Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 1142 (Cy. 284)

Ystadegau Swyddogol, Cymru

Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017

Gwnaed

22 Tachwedd 2017

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 6(1)(b) a (2) o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007(1).

Yn unol ag adran 6(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Bwrdd Ystadegau.

Yn unol ag adran 65(7) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 23 Tachwedd 2017.

Dirymu

2.  Mae Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013(2) wedi ei ddirymu.

Ystadegau swyddogol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r ystadegau a gynhyrchir, neu sydd i gael eu cynhyrchu, gan y personau a restrir yn yr Atodlen yn ystadegau swyddogol at ddiben Rhan 1 o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.

(2Nid yw ystadegau swyddogol yn y Gorchymyn hwn yn cynnwys ystadegau sydd â’r ystyr a roddir yn adran 6(1)(a) o’r Ddeddf honno.

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cy

22 Tachwedd 2017

Erthygl 3

YR ATODLEN

  • Awdurdod Cyllid Cymru

  • Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

  • Comisiynydd Plant Cymru

  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

  • Comisiynydd y Gymraeg

  • Corff Adnoddau Naturiol Cymru

  • Cyngor Celfyddydau Cymru

  • Cyngor Chwaraeon Cymru

  • Cyllid Cymru

  • Cymwysterau Cymru

  • Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

  • Gofal Cymdeithasol Cymru

  • Hybu Cig Cymru

  • Partneriaeth Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre

  • Y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys

  • Trafnidiaeth Cymru

  • Uned Ddata Cymru

  • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru

  • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod yr ystadegau a gynhyrchir, neu sydd i gael eu cynhyrchu, gan y personau a restrir yn yr Atodlen yn ystadegau swyddogol at ddiben Rhan 1 o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 (“y Ddeddf”). Mae Rhan 1 yn sefydlu’r Bwrdd Ystadegau sy’n gyfrifol am hyrwyddo a diogelu arferion da o ran casglu ac asesu ystadegau swyddogol. Diffinnir “official statistics” yn adran 6(1) o’r Ddeddf ac mae’n cynnwys, yn is-adran (1)(b)(iii), ystadegau a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

Mae adran 6(2) o’r Ddeddf yn darparu y caiff gorchymyn a wneir o dan is-adran (1)(b) bennu disgrifiad o’r ystadegau a gynhyrchir neu’r person sy’n eu cynhyrchu.

Nid yw ystadegau swyddogol a gynhyrchir gan bersonau a restrir yn yr Atodlen yn cynnwys ystadegau a gynhyrchir gan y Bwrdd Ystadegau, adrannau’r llywodraeth, gweinyddiaethau datganoledig neu unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ran y Goron.

Ni luniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Gorchymyn hwn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill