- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru A Lloegr
Gwnaed
24 Chwefror 2016
Yn dod i rym
1 Mai 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 55(1)(c) a 59 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn hwylus at ddibenion darpariaethau’r Ddeddf honno, neu o ganlyniad i ddarpariaethau’r Ddeddf honno, wneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 55(2) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 a deuant i rym ar 1 Mai 2016.
2. Yn adran 33N(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(2) yn lle’r diffiniad o “course of study” rhodder—
““course of study” means a course of education or training that—
leads to a form of qualification or set of forms of qualification approved under Part 4 of the Qualifications Wales Act 2015 or designated under Part 5 of that Act, or
is designated by the Welsh Ministers under section 34(8) of that Act;”.
3. Yn adran 97 o Ddeddf Addysg 2002(3) yn lle’r diffiniad o “course of study” rhodder—
““course of study” means a course of education or training that—
leads to a form of qualification or set of forms of qualification approved under Part 4 of the Qualifications Wales Act 2015 or designated under Part 5 of that Act, or
is designated by the Welsh Ministers under section 34(8) of that Act;”.
4. Ym mharagraff 1(1)(b) o Ran 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992(4), fel y mae’n gymwys o ran Cymru, yn lle is-baragraff (iii) rhodder—
“(iii)a qualification which is awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
5. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994(5), fel y mae’n gymwys o ran Cymru, yn lle’r diffiniad o “approved relevant qualification” rhodder—
““approved relevant qualification” is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
6. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994(6) yn lle’r diffiniad o “approved relevant qualification” rhodder—
““approved relevant qualification” is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
7. Yn rheoliad 22 o Reoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999(7), o fewn y diffiniad o “educational qualification” yn lle paragraff (f) rhodder—
“(f)a qualification which has been awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
8. Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn rheoliad 3, dileer y diffiniad o “cymhwyster perthnasol”;
(b)yn rheoliad 5(2) yn lle is-baragraff (dd) rhodder—
“(da)Cymwysterau Cymru;
(dd)unrhyw gorff a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 fel corff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru;”;
(c)yn rheoliad 5(5) yn is-baragraff (d) dileer “ac”; a
(d)yn rheoliad 5(5) ar y diwedd mewnosoder —
“; ac
(e)unrhyw gwrs astudio sy’n arwain at gymhwyster (ac eithrio un o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) neu (d) uchod) a ddarperir i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol os yw—
(i)y ffurf ar gymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ati wedi ei chymeradwyo o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu wedi ei dynodi o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu
(ii)y cwrs wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.”
9. Ar ddiwedd rheoliad 3(5) o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Lloegr) 2009(9) ychwaneger—
“(x)Qualifications Wales.”
10. Mae rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009(10) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)yn y diffiniad o “NQF” hepgorer y geiriau o “sy’n cynnwys cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd;
(b)yn y diffiniad o “QCF” hepgorer y geiriau o “sef cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd; ac
(c)yn y diffiniadau o “lefel NQF” a “lefel QCF” hepgorer “perthnasol”.
11. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009(11) yn lle’r diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” rhodder—
“mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.
12. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011(12)—
(a)yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”; a
(b)yn y diffiniad o “FfCC” hepgorer y geiriau o “a ffurfir gan gymwysterau” hyd at y diwedd.
13. Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011(13) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”;
(b)yn y diffiniad o “FfCC” hepgorer y geiriau o “a ffurfir gan gymwysterau” hyd at y diwedd; ac
(c)yn y diffiniad o “lefel FfCC” hepgorer “perthnasol”.
14.—(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn y lle priodol mewnosoder—
““rhif cymeradwyo” (“approval number”) yw’r rhif a ddyrennir i gymhwyster gan Gymwysterau Cymru o dan adran 22(3) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.
(3) Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” rhodder—
“mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.
(4) Ym mharagraff 3 yn Rhan 1 o Atodlen 3, yn lle is-baragraffau (d) ac (dd) rhodder—
“(d)y dyddiad dyfarnu;
(dd)y rhif cymhwyster (os oes rhif); ac
(e)y rhif cymeradwyo (os oes rhif).”
(5) Yn lle paragraff 6 yn Rhan 2 o Atodlen 3, yn lle is-baragraffau (d) ac (dd) rhodder—
“(d)y dyddiad dyfarnu;
(dd)y rhif cymhwyster (os oes rhif); ac
(e)y rhif cymeradwyo (os oes rhif).”
15. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013(15) yn lle’r diffiniad o “cwrs astudio” rhodder—
“ystyr “cwrs astudio” yw cwrs astudio addysg neu hyfforddiant—
sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster neu set o ffurfiau ar gymhwyster a gymeradwywyd o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu a ddynodwyd o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu
sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o’r Ddeddf honno;”.
16. Ym mharagraff 13 o Ran 2 o’r Atodlen i Reoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013(16) yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)in relation to Wales, is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
17. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013(17) yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol” yn lle ““relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder ““cymhwyster” yn adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”.
18. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014(18) yn y diffiniad o “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”.
19. Yn rheoliad 3 o Reoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015(19) yn y diffiniad o “further education course” ym mharagraff (b) yn lle is-baragraffau (ii), (iii) a (iv) rhodder—
“(ii)is funded by a local authority, or
(iii)leads to a qualification awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
20. Yn Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 2015(20)—
(a)ym mharagraff 1(18) o Ran 1 dileer “and”; a
(b)ar ddiwedd paragraff 1(19) ychwaneger—
“; and
(20) Qualifications Wales.”
21. Mae erthygl 13 o Orchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015(21) wedi ei dirymu.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (“Deddf 2015”). Mae Rhan 2 o Ddeddf 2015 yn sefydlu Cymwysterau Cymru ac yn nodi ei brif nodau.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau mewn deddfwriaeth er mwyn adlewyrchu’r system newydd ar gyfer rheoleiddio cymwysterau y darperir ar ei chyfer yn Neddf 2015.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, o ganlyniad i ddarpariaethau Deddf 2015, neu at ddibenion darpariaethau’r Ddeddf honno, sef Rhan 2 (sefydlu a phrif nodau Cymwysterau Cymru), Rhan 3 (cydnabod cyrff dyfarnu), Rhan 6 (darpariaeth bellach sy’n berthnasol i gydnabod, cymeradwyo a dynodi) ac adran 56 (dehongli cyfeiriadau at “cymhwyster”) o Ddeddf 2015 ac Atodlen 3 (darpariaeth bellach ynghylch cydnabod cyrff dyfarnu) ac Atodlen 4 (diwygiadau canlyniadol) iddi.
Mae gan Gymwysterau Cymru (sydd wedi ei sefydlu gan adran 2 o’r Ddeddf) swyddogaethau cydnabod cyrff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru (Rhan 3) a rheoleiddio cyrff o’r fath drwy amodau cydnabod (adran 36 ac Atodlen 3). Mae adran 34 yn ymdrin â chymwysterau y caniateir iddynt gael eu defnyddio ar gyrsiau penodol sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus, sydd, yn gyffredinol, yn eu cyfyngu i ffurfiau ar gymhwyster sydd naill ai wedi eu cymeradwyo gan Gymwysterau Cymru (o dan Ran 4) neu wedi eu dynodi ganddo (o dan Ran 5). Mae Atodlen 4 yn diwygio Rhan 5 o Ddeddf Addysg 1997 a Rhan 5 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2000 p. 21. Mewnosodwyd adran 33N gan adran 35 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1). Mae diwygiadau eraill i adran 33N nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
2002 p. 32. Mewnosodwyd y diffiniad o “course of study” yn adran 97 gan adran 1(1) a (2) o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.
O.S. 1992/548. Mae paragraff 1(1)(b) wedi ei ddiwygio o ran Cymru gan O.S. 2010/2448, erthygl 2.
O.S. 1994/651. Mewnosodwyd y diffiniad o “approved relevant qualification” yn rheoliad 2 o ran Cymru gan O.S. 2010/2431, rheoliad 2(a). Mae diwygiadau eraill i reoliad 2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 1994/652. Mewnosodwyd y diffiniad o “approved relevant qualification” yn rheoliad 2 o ran Cymru gan O.S. 2010/2431, rheoliad 3(a). Mae diwygiadau eraill i reoliad 2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 1999/2864. Mewnosodwyd y diffiniad o “educational qualification” yn rheoliad 22 gan O.S. 2010/1203, rheoliadau 2 a 6(b). Mae diwygiadau eraill i reoliad 22 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 2007/3562 (Cy. 312). Mewnosodwyd y diffiniad o “cymhwyster perthnasol” yn rheoliad 3 ac is-baragraffau (d) - (f) o reoliad 5(2) gan O.S. 2011/2325, rheoliad 2(1), (2)(c) a (3)(a). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 2009/1563. Mae diwygiadau i reoliad 3 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 2009/3256 (Cy. 284). Diwygiwyd y diffiniadau o “NQF” a “lefel NQF” a mewnosodwyd y diffiniadau o “QCF” a “lefel QCF” gan O.S. 2010/2431, rheoliad 8(a).
O.S. 2009/3355 (Cy. 294). Mewnosodwyd y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn rheoliad 2 gan O.S. 2010/2431, rheoliad 9(a). Mae diwygiad arall i reoliad 2 nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 2011/1943 (Cy. 210). Mae diwygiad nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 2011/1963 (Cy. 217). Mae diwygiad nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 2015/621. Mae diwygiadau i reoliad 3 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys