Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

YR ATODLENNI

Y Rhaglith

ATODLEN 1Darpariaethau sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru a arferir wrth wneud y Rheoliadau hyn

Y deddfiad sy’n rhoi pŵer
Deddf 2014Adrannau 81(6)(d), 83(5) 84, 87, 97(4)(a), 97(5), 98(1)(a), 100(1)(b), 100(2)(a), 102(1), 102(2), 104(2)(c), 104(6), 106(4), 107(7)(c), 107(8), 107(9), 108(6), a 196(2)
Deddf Plant 1989Adrannau 31A a 34(8).

Rheoliad 5

ATODLEN 2Cynlluniau gofal a chymorth

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun iechyd

1.—(1Cyflwr iechyd C gan gynnwys ei iechyd corfforol, geneuol, emosiynol a meddyliol.

(2Hanes iechyd C gan gynnwys, i’r graddau sy’n ymarferol, hanes iechyd teulu C.

(3Effaith iechyd a hanes iechyd C ar ei ddatblygiad.

(4Y trefniadau presennol ar gyfer gofal meddygol a deintyddol C, sy’n briodol i’w anghenion, gan gynnwys—

(a)gwiriadau rheolaidd o gyflwr iechyd cyffredinol C, gan gynnwys iechyd deintyddol;

(b)triniaeth a monitro ar gyfer anghenion iechyd a nodir (gan gynnwys iechyd corfforol ac emosiynol, ac yn enwedig iechyd meddwl) neu anghenion gofal deintyddol;

(c)mesurau ataliol megis brechiadau ac imiwneiddio;

(d)sgrinio am ddiffygion golwg neu glyw; ac

(e)cyngor a chanllawiau ar hybu iechyd a gofal personol effeithiol (gan gynnwys iechyd meddwl a gofal geneuol).

(5Unrhyw newidiadau arfaethedig yn y trefniadau presennol.

(6Rôl y person priodol ac unrhyw berson arall sy’n gofalu am C, mewn hyrwyddo iechyd C.

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun addysg personol

2.—(1Hanes addysgol a hanes hyfforddiant C, gan gynnwys gwybodaeth am sefydliadau addysgol a fynychwyd, a chofnod presenoldeb ac ymddygiad C, ei gyflawniadau academaidd a chyflawniadau eraill; ac anghenion addysgol arbennig C, os oes rhai.

(2Y trefniadau presennol ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys manylion am unrhyw ddarpariaeth addysgol arbennig, ac unrhyw ddarpariaeth arall a wneir i ddiwallu anghenion penodol C o ran addysg neu hyfforddiant, a hyrwyddo ei gyflawniad addysgol.

(3Diddordebau hamdden C.

(4Pan fo angen gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer addysg neu hyfforddiant C, y ddarpariaeth a wnaed i leihau’r amharu ar yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw.

(5Rôl y person priodol ac unrhyw berson arall sy’n gofalu am C o ran hyrwyddo cyflawniadau addysgol C a’i ddiddordebau hamdden.

Perthnasoedd teuluol a chymdeithasol

3.—(1Os oes gan C frawd neu chwaer y darperir llety ar ei gyfer neu ar ei chyfer gan yr awdurdod cyfrifol neu awdurdod arall, ac nad yw’r plant wedi eu lleoli gyda’i gilydd, y trefniadau a wnaed i hyrwyddo cyswllt rhyngddynt, i’r graddau y mae hynny’n gyson â llesiant C.

(2Os yw C yn derbyn gofal gan, ond nid yng ngofal, yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989.

(3Os yw C yn blentyn yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal).

(4Unrhyw drefniadau eraill a wnaed i hyrwyddo a chynnal cyswllt yn unol ag adran 95 o Ddeddf 2014, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol ac yn gyson â llesiant C, rhwng C ac—

(a)unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; a

(b)unrhyw berson cysylltiedig arall.

(5Pan fo adran 98(1) o Ddeddf 2014 (ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal) yn gymwys, y trefniadau a wnaed i benodi ymwelydd annibynnol ar gyfer C neu, os yw adran 98(6) o’r Ddeddf honno’n gymwys (ymwelydd annibynnol heb ei benodi pan fo’r plentyn yn gwrthwynebu), y ffaith honno.

Rheoliad 10

ATODLEN 3Materion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun lleoli

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yng nghynllun lleoli C

1.—(1Sut y gofelir am C o ddydd i ddydd ac y diogelir a hyrwyddir llesiant C gan y person priodol.

(2Unrhyw drefniadau a wnaed ar gyfer cyswllt rhwng C ac unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a rhwng C a phersonau cysylltiedig eraill gan gynnwys, os yw’n briodol—

(a)y rhesymau pam na fyddai cyswllt ag unrhyw berson o’r fath yn rhesymol ymarferol neu na fyddai’n gyson â llesiant C,

(b)os nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989,

(c)os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf 1989,

(d)y trefniadau a wnaed ar gyfer hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau yn y trefniadau ar gyfer cyswllt.

(3Y trefniadau a wnaed ar gyfer gofal iechyd (gan gynnwys iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a deintyddol C, gan gynnwys—

(a)enw a chyfeiriad ymarferydd cyffredinol ac ymarferydd deintyddol cofrestredig C, ac os yw’n gymwys, unrhyw ymarferydd cyffredinol neu ymarferydd deintyddol cofrestredig y bwriedir cofrestru C gydag ef ar ôl ei leoli,

(b)unrhyw drefniadau ar gyfer rhoi neu atal cydsyniad ar gyfer archwiliad neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol i C.

(4Y trefniadau a wnaed ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys—

(a)enw a chyfeiriad unrhyw ysgol y mae C yn ddisgybl cofrestredig ynddi,

(b)enw’r person dynodedig ar gyfer disgyblion sy’n derbyn gofal yn yr ysgol honno (os yw’n gymwys); enw a chyfeiriad unrhyw sefydliad addysgol arall a fynychir gan C, neu unrhyw berson arall sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C,

(c)pan fo gan C ddatganiad anghenion addysgol arbennig, manylion am yr awdurdod addysg lleol sy’n cynnal y datganiad.

(5Y trefniadau a wnaed i R ymweld ag C yn unol â Rhan 5, amlder yr ymweliadau a’r trefniadau a wnaed i roi cyngor a chymorth arall ar gael i C rhwng ymweliadau yn unol â rheoliad 34.

(6Os penodir ymwelydd annibynnol, y trefniadau a wnaed i’r person hwnnw ymweld ag C.

(7Yr amgylchiadau pan ganiateir terfynu’r lleoliad a symud C ymaith o ofal y person priodol yn unol â rheoliad 15.

(8Enw a manylion cyswllt y canlynol—

(a)yr SAA;

(b)ymwelydd annibynnol C (os penodwyd un);

(c)R; a

(d)os yw C yn berson ifanc categori 1, y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C.

Gwybodaeth ychwanegol sydd i’w chynnwys pan leolir C gyda P

2.—(1Cofnod o’r canlynol—

(a)yr asesiad o addasrwydd P i ofalu am C, gan gynnwys ystyriaeth o’r materion a nodir yn Atodlen 4,

(b)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C a safbwyntiau, dymuniadau a theimladau unrhyw berson arall y ceisir ei safbwyntiau gan yr awdurdod cyfrifol,

(c)penderfyniad yr awdurdod cyfrifol i leoli C gyda P.

(2Manylion am y cymorth a’r gwasanaethau sydd i’w darparu i P yn ystod y lleoliad.

(3Y rhwymedigaeth ar P i hysbysu’r awdurdod cyfrifol ynghylch unrhyw newid perthnasol yn yr amgylchiadau, gan gynnwys unrhyw fwriad i newid cyfeiriad, unrhyw newid ar yr aelwyd lle y mae C yn byw, ac unrhyw ddigwyddiad difrifol sy’n ymwneud ag C.

(4Y rhwymedigaeth ar P i sicrhau bod unrhyw wybodaeth mewn perthynas ag C neu mewn perthynas â theulu C neu unrhyw berson arall, a roddir yn gyfrinachol i P mewn cysylltiad â’r lleoliad, yn cael ei chadw’n gyfrinachol, ac na chaiff gwybodaeth o’r fath ei datgelu i unrhyw berson heb gydsyniad yr awdurdod cyfrifol.

(5Yr amgylchiadau pan fydd angen cael caniatâd yr awdurdod cyfrifol ymlaen llaw er mwyn i C fyw ar aelwyd ac eithrio aelwyd P.

(6Y trefniadau ar gyfer gofyn am newid yn y cynllun lleoli.

(7Yr amgylchiadau pan gaiff y lleoliad ei derfynu yn unol â rheoliad 20(c)(ii).

Gwybodaeth ychwanegol sydd i’w chynnwys pan leolir C gydag F, mewn cartref plant neu mewn trefniadau eraill

3.—(1Cofnod o benderfyniad yr awdurdod cyfrifol o dan reoliad 23(2).

(2Y math o lety sydd i’w ddarparu, y cyfeiriad, ac, os lleolir C mewn trefniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014, enw’r person a fydd yn gyfrifol am C yn y llety hwnnw ar ran yr awdurdod cyfrifol (os oes person o’r fath).

(3Pan fo—

(a)gan yr awdurdod cyfrifol bryderon amddiffyn plant sy’n ymwneud ag C, neu hysbysir yr awdurdod ynghylch pryderon o’r fath, neu

(b)C wedi mynd ar goll o’r lleoliad, neu o unrhyw leoliad blaenorol,

y trefniadau beunyddiol a sefydlwyd gan y person priodoli i gadw C yn ddiogel.

(4Hanes personol, argyhoeddiad crefyddol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol, cyfeiriadedd rhywiol a tharddiad hiliol C.

(5Pan fo C yn derbyn gofal ond nid yng ngofal yr awdurdod cyfrifol—

(a)cyfnod parhad disgwyliedig y trefniadau a’r camau y dylid eu cymryd i ddwyn y trefniadau i ben, gan gynnwys trefniadau i C ddychwelyd i fyw gyda rhieni C neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; a

(b)pan fo C yn 16 oed neu’n hŷn ac yn cytuno i lety gael ei ddarparu iddo o dan adran 76 o Ddeddf 2014, y ffaith honno.

(6Priod gyfrifoldebau’r awdurdod cyfrifol, rhieni C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C.

(7Unrhyw ddirprwyo o ran yr awdurdod i wneud penderfyniadau ynghylch gofal a magwraeth C gan y personau a grybwyllir yn is-baragraff (6) (fel y bo’n briodol) i—

(a)yr awdurdod cyfrifol,

(b)F, ac

(c)pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, y person priodol,

mewn perthynas â’r materion a nodir yn is-baragraff (8), ac yn nodi unrhyw faterion yr mae’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (6), yn ystyried y caiff C wneud penderfyniad yn eu cylch.

(8Y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (7) yw—

(a)triniaeth feddygol a deintyddol,

(b)addysg,

(c)hamdden a bywyd cartref,

(d)ffydd a defodau crefyddol,

(e)defnyddio cyfryngau cymdeithasol,

(f)unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan y personau a grybwyllir yn is-baragraff (6).

(9Trefniadau’r awdurdod cyfrifol ar gyfer cymorth ariannol i C yn ystod y lleoliad.

(10Pan leolir C gydag F, y rhwymedigaeth ar F i gydymffurfio â thelerau’r cytundeb gofal maeth a wnaed o dan reoliad 28(5)(b) o’r Rheoliadau Maethu neu reoliad 27(5)(b) o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011.

Rheoliad 18

ATODLEN 4Materion sydd i’w cymryd i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd P i ofalu am C

1.  Mewn cysylltiad â P—

(a)gallu P i ofalu am blant ac, yn benodol mewn perthynas ag C, i—

(i)darparu ar gyfer anghenion corfforol C a gofal meddygol a deintyddol priodol,

(ii)amddiffyn C yn ddigonol rhag niwed neu berygl, gan gynnwys rhag unrhyw berson sy’n peri risg o niwed i C,

(iii)sicrhau bod amgylchedd y cartref yn ddiogel ar gyfer C,

(iv)sicrhau y diwellir anghenion emosiynol C, a meithrinir ynddo hunan-ymdeimlad cadarnhaol, gan gynnwys unrhyw anghenion penodol sy’n tarddu o argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol C, ac unrhyw anabledd y gallai fod ganddo,

(v)hyrwyddo dysgu a datblygiad deallusol C drwy annog, symbylu yn wybyddol, a hyrwyddo llwyddiant addysgol a chyfleoedd cymdeithasol,

(vi)galluogi C i reoli ei emosiynau a’i ymddygiad, gan gynnwys drwy fodelu ymddygiad a dulliau priodol o ryngweithio ag eraill, a

(vii)darparu amgylchedd teuluol sefydlog er mwyn galluogi C i ddatblygu a chynnal ymlyniadau diogel gyda P a phersonau eraill sy’n darparu gofal i C;

(b)cyflwr iechyd P gan gynnwys—

(i)iechyd corfforol P,

(ii)iechyd emosiynol P,

(iii)iechyd meddwl P,

(iv)hanes meddygol P,

(v)unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol o ran trais domestig,

(vi)unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau,

a pherthnasedd neu amherthnasedd unrhyw ffactorau o’r fath o ran gallu P i ofalu am blant, a gofalu am C yn benodol;

(c)perthnasoedd teuluol P a chyfansoddiad ei aelwyd, gan gynnwys manylion am—

(i)enwau pob aelod arall o’r aelwyd, gan gynnwys eu hoedrannau a natur eu perthynas â P ac â’i gilydd, gan gynnwys unrhyw berthynas rywiol,

(ii)unrhyw berthynas gydag unrhyw berson sy’n rhiant C (pa un a yw’n byw ar yr un aelwyd â P ai peidio),

(iii)oedolion eraill, nad ydynt yn aelodau o’r aelwyd, sy’n debygol o fod mewn cyswllt rheolaidd ag C, a

(iv)unrhyw drais domestig presennol neu flaenorol rhwng aelodau o’r aelwyd, gan gynnwys P;

(d)hanes teuluol P, gan gynnwys—

(i)manylion am blentyndod a magwraeth P, gan gynnwys cryfderau ac anawsterau rhieni P neu bersonau eraill a fu’n gofalu am P,

(ii)y berthynas rhwng P a’i rieni ac unrhyw frodyr neu chwiorydd, a’u perthynas â’i gilydd,

(iii)cyflawniad addysgol P ac unrhyw anhawster neu anabledd dysgu penodol,

(iv)rhestr gronolegol o ddigwyddiadau bywyd arwyddocaol, a

(v)manylion am berthnasau eraill a’r perthnasoedd rhyngddynt ag C a P;

(e)manylion am unrhyw droseddau y collfarnwyd P amdanynt neu y cafodd P rybuddiad mewn cysylltiad â hwy;

(f)cyflogaeth flaenorol a phresennol P a’i ffynonellau eraill o incwm; ac

(g)natur y gymdogaeth y lleolir cartref P ynddi, a’r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned i gynorthwyo C a P.

2.  Mewn cysylltiad ag aelodau o’r aelwyd sy’n 18 oed a throsodd, yr holl fanylion i’r graddau y bo’n ymarferol, a bennir ym mharagraff 1 ac eithrio is-baragraffau (d), (f) ac (g).

Rheoliad 26

ATODLEN 5Materion sydd i’w cymryd i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd person cysylltiedig i ofalu am C

1.  Mewn cysylltiad â’r person cysylltiedig—

(a)natur ac ansawdd unrhyw berthynas gyfredol ag C;

(b)ei allu i ofalu am blant ac, yn benodol mewn perthynas ag C i—

(i)darparu ar gyfer anghenion corfforol ac emosiynol C a sicrhau y caiff C ofal meddygol a deintyddol priodol,

(ii)amddiffyn C yn ddigonol rhag niwed neu berygl, gan gynnwys rhag unrhyw berson sy’n peri risg o niwed i C,

(iii)sicrhau bod y llety a’r amgylchedd cartref yn addas o ystyried oedran a lefel datblygiad C,

(iv)hyrwyddo dysgu a datblygiad C, a

(v)darparu amgylchedd teuluol sefydlog a fydd yn hyrwyddo ymlyniadau diogel ar gyfer C, gan gynnwys hyrwyddo cyswllt cadarnhaol gyda P a phersonau cysylltiedig eraill, oni fyddai gwneud hynny’n anghyson â’r ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo llesiant C;

(c)cyflwr ei iechyd, gan gynnwys cyflwr presennol ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol a’i hanes meddygol, gan gynnwys unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol o ran trais domestig, camddefnyddio sylweddau neu broblemau iechyd meddwl;

(d)ei berthnasoedd teuluol a chyfansoddiad ei aelwyd, gan gynnwys manylion o’r canlynol—

(i)enwau pob aelod arall o’r aelwyd, gan gynnwys eu hoedrannau a natur eu perthynas â’r person cysylltiedig ac â’i gilydd, gan gynnwys unrhyw berthynas rywiol,

(ii)unrhyw berthynas gydag unrhyw berson sy’n rhiant C,

(iii)unrhyw berthynas rhwng C ac aelodau eraill o’r aelwyd,

(iv)oedolion eraill, nad ydynt yn aelodau o’r aelwyd, sy’n debygol o fod mewn cyswllt rheolaidd ag C, a

(v)unrhyw drais domestig presennol neu flaenorol rhwng aelodau o’r aelwyd, gan gynnwys y person cysylltiedig;

(e)ei hanes teuluol, gan gynnwys—

(i)manylion am ei blentyndod a’i fagwraeth, gan gynnwys cryfderau ac anawsterau ei rieni a phersonau eraill a fu’n gofalu amdano,

(ii)y perthnasoedd rhyngddo â’i rieni ac unrhyw frodyr neu chwiorydd, a’u perthnasaoedd â’i gilydd,

(iii)ei gyflawniad addysgol ac unrhyw anhawster neu anabledd dysgu penodol,

(iv)rhestr gronolegol o ddigwyddiadau bywyd arwyddocaol, a

(v)manylion am berthnasau eraill a’r perthnasoedd rhyngddynt ag C a’r person cysylltiedig;

(f)manylion am unrhyw droseddau y’i collfarnwyd amdanynt neu y cafodd rybuddiad mewn cysylltiad â hwy;

(g)ei gyflogaeth flaenorol a phresennol a’i ffynonellau eraill o incwm; ac

(h)natur y gymdogaeth y lleolir ei gartref ynddi, a’r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned i gynorthwyo C a’r person cysylltiedig.

2.  Mewn cysylltiad ag aelodau o’r aelwyd sy’n 18 oed a throsodd, yr holl fanylion i’r graddau y bo’n ymarferol, a bennir ym mharagraff 1 ac eithrio is-baragraffau (e), (f) ac (g).

Rheoliad 29

ATODLEN 6Cytundeb gydag asiantaeth faethu annibynnol mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau’r awdurdod cyfrifol

1.  Rhaid i’r cytundeb gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)y gwasanaethau sydd i’w darparu i’r awdurdod cyfrifol gan y person cofrestredig,

(b)y trefniadau ar gyfer dethol F gan yr awdurdod cyfrifol o blith y rhai a gymeradwyir gan y person cofrestredig,

(c)gofyniad bod y person cofrestredig yn cyflwyno adroddiadau i’r awdurdod cyfrifol ar unrhyw leoliadau fel y bo’n ofynnol gan yr awdurdod cyfrifol, a

(d)y trefniadau ar gyfer terfynu’r cytundeb.

2.  Pan fo’r cytundeb yn ymwneud â phlentyn penodol, rhaid iddo hefyd gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)manylion F,

(b)manylion am unrhyw wasanaethau y mae C i’w cael, a pha un ai’r awdurdod cyfrifol neu’r person cofrestredig sydd i ddarparu’r gwasanaethau hynny,

(c)telerau’r cytundeb lleoli arfaethedig (gan gynnwys ynglŷn â thalu),

(d)y trefniadau ar gyfer cadw cofnodion ynglŷn ag C ac ar gyfer dychwelyd cofnodion ar ddiwedd y lleoliad,

(e)gofyniad bod y person cofrestredig yn hysbysu’r awdurdod cyfrifol ar unwaith os digwydd unrhyw bryderon ynghylch y lleoliad, ac

(f)pa un a ganiateir lleoli plant eraill gydag F, ac ar ba sail y caniateir hynny.

Rheoliad 30

ATODLEN 7Materion sydd i’w hystyried cyn lleoli C mewn llety mewn lle nas rheoleiddir o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014

1.  Mewn cysylltiad â’r llety—

(a)y cyfleusterau a’r gwasanaethau a ddarperir,

(b)ei gyflwr,

(c)ei ddiogelwch,

(d)ei leoliad,

(e)y cymorth,

(f)y statws tenantiaeth, ac

(g)yr ymrwymiadau ariannol sy’n gysylltiedig ar gyfer C a’u fforddiadwyedd.

2.  Mewn cysylltiad ag C—

(a)ei safbwyntiau ynglŷn â’r llety,

(b)ei ddealltwriaeth o’i hawliau a’i gyfrifoldebau mewn perthynas â’r llety, a

(c)ei ddealltwriaeth o’r trefniadau cyllido.

Rheoliad 41

ATODLEN 8Ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C

1.  Effaith unrhyw newid yn amgylchiadau C ers yr adolygiad blaenorol, yn enwedig unrhyw newid yng nghynllun gofal a chymorth C a wnaed gan yr awdurdod cyfrifol, pa un a weithredwyd yn llwyddiannus y penderfyniadau a wnaed yn yr adolygiad blaenorol ai peidio, ac os na, y rhesymau am hynny.

2.  A ddylai’r awdurdod cyfrifol geisio unrhyw newid yn statws cyfreithiol C.

3.  A oes cynllun ar gyfer sefydlogrwydd i C.

4.  Y trefniadau ar gyfer cyswllt, ac a oes angen unrhyw newidiadau yn y trefniadau er mwyn hyrwyddo cyswllt rhwng C a P, neu rhwng C a phersonau cysylltiedig eraill.

5.  A yw lleoliad C yn parhau i fod y mwyaf addas sydd ar gael, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, gwneud unrhyw newid yn y cynllun lleoli neu mewn unrhyw agweddau eraill ar y trefniadau i ddarparu llety i C cyn yr adolygiad nesaf o achos C.

6.  A yw lleoliad C yn diogelu a hyrwyddo ei lesiant, ac a oes unrhyw bryderon wedi eu codi ynglŷn â diogelu.

7.  Anghenion, cynnydd a datblygiad addysgol C, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, er mwyn diwallu anghenion penodol C a hyrwyddo cyflawniad addysgol C, gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer addysg a hyfforddiant C cyn yr adolygiad nesaf o’i achos, gan ystyried cyngor unrhyw berson sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C, yn enwedig y person dynodedig mewn unrhyw ysgol lle mae C yn ddisgybl cofrestredig.

8.  Diddordebau hamdden C.

9.  Adroddiad yr asesiad diweddaraf o gyflwr iechyd C, a gafwyd yn unol â rheoliad 7, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer gofal iechyd C cyn yr adolygiad nesaf o’i achos, gan ystyried y cyngor a gafwyd gan unrhyw weithiwr proffesiynol gofal iechyd ers dyddiad yr adroddiad hwnnw, yn enwedig ymarferydd cyffredinol C.

10.  A ddiwellir anghenion C ai peidio mewn perthynas â’i hunaniaeth, ac a oes angen gwneud unrhyw newid penodol gan ystyried argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol C.

11.  A yw’r trefniadau a wnaed yn unol â rheoliad 34 yn parhau i fod yn briodol, ac a yw C yn eu deall.

12.  A oes angen gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer yr amser pan na fydd C yn derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol.

13.  Dymuniadau a theimladau C, a safbwyntiau’r SAA, ynghylch unrhyw agwedd ar yr achos, ac yn benodol unrhyw newidiadau y mae’r awdurdod cyfrifol wedi eu gwneud ers yr adolygiad diwethaf, neu’n bwriadu eu gwneud, yng nghynllun gofal a chymorth C.

14.  Pan fo rheoliad 31(3) yn gymwys, amlder ymweliadau R.

15.  Pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol, canfod a yw C ac F yn bwriadu gwneud trefniant byw ôl-18.

16.  Os yw paragraff 15 yn gymwys ac os yw C yn dymuno gwneud trefniant o’r fath ond nid yw F yn dymuno hynny, ystyried a ddylid lleoli C gyda rhiant maeth awdurdod lleol gwahanol, er mwyn hwyluso gwneud trefniant o’r fath pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.

17.  Pan fo C yn dod o fewn rheoliad 5(1)(f), pa un a yw anghenion C o ganlyniad i’r statws hwnnw yn cael eu diwallu ai peidio.

Rheoliad 51

ATODLEN 9Materion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun llwybr

1.  Enw cynghorydd personol C.

2.  Natur a lefel y cyswllt a’r cymorth personol sydd i’w ddarparu i C, a chan bwy.

3.  Manylion am y llety a feddiennir gan C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.

4.  Pan fo C yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18, manylion am y cyngor a’r cymorth a ddarperir gan yr awdurdod cyfrifol i hwyluso a chynorthwyo C wrth wneud trefniant o’r fath.

5.  Y cynllun ar gyfer addysg neu hyfforddiant parhaus C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.

6.  Y modd y bydd yr awdurdod cyfrifol yn cynorthwyo C i gael cyflogaeth neu weithgaredd pwrpasol arall neu alwedigaeth.

7.  Y cymorth a ddarperir i alluogi C i ddatblygu a chynnal perthnasoedd teuluol a chymdeithasol priodol.

8.  Rhaglen i ddatblygu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd ar C eu hangen i fyw yn annibynnol.

9.  Y cymorth ariannol a ddarperir i alluogi C i ddiwallu costau llety a chostau cynnal.

10.  Anghenion gofal iechyd C, gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd corfforol, emosiynol neu feddyliol a’r modd y diwellir yr anghenion hyn pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.

11.  Cynlluniau wrth gefn yr awdurdod cyfrifol ar gyfer gweithredu os digwydd i’r cynllun llwybr, am unrhyw reswm, beidio â bod yn effeithiol.

Rheoliadau 5 a 58

ATODLEN 10Materion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun lleoli dan gadwad

1.  Sut y gofelir am C o ddydd i ddydd ac y diogelir a hyrwyddir ei lesiant gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol bod C yn preswylio ynddo neu ynddi.

2.  Unrhyw drefniadau ar gyfer cyswllt rhwng C ac unrhyw riant C neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a rhwng C ac unrhyw berson cysylltiedig arall, gan gynnwys, os yw’n briodol—

(a)y rhesymau pam na fyddai cyswllt ag unrhyw berson o’r fath yn rhesymol ymarferol neu na fyddai’n gyson â llesiant C,

(b)os nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989,

(c)y trefniadau ar gyfer hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau yn y trefniadau ar gyfer cyswllt.

3.  Y trefniadau a wnaed er mwyn i R ymweld ag C yn unol â Rhan 5, amlder y cyfryw ymweliadau a’r trefniadau a wnaed ar gyfer rhoi cyngor a chymorth arall ar gael i C rhwng ymweliadau yn unol â rheoliad 34.

4.  Os penodir ymwelydd annibynnol, y trefniadau a wnaed i ymwelydd annibynnol ymweld ag C.

5.  Y trefniadau a wnaed gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer gofal iechyd C (gan gynnwys ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a’i ofal deintyddol.

6.  Y trefniadau a wnaed gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys—

(a)enw a chyfeiriad unrhyw sefydliad addysgol neu sefydliad hyfforddi a fynychwyd gan C, neu unrhyw berson arall a oedd yn darparu addysg neu hyfforddiant i C yn union cyn rhoi C ar remánd neu dan gadwad,

(b)pan fo gan C ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, manylion yr awdurdod lleol (neu awdurdod lleol yn Lloegr) sy’n cynnal y datganiad.

7.  Hanes personol, argyhoeddiad crefyddol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol, cyfeiriadedd rhywiol, a tharddiad hiliol C, a’r trefniant a sefydlwyd gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer diwallu anghenion C ynglŷn â’i hunaniaeth.

8.  Y trefniadau a sefydlwyd gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer cynorthwyo C i ddatblygu sgiliau hunanofal.

9.  Enw a manylion cyswllt—

(a)yr SAA,

(b)yr ymwelydd annibynnol ar gyfer C (os penodwyd un),

(c)R,

(d)os yw C yn berson ifanc categori 1, y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C.

10.  Manylion am y modd y dylai llesiant C gael ei ddiogelu’n ddigonol a’i hyrwyddo pan fo C yn peidio â bod ar remand i LlCI neu dan gadwad, ac yn benodol—

(a)pa un a ddarperir llety i C gan yr awdurdod cyfrifol neu gan awdurdod lleol arall neu gan awdurdod lleol yn Lloegr, a

(b)pa un a ddylai gwasanaethau eraill gael eu darparu gan yr awdurdod cyfrifol neu gan awdurdod lleol arall o dan Ddeddf 2014, neu gan awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer ei ddyletswyddau o dan Ddeddf 1989.

Rheoliad 65

ATODLEN 11Dirymiadau

Mae’r Rheoliadau a nodir yn y Tabl wedi eu dirymu i’r graddau a bennir—

Rheoliadau a ddirymirRhif cyfresolGraddau’r dirymiad
Rheoliadau Cyswllt â Phlant 1991O.S. 1991/891Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Diffinio Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991O.S. 1991/892Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Lleoli Plant gyda Rhieni etc 1991O.S. 1991/893Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Plant (Lleoliadau Byrdymor) (Diwygiadau Amrywiol) 1995O.S. 1995/2015Y Rheoliadau cyfan *
(* mae rheoliad 2 eisoes wedi ei ddirymu o ran Cymru)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill