- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2015, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 8 Ionawr 2016.
2. Diwygir Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013(1) yn unol â rheoliadau 3 i 7.
3.—(1) Yn rheoliad 6 (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder——
““ystyr “daliad a randdirymwyd” (“derogated holding”) yw daliad y mae gan randdirymiad effaith drosto”;
“ystyr “rhanddirymiad” (“derogation”) yw rhanddirymiad a roddir o dan Ran 3A o derfyn y cyfanswm o nitrogen mewn tail da byw y gellir ei ddodi ar dir bob blwyddyn yn unol â pharagraff 2(b) o Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC a Phenderfyniad y Comisiwn 2013/781/EU(2)”
“ystyr “cais i randdirymu” (“derogation application”) yw cais am randdirymiad”;
(2) yn y diffiniad “cynllun gwrteithio” ar ôl y geiriau “reoliad 14(1)(c)” mewnosoder—
““neu gynlluniau eraill cyffelyb sy’n ofynnol o dan Atodlen 5.”.
4. Ar ddechrau paragraff (1) o reoliad 12 (dodi tail da byw – y terfyn mewn perthynas â chyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad) mewnosoder “Ac eithrio pan fo’r meddiannydd wedi cael rhanddirymiad,”.
5. Ar ôl Rhan 3 (Cyfyngu ar ddodi tail organig), mewnosoder—
13A.—(1) (1)Caiff meddiannydd unrhyw ddaliad neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd (“y ceisydd”) wneud cais i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru am randdirymiad pan cafodd 80% neu fwy o’r ardal amaethyddol ei hau â phorfa.
(2) Mae’n rhaid i gais o dan y rheoliad hwn gynnwys gydag ef ddatganiad ysgrifenedig yn datgan y bydd y meddiannydd yn bodloni’r amodau a nodir yn Atodiad 5.
(3) Rhaid i gais i randdirymu gael ei gyflwyno erbyn 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr o flaen honno y gwneir y cais ar ei chyfer.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r dull a’r ffurf y mae’n rhaid i’r cais gael ei wneud ynddynt.
(5) Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ganiatáu neu wrthod cais i randdirymu cyn gynted ag y bo’n ymarferol a hysbysu’r ceisydd o’r penderfyniad yn ysgrifenedig ac, os bydd Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn gwrthod cais i randdirymu, rhaid iddo ar yr un pryd roi rhesymau dros wrthod.
(6) Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru wrthod cais i randdirymu pan fo o’r farn y byddai caniatáu rhanddirymiad yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd—
(a)safle Ewropeaidd; neu
(b)safle morol alltraeth Ewropeaidd,
pan fo’r safleoedd hynny wedi bod yn ddarostyngedig i asesiad priodol o dan reoliad 61 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(3).
(7) Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi gwrthod caniatáu’r cais i randdirymu, caiff y ceisydd apelio yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 13B.
(8) Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru (yn ddarostyngedig i baragraff (8)) wrthod y cais os canfu bod y meddiannydd wedi torri amodau’r rhanddirymiad yn ystod y flwyddyn galendr o flaen honno y mae’r cais yn berthnasol iddi.
(9) Os canfu bod y meddiannydd wedi torri amodau’r rhanddirymiad ar ôl dyddiad y cais ond cyn i benderfyniad gael ei wneud (a chyn y flwyddyn galendr y mae’r cais yn berthnasol iddi), caiff Corff Adnoddau Naturiol Cymru, gan ystyried difrifoldeb y drosedd, ddewis caniatáu neu wrthod y cais.
(10) Os canfu bod y meddiannydd wedi torri amodau’r rhanddirymiad ar ôl i’r cais gael ei ganiatáu (ond cyn y flwyddyn galendr y mae’r cais yn berthnasol iddi), caiff Corff Adnoddau Naturiol Cymru, gan ystyried difrifoldeb y drosedd, ddirymu’r rhanddirymiad drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd cyn y flwyddyn galendr y caniatawyd y cais ar ei chyfer.
(11) Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn caniatáu cais mewn achos yn unol â pharagraff (8) neu’n penderfynu peidio â dirymu rhanddirymiad mewn achos yn unol â pharagraff (9), rhaid iddo wrthod y cais nesaf a wneir o dan reoliad 13A gan neu ar ran y meddiannydd.
(12) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyrir bod person wedi torri amodau’r rhanddirymiad os—
(a)yw’r person wedi ei gollfarnu o drosedd o dan reoliad 49 sy’n deillio o dorri’r amodau hynny ac naill ai na chaiff apêl pellach ei gwneud yn erbyn y gollfarn, neu lle gwnaed apêl, aeth y penderfyniad yn erbyn y person;
(b)yw’r person wedi derbyn rhybudd syml am drosedd o’r fath.
(13) Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi caniatáu’r cais i randdirymu, rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ddynodi’r daliad y mae’r rhanddirymiad yn gymwys ar ei gyfer yn ddaliad a randdirymwyd am y flwyddyn galendr y gwnaed y cais ar ei chyfer.
(14) Rhaid i’r meddiannydd gadw cofnod o’r cais i randdirymu a’r penderfyniad.
(15) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “safle morol alltraeth Ewropeaidd” yw safle morol alltraeth Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 15 (ystyr safle morol alltraeth Ewropeaidd) o Reoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 2007(4); a
(b)ystyr “safle Ewropeaidd” yw safle Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.
13B.—(1) Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi gwrthod cais i randdirymu, caiff y ceisydd drwy hysbysiad apelio yn erbyn y penderfyniad i banel annibynnol a benodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn gael ei chyflwyno o fewn 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau drannoeth dyddiad y gwrthod.
(3) Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn gael ei gwneud yn y dull a’r ffurf a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i’r panel a gaiff ei benodi o dan y rheoliad hwn gynnwys odrif o bersonau (a rhaid iddo gynnwys o leiaf dri pherson).
(5) Mae penderfyniad gan y panel i’w wneud drwy fwyafrif syml.
(6) Rhaid i’r panel seilio ei benderfyniad ar—
(a)dogfennau a gyflwynwyd iddo gan yr apelydd;
(b)dogfennau a gyflwynwyd iddo gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru; ac
(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol gan yr apelydd neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru y mae’n ei hystyried sy’n angenrheidiol.
(7) At ddibenion paragraff (6)(c), caiff y panel—
(a)gofyn i’r apelydd neu i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ddarparu’r wybodaeth ychwanegol; neu
(b)mewn amgylchiadau eithriadol, gynnal gwrandawiad llafar lle caiff yr apelydd a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru ymddangos.
(8) Os bydd y panel yn caniatáu apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ddynodi’r daliad dan sylw fel daliad a randdirymwyd am y flwyddyn galendr y gwnaed y cais ar ei chyfer.
(9) Ar ôl penderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r panel—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu Corff Adnoddau Naturiol Cymru, yr apelydd a Gweinidogion Cymru o’i benderfyniad yn ysgrifenedig; a
(b)pan fo’n gwrthod yr apêl, rhoi’r rhesymau dros wrthod.
(10) (Rhaid i bob parti mewn apêl o dan y rheoliad hwn ysgwyddo ei gostau ei hun.
13C. Mae Atodlen 5 yn cael effaith mewn perthynas â daliadau a randdirymwyd.”.
6. Ar ôl Atodlen 4 (Y cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), mewnosoder gynnwys yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
7.—(1) Yn rheoliad 101(1)(b) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(5) yn lle “2008” rhodder “2013”.
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
11 Rhagfyr 2015
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys