan Weinidogion Cymru wrth benodi.

(3Mae person sydd wedi bod yn aelod nad yw’n swyddog yn gymwys i gael ei ailbenodi ond ni chaniateir i berson fod yn aelod nad yw’n swyddog am gyfnod cyfan sy’n hwy nag 8 mlynedd.

(4Caiff person ymddiswyddo o’i swydd fel aelod nad yw’n swyddog drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(5Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn, mae person yn dal swydd fel swyddog-aelod yn unol â thelerau penodiad y person hwnnw.

(6Caiff person ymddiswyddo o’i swydd fel swyddog-aelod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i AaGIC.

(7Os yw AaGIC o’r farn nad yw er lles AaGIC neu’r gwasanaeth iechyd i swyddog-aelod barhau i ddal swydd, rhaid i AaGIC derfynu ei benodiad ar unwaith.

Aelodau nad ydynt yn swyddogion – cymhwystra

5.—(1Mae person yn anghymwys i fod yn gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog os yw’r person hwnnw yn cael, neu wedi cael yn y flwyddyn flaenorol, ei gyflogi am dâl gan—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol; neu

(b)ymddiriedolaeth GIG a sefydlir o dan Adran 18 o’r Ddeddf.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person i’w drin fel un sydd wedi ei gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod wedi dal swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog o Fwrdd Iechyd Lleol neu swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol ymddiriedolaeth GIG.

Aelodau nad ydynt yn swyddogion – anghymhwyso

6.—(1Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi, neu rhag dal swydd, fel aelod nad yw’n swyddog pan fo’r person hwnnw yn dod o fewn un neu ragor o baragraffau Atodlen 1.

(2Os yw person wedi cael ei benodi’n aelod nad yw’n swyddog ac yn dod yn anghymwys o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r person hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig ynghylch yr anghymhwysiad.

Aelodau nad ydynt yn swyddogion – trefniadau ar gyfer penodi

7.  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y trefniadau ar gyfer penodi personau’n aelodau yn cymryd i ystyriaeth y cod a gyhoeddir gan Weinidog Swyddfa’r Cabinet sy’n gosod—

(a)yr egwyddorion ar gyfer penodiadau cyhoeddus; a

(b)y canllawiau ar yr ymarferiadau i’w dilyn mewn perthynas â gwneud penodiadau cyhoeddus.

Aelodau nad ydynt yn swyddogion – terfynu cyfnod y penodiad

8.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru derfynu penodiad person yn aelod nad yw’n swyddog ar unwaith os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)nad yw er lles AaGIC neu’r gwasanaeth iechyd i’r person hwnnw barhau i ddal y swydd; neu

(b)bod y person wedi ei anghymhwyso o dan reoliad 6 rhag dal y swydd neu ei fod wedi ei anghymhwyso adeg ei benodiad.

(2Mae Gweinidogion Cymru yn terfynu penodiad person o dan baragraff (1) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw.

(3Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod person, ar adeg penodiad y person yn aelod nad yw’n swyddog, wedi ei anghymhwyso o dan reoliad 6, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)datgan na chafodd y person ei benodi’n briodol; a

(b)hysbysu’r person yn ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw.

(4Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod person sydd wedi ei benodi’n aelod nad yw’n swyddog wedi dod yn anghymwys o dan reoliad 6 ers y penodiad, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r person yn ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw.

(5Os yw person wedi cael hysbysiad o dan baragraff (2), (3) neu (4), mae cyfnod penodiad y person wedi ei derfynu gydag effaith ar unwaith ac mae’r person i beidio â gweithredu fel aelod.

Aelodau nad ydynt yn swyddogion – atal dros dro o’r swydd

9.—(1Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro aelod nad yw’n swyddog o’i swydd tra eu bod yn ystyried a ddylent derfynu penodiad y person hwnnw o dan reoliad 8.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r penderfyniad i atal person dros dro ac mae’r ataliad dros dro yn cymryd effaith pan gaiff y person yr hysbysiad.

(3Caniateir i’r hysbysiad—

(a)cael ei ddanfon â llaw, ac os felly, trinnir bod yr aelod wedi ei gael pan gaiff ei ddanfon; neu

(b)cael ei anfon drwy’r post dosbarth cyntaf i gyfeiriad post hysbys diwethaf y person, ac os felly, trinnir bod y person wedi ei gael ar y trydydd diwrnod ar ôl y diwrnod pan gaiff ei bostio.

(4Ni chaniateir i’r cyfnod cychwynnol o atal dros dro fod yn hwy na 6 mis.

(5Caiff Gweinidogion Cymru adolygu’r ataliad dros dro ar unrhyw adeg.

(6Caiff Gweinidogion Cymru adolygu’r ataliad dros dro os ydynt yn cael cais ysgrifenedig gan y person i wneud hynny, ond nid oes rhaid iddynt gynnal adolygiad os yw cyfnod o lai na 3 mis wedi mynd heibio ers dechrau’r cyfnod cychwynnol o atal dros dro.

(7Yn dilyn adolygiad, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)dirymu’r ataliad dros dro; neu

(b)atal y person dros dro am gyfnod arall nad yw’n hwy na 6 mis ar ôl i’r cyfnod presennol ddod i ben.

(8Rhaid i Weinidogion Cymru ddirymu’r ataliad dros dro os ydynt yn penderfynu ar unrhyw adeg—

(a)nad oes sail dros derfynu penodiad person o dan reoliad 8; neu

(b)bod sail o’r fath ond nid yw Gweinidogion Cymru â’u bryd ar derfynu penodiad y person o dan y darpariaethau hynny.

Penodi is-gadeirydd

10.—(1Caiff yr aelodau benodi un o’r aelodau nad ydynt yn swyddogion, ac eithrio’r cadeirydd, i fod yn is-gadeirydd am unrhyw gyfnod, nad yw’n hwy na gweddill cyfnod y person hwnnw yn aelod, a bennir ganddynt wrth benodi.

(2Caiff aelod a benodir o dan baragraff (1) ymddiswyddo ar unrhyw adeg o swydd yr is-gadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cadeirydd neu, os yw swydd y cadeirydd yn wag, i’r aelodau.

(3Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os yw rheoliad 11 yn gymwys.

Penodi is-gadeirydd pan fo’r cadeirydd wedi ei atal dros dro

11.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r cadeirydd wedi ei atal dros dro o dan reoliad 9.

(2Os yw is-gadeirydd wedi cael ei benodi o dan reoliad 10(1), mae’r penodiad hwnnw yn peidio â chael effaith.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ailbenodi’r person a grybwyllir ym mharagraff (2) neu benodi aelod arall nad yw’n swyddog i fod yn is-gadeirydd.

(4Rhaid i benodiad is-gadeirydd o dan baragraff (3) fod am gyfnod nad yw’n hwy na’r cyfnod byrraf o’r canlynol—

(a)y cyfnod y mae’r cadeirydd wedi ei atal dros dro ar ei gyfer; neu

(b)gweddill cyfnod penodiad yr aelod nad yw’n swyddog yn aelod.

(5Pan fo’r cyfnod y mae aelod wedi cael ei benodi’n is-gadeirydd ar ei gyfer yn dod i ben, caiff Gweinidogion Cymru ailbenodi’r aelod yn is-gadeirydd neu benodi aelod arall nad yw’n swyddog yn is-gadeirydd.

(6Caiff person a benodir o dan baragraff (3) neu (5) ymddiswyddo, ar unrhyw adeg, o swydd yr is-gadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(7Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad person yn is-gadeirydd o dan baragraff (3) neu (5) os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl y byddai er lles pennaf AaGIC i aelod arall nad yw’n swyddog fod yn is-gadeirydd.

(8Os yw—

(a)person yn ymddiswyddo o swydd is-gadeirydd o dan baragraff (6); neu

(b)Gweinidogion Cymru yn terfynu penodiad person yn is-gadeirydd o dan baragraff (7),

caiff Gweinidogion Cymru benodi aelod arall nad yw’n swyddog yn is-gadeirydd o dan baragraff (3).

Pwerau’r is-gadeirydd

12.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)os yw’r cadeirydd wedi ei atal dros dro o dan reoliad 9 ac mae aelod nad yw’n swyddog wedi ei benodi i fod yn is-gadeirydd o dan reoliad 11; neu

(b)os yw aelod nad yw’n swyddog wedi ei benodi i fod yn is-gadeirydd o dan reoliad 10 ac—

(i)mae swydd y cadeirydd yn wag am unrhyw reswm; neu

(ii)nid yw’r cadeirydd yn gallu cyflawni dyletswyddau’r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw reswm arall.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)mae’r is-gadeirydd i weithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes bod y cadeirydd presennol yn ailafael yn nyletswyddau’r cadeirydd (yn ôl y digwydd); a

(b)mae cyfeiriadau yn Atodlen 2 at y cadeirydd, tra nad oes cadeirydd ar gael i gyflawni dyletswyddau’r cadeirydd, i gael eu cymryd i gynnwys cyfeiriadau at yr is-gadeirydd.

Penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau

13.—(1Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, caiff AaGIC benodi pwyllgorau AaGIC, ac os yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo hynny, rhaid iddo wneud hynny.

(2Caiff pwyllgor i AaGIC gynnwys aelodau o AaGIC yn gyfan gwbl neu’n rhannol, neu bersonau nad ydynt yn aelodau o AaGIC yn gyfan gwbl.

(3Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru neu gan AaGIC, caiff pwyllgor a benodir o dan y rheoliad hwn benodi is-bwyllgorau, ac os yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo hynny, rhaid iddo wneud hynny.

(4Caiff is-bwyllgor i AaGIC gynnwys aelodau pwyllgor (boed yn aelodau o AaGIC neu beidio) yn gyfan gwbl neu’n rhannol, neu bersonau nad ydynt yn aelodau o AaGIC neu bwyllgor yn gyfan gwbl.

(5Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, mae rheoliad 6 yn gymwys i benodi aelodau pwyllgorau ac is-bwyllgorau fel y mae yn gymwys i benodi aelodau AaGIC.

Trefniadau ar gyfer arfer swyddogaethau

14.  Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, caiff AaGIC wneud trefniadau ar gyfer arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gan bwyllgor neu is-bwyllgor a benodir o dan reoliad 13, neu gan swyddog AaGIC, ac ym mhob achos yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a’r amodau hynny y gwêl AaGIC yn dda.

Cyfarfodydd a thrafodion

15.—(1Rhaid cynnal cyfarfodydd a thrafodion AaGIC yn unol â’r rheolau a nodir yn Atodlen 2 ac yn unol â rheolau sefydlog a wneir o dan y rheoliad hwn.

(2Rhaid i AaGIC wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoli ei drafodion a’i fusnes, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer atal dros dro bob un neu unrhyw un neu ragor o’r rheolau sefydlog.

(3Caiff AaGIC amrywio, dirymu ac ail-wneud ei reolau sefydlog.

(4Caiff AaGIC wneud, amrywio a dirymu rheolau sefydlog sy’n ymwneud â chworwm, trafodion a lleoliad cyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor i AaGIC.

(5O ran rheolau sefydlog AaGIC neu bwyllgor neu is-bwyllgor—

(a)rhaid iddynt gael eu gwneud yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru; a

(b)maent yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn ac unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Adroddiadau

16.—(1Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i AaGIC—

(a)llunio adroddiad blynyddol ynghylch sut y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno; a

(b)anfon copi o’r adroddiad hwnnw at Weinidogion Cymru cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol honno.

(2Rhaid i AaGIC—

(a)cyflwyno unrhyw adroddiadau eraill i Weinidogion Cymru yn y modd ac ar yr adeg a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru; a

(b)darparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani o bryd i’w gilydd.

Cyfrifon

17.  Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i AaGIC—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â’r cyfrifon hynny; a

(b)llunio datganiad o gyfrifon;

yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Datgelu buddiant ariannol

18.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo gan aelod fuddiant ariannol, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall a’i fod yn bresennol mewn cyfarfod o AaGIC lle y mae’r contract, y contract arfaethedig neu’r mater arall yn cael ei ystyried.

(2Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r rheoliad hwn, pan fo paragraff (1) yn gymwys mewn cysylltiad ag aelod, rhaid i’r aelod, yn y cyfarfod a chyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r cyfarfod gychwyn, ddatgelu’r buddiant a rhaid iddo beidio â chymryd rhan wrth ystyried neu drafod y contract, y contract arfaethedig neu’r mater arall na phleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad ag ef.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i’r amodau hynny y gwelant yn dda eu gosod, ddatgymhwyso gofyniad a osodir gan baragraff (2) os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod er lles y gwasanaeth iechyd i wneud hynny.

(4Caiff AaGIC, drwy reolau sefydlog a wneir o dan reoliad 15(2), ddarparu ar gyfer gwahardd aelod o gyfarfod o AaGIC tra bo unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall y mae gan yr aelod fuddiant ariannol ynddo, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, o dan ystyriaeth.

(5Nid yw unrhyw dâl, digollediad neu lwfansau sy’n daladwy i aelod yn rhinwedd paragraff 2 o Atodlen 5 i’r Ddeddf (tâl a lwfansau) yn fuddiant ariannol at ddibenion y rheoliad hwn.

(6Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (7), rhaid trin yr aelod at ddibenion y rheoliad hwn fel pe bai ganddo fuddiant ariannol anuniongyrchol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall—

(a)os yw’r aelod yn gyfarwyddwr i gwmni neu gorff arall y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef neu y mae ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol yn y mater arall sydd o dan ystyriaeth; neu

(b)os yw’r aelod yn bartner i berson, neu’n cael ei gyflogi gan berson, y gwnaed y contract ag ef, neu y bwriedir gwneud y contract ag ef neu y mae ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol yn y mater arall sydd o dan ystyriaeth, ac yn achos dau unigolyn sy’n cyd-fyw fel cwpl (boed yn briod neu mewn partneriaeth sifil neu beidio) cymerir bod buddiant un person, os yw’n hysbys i’r llall, at ddiben y rheoliad hwn yn fuddiant i’r llall hefyd.

(7Nid yw aelod i gael ei drin fel pe bai ganddo fuddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall a hynny dim ond oherwydd—

(a)aelodaeth o gwmni neu gorff arall os nad oes gan yr aelod fuddiant llesiannol yng ngwarannau’r cwmni neu’r corff arall; neu

(b)buddiant mewn cwmni, corff neu berson y mae’r aelod yn gysylltiedig ag ef fel y crybwyllir ym mharagraff (6) sydd mor bell neu ddi-nod fel na ellir yn rhesymol farnu ei fod yn debygol o ddylanwadu ar yr aelod wrth ystyried neu drafod unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad â’r contract, y contract arfaethedig neu’r mater arall, neu wrth bleidleisio arno.

(8Pan—

(a)bo gan aelod fuddiant ariannol anuniongyrchol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall a hynny dim ond oherwydd buddiant llesiannol yng ngwarannau cwmni neu gorff arall;

(b)na fo cyfanswm gwerth enwol y gwarannau yn fwy na £5,000 neu ganfed ran o gyfanswm gwerth enwol y cyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd gan y cwmni neu’r corff, pa un bynnag yw’r lleiaf, ac

(c)os yw’r cyfalaf cyfranddaliadau yn perthyn i fwy nag un dosbarth, na fo cyfanswm gwerth enwol y cyfranddaliadau yn unrhyw un dosbarth y mae gan y person fuddiant llesiannol ynddo yn fwy na chanfed ran o gyfanswm y cyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd yn y dosbarth hwnnw,

nid yw’r rheoliad hwn yn gwahardd yr aelod rhag cymryd rhan wrth ystyried neu drafod y contract, y contract arfaethedig neu’r mater arall, neu rhag pleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad ag ef, ond, o dan amgylchiadau o’r fath rhaid i’r aelod serch hynny ddatgan ei fuddiant.

(9Mae’r rheoliad hwn yn gymwys, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru—

(a)i bwyllgor neu is-bwyllgor fel y mae’n gymwys i AaGIC; a

(b)i aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor (pa un a yw’r person yn aelod o AaGIC ai peidio) fel y mae’n gymwys i aelod o AaGIC.

(10Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfranddaliadau” (“shares”) yw cyfranddaliadau yng nghyfalaf cyfranddaliadau cwmni neu gorff arall neu yn stoc cwmni neu gorff arall;

ystyr “gwarannau” (“securities”) yw—

(a)

cyfranddaliadau neu ddyledebau, pa un a ydynt yn arwystl ar asedau cwmni neu gorff arall ai peidio, neu hawl neu fuddiant mewn cyfranddaliad neu ddyledeb; neu

(b)

hawl (boed yn wirioneddol neu’n amodol) mewn cysylltiad ag arian a fenthycwyd i gymdeithas ddiwydiannol neu ddarbodus neu gymdeithas adeiladu, neu arian a adneuwyd gyda hi.

Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

11 Medi 2017

YR ATODLENNI

Rheoliad 6

ATODLEN 1ANGHYMHWYSO

Euogfarnau troseddol

1.—(1Mae’r person wedi ei euogfarnu o fewn y cyfnod o 5 mlynedd yn union cyn dyddiad y penodiad arfaethedig, neu ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y swydd yn cael ei euogfarnu—

(a)yn y Deyrnas Unedig o unrhyw drosedd; neu

(b)y tu allan i’r Deyrnas Unedig o drosedd a fyddai, pe bai wedi ei chyflawni yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, yn drosedd yn y rhan honno;

ac, yn y naill achos neu’r llall, canlyniad terfynol yr achos oedd dedfryd o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod o ddim llai na 3 mis heb yr opsiwn o dalu dirwy.

(2At ddibenion y paragraff hwn, bernir mai’r dyddiad euogfarnu yw’r dyddiad y mae’r cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais mewn cysylltiad â’r euogfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o’r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y rhoddir y gorau i’r apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y mae’r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu’r dyddiad y mae’r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.

Methdaliad

2.—(1Mae’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn cyfyngu methdaliad interim neu wedi gwneud gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr.

(2Pan fo person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1)—

(a)os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai’r person fod wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu’n llawn, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar ddyddiad y diddymiad;

(b)os caiff person ei ryddhau o fethdaliad, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar ddyddiad y rhyddhau;

(c)os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar y dyddiad y telir y dyledion hynny yn llawn; a

(d)os, ar ôl gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, mae cyfnod o 5 mlynedd wedi dod i ben o’r dyddiad y cyflawnwyd telerau y compównd neu’r trefniant, mae’r person yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod.

Diswyddo o gorff gwasanaeth iechyd

3.—(1Mae’r person wedi cael ei ddiswyddo, ac eithrio am fod y swydd wedi ei dileu, o unrhyw gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd o fewn y cyfnod o 5 mlynedd yn union cyn dyddiad y penodiad arfaethedig neu’n ystod ei gyfnod fel aelod.

(2Caiff person sydd wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1), ar ôl i gyfnod o 2 flynedd ddod i ben o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu’r anghymhwysiad.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais person o dan is-baragraff (2), ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn i gyfnod o 2 flynedd ddod i ben gan ddechrau â dyddiad cais diwethaf y person.

(4At ddiben y paragraff hwn, nid yw person i’w drin fel un sydd wedi ei gyflogi am dâl a hynny dim ond oherwydd ei fod—

(a)yn achos corff gwasanaeth iechyd nad yw’n ymddiriedolaeth GIG neu’n ymddiriedolaeth sefydledig GIG (ac eithrio grŵp comisiynu clinigol), yn gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog o’r corff;

(b)yn achos ymddiriedolaeth GIG, yn gadeirydd neu’n gyfarwyddwr anweithredol i’r ymddiriedolaeth;

(c)yn achos ymddiriedolaeth sefydledig GIG, yn gadeirydd, yn llywodraethwr neu’n gyfarwyddwr anweithredol i’r ymddiriedolaeth; neu

(d)yn achos grŵp comisiynu clinigol, yn gadeirydd neu’n aelod o’r corff llywodraethu.

(5Yn is-baragraff (4)(a), ystyr “aelod nad yw’n swyddog” yw aelod o’r corff gwasanaeth iechyd nad yw’n cael ei gyflogi gan y corff.

Terfynu aelodaeth o gorff gwasanaeth iechyd

4.—(1Mae—

(a)aelodaeth y person fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd wedi ei therfynu, ac eithrio am fod y swydd wedi ei dileu, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu’r corff gwasanaeth iechyd, neu oherwydd bod cyfnod y swydd y penodwyd y person amdano wedi dod i ben; neu

(b)y person wedi ei symud o’i swydd fel cadeirydd neu aelod o gorff llywodraethu grŵp comisiynu clinigol.

(2Os yw person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1), bydd yr anghymhwysiad yn peidio â chael effaith pan ddaw 2 flynedd i ben gan ddechrau ar y dyddiad y terfynir y cyfnod penodiad neu unrhyw gyfnod hwy a bennwyd gan y corff a derfynodd aelodaeth y person.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt gan y person a anghymhwyswyd, leihau cyfnod yr anghymhwysiad a grybwyllir yn is-baragraff (2).

Anghymhwysiad yn dod i ben

5.  Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i ddileu anghymhwysiad o dan baragraff 3 neu pan fo cyfnod anghymhwysiad wedi dod i ben o dan baragraff 4, nid yw’r person wedi ei anghymwyso bellach at ddibenion yn Atodlen hon.

Rheoliad 15(1)

ATODLEN 2RHEOLAU AR GYFER CYFARFODYDD A THRAFODION AaGIC

1.  Rhaid i gyfarfodydd AaGIC gael eu cynnal ar ddiwrnod ac mewn man a bennir gan y cadeirydd, a’r cadeirydd sy’n gyfrifol am gynnull y cyfarfod.

2.—(1Caiff y cadeirydd alw cyfarfod o AaGIC ar unrhyw adeg.

(2Os cyflwynir cais am gyfarfod, a hwnnw wedi ei lofnodi gan draean o leiaf o gyfanswm yr aelodau, i’r cadeirydd a bod y cadeirydd naill ai—

(a)yn gwrthod galw cyfarfod; neu

(b)heb wrthod y cais, yn methu â galw cyfarfod o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno iddo,

caiff yr aelodau hynny alw am i gyfarfod gael ei gynnal ar unwaith.

(3Yn is-baragraff (2), ystyr “cyfanswm yr aelodau” yw cyfanswm yr aelodau ac eithrio’r cadeirydd ac unrhyw aelod sydd wedi ei atal dros dro am y tro o dan reoliad 9.

3.—(1Cyn pob cyfarfod, ac eithrio cyfarfod a elwir o dan baragraff 2(2), rhaid i hysbysiad o’r cyfarfod gael ei ddanfon at bob aelod, neu gael ei anfon drwy’r post i gyfeiriad hysbys diwethaf pob aelod o leiaf 10 niwrnod clir cyn dyddiad y cyfarfod.

(2Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1)—

(a)pennu’r prif fusnes y bwriedir ei drafod yn y cyfarfod, a

(b)cael ei lofnodi gan y cadeirydd neu gan swyddog a awdurdodir gan y cadeirydd i lofnodi ar ran y cadeirydd.

(3Nid yw trafodion cyfarfod yn cael eu hannilysu gan fethiant i ddanfon hysbysiad o’r fath i aelod.

(4Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r cadeirydd yn meddwl ei bod yn angenrheidiol galw cyfarfod heb roi hysbysiad.

4.—(1Yng nghyfarfod cyntaf AaGIC rhaid i’r cadeirydd lywyddu.

(2Mewn cyfarfod o AaGIC (ac eithrio ei gyfarfod cyntaf) bydd y cadeirydd, neu yn absenoldeb y cadeirydd, yr is-gadeirydd (os oes un ac os yw’n bresennol) yn llywyddu.

(3Mewn cyfarfod o AaGIC (ac eithrio ei gyfarfod cyntaf) os yw’r cadeirydd ac unrhyw is-gadeirydd yn absennol, bydd unrhyw aelod arall nad yw’n swyddog sy’n bresennol a ddewisir gan yr aelodau eraill sy’n bresennol at y diben yn llywyddu.

5.  Mae pob cwestiwn mewn cyfarfod yn cael ei benderfynu gan fwyafrif pleidleisiau’r aelodau sy’n bresennol a thrwy bleidleisio ar y cwestiwn ac, os yw’r pleidleisiau yn gyfartal, mae gan y person sy’n llywyddu ail bleidlais a phleidlais fwrw.

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) ac i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, ni chaniateir i unrhyw fusnes gael ei drin mewn cyfarfod oni bai bod chwe aelod yn bresennol.

(2Rhaid i’r prif weithredwr fod yn bresennol mewn cyfarfod o AaGIC y mae aelodau eraill sy’n swyddogion AaGIC yn cael eu penodi ynddo.

7.—(1Rhaid llunio cofnodion o drafodion cyfarfod a rhaid iddynt gael eu llofnodi yn y cyfarfod nesaf sy’n dilyn gan y person sy’n llywyddu yn y cyfarfod.

(2Rhaid i enwau’r aelodau sy’n bresennol mewn cyfarfod gael eu cofnodi yn y cofnodion.

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth a gweithdrefnau Addysg a Gwella Iechyd Cymru (“AaGIC”). Mae AaGIC yn Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlir o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gan Orchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017.

Yn benodol, mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer penodi a chyfnod swydd y cadeirydd, y prif weithredwr ac aelodau eraill o AaGIC (rheoliadau 3 a 4), ar gyfer cymhwystra ac anghymhwyso aelodau (rheoliadau 5 a 6), ar gyfer trefniadau penodi (rheoliad 7) ac ar gyfer terfynu penodiad aelodau nad ydynt yn swyddogion a’u hatal dros dro (rheoliadau 8 a 9).

Hefyd, mae darpariaeth wedi ei chynnwys sy’n ymwneud â phenodi a phwerau is-gadeirydd (rheoliadau 10, 11 a 12) a phenodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau ac arfer swyddogaethau ganddynt (rheoliadau 13 a 14). Gwneir darpariaeth hefyd mewn perthynas â chynnal trafodion (rheoliad 15 ac Atodlen 2), i’w gwneud yn ofynnol i AaGIC gadw cyfrifon a chyflwyno adroddiadau i Weinidogion Cymru (rheoliadau 16 a 17) ac mewn perthynas â datgelu buddiant ariannol (rheoliad 18).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill