Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau 3, 9, 10, 11(8) a 15(1)

ATODLEN 1Ffioedd mewn Cysylltiad â Cheisiadau a Cheisiadau Tybiedig am Ganiatâd Cynllunio neu am Gymeradwyaeth ar gyfer Materion a Gadwyd yn ôl

RHAN 1Ffioedd sy’n Daladwy o dan Reoliad 3 neu Reoliad 10

Cyffredinol

1.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau 2 i 9 o’r Rhan hon, cyfrifir y ffi sy’n daladwy o dan reoliad 3 neu reoliad 10 yn unol â’r tabl a nodir yn Rhan 2 a pharagraffau 10 i 13.

(2Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at gategori yn gyfeiriad at gategori o ddatblygiad a bennir yn y tabl a nodir yn Rhan 2; a chyfeiriad at gategori â rhif yn gyfeiriad at y categori o ddatblygiad a rifwyd felly yn y tabl, ac ystyr “categori o ddatblygiad” (“category of development”) yw—

(a)yn achos cais am ganiatâd cynllunio, y categori o ddatblygiad y ceisir caniatâd mewn cysylltiad ag ef; a

(b)yn achos cais am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, y categori o ddatblygiad a ganiateir gan y caniatâd cynllunio amlinellol perthnasol.

(3Yn achos cais tybiedig(1) yn yr Atodlen hon—

(a)rhaid dehongli cyfeiriadau at y datblygiad y mae cais yn ymwneud ag ef fel cyfeiriadau at y defnydd o dir neu’r gweithrediadau (yn ôl y digwydd) y mae’r hysbysiad gorfodi perthnasol yn ymwneud â hwy;

(b)rhaid dehongli cyfeiriadau at faint arwynebedd llawr neu nifer y tai annedd a grëir gan y datblygiad fel cyfeiriadau at y maint arwynebedd llawr neu’r nifer tai annedd y mae’r hysbysiad gorfodi hwnnw yn ymwneud â hwy; ac

(c)rhaid dehongli cyfeiriadau at y dibenion y bwriedir defnyddio arwynebedd llawr ar eu cyfer fel cyfeiriadau at y dibenion y datganwyd bod yr arwynebedd llawr i’w ddefnyddio ar eu cyfer yn yr hysbysiad gorfodi.

Ffioedd mewn achosion penodol

2.  Pan fo cais neu gais tybiedig wedi ei wneud neu y tybir iddo gael ei wneud, gan neu ar ran cyngor cymuned, y ffi sy’n daladwy yw hanner y swm a fyddai, fel arall, yn daladwy.

3.—(1Pan fo cais neu gais tybiedig wedi ei wneud neu y tybir iddo gael ei wneud, gan neu ar ran clwb, cymdeithas neu gorff arall (gan gynnwys unrhyw bersonau sy’n gweinyddu ymddiriedolaeth), nas sefydlwyd ac nac yw’n cael ei gynnal er mwyn gwneud elw, ac amcanion y clwb, y gymdeithas neu’r corff hwnnw yw darparu cyfleusterau ar gyfer chwaraeon neu hamdden, a’r amodau a bennir yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, y ffi daladwy yw £385.

(2Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)bod y cais neu’r cais tybiedig yn ymwneud ag—

(i)gwneud newid sylweddol yn y defnydd o dir i’w ddefnyddio fel maes chwarae; neu

(ii)cyflawni gweithrediadau (ac eithrio codi adeilad sy’n cynnwys arwynebedd llawr) at ddibenion sy’n atodol i’r defnydd o dir fel maes chwarae,

ac nid ag unrhyw ddatblygiad arall; a

(b)y bodlonwyd yr awdurdod cynllunio lleol y cyflwynwyd y cais iddo, neu (yn achos cais tybiedig) y bodlonwyd Gweinidogion Cymru, fod y datblygiad i’w gyflawni ar dir a feddiennir, neu y bwriedir ei feddiannu gan y clwb, y gymdeithas neu’r corff a’i ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer cyflawni ei amcanion.

4.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo cais wedi ei wneud am gymeradwyaeth ar gyfer un neu ragor o faterion a gadwyd yn ôl (“y cais cyfredol”); a

(b)pan fo’r ceisydd wedi gwneud cais blaenorol am gymeradwyaeth o’r fath o dan yr un caniatâd cynllunio amlinellol ac wedi talu ffioedd mewn perthynas ag un neu ragor o geisiadau o’r fath; ac

(c)pan nad oes cais wedi ei wneud o dan y caniatâd hwnnw ac eithrio gan neu ar ran y ceisydd.

(2Pan fo’r swm a dalwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (1)(b) yn ddim llai na’r swm a fyddai’n daladwy pe bai’r ceisydd, drwy’r cais cyfredol, yn ceisio cael cymeradwyaeth ar gyfer yr holl faterion a gadwyd yn ôl gan y caniatâd amlinellol (ac mewn perthynas â’r holl ddatblygiad a awdurdodwyd gan y caniatâd), y ffi daladwy mewn cysylltiad â’r cais cyfredol yw £385.

(3Os—

(a)oedd ffi wedi ei thalu fel y crybwyllir yn is-baragraff (1)(b) ar gyfradd is na’r gyfradd sydd mewn bodolaeth ar ddyddiad y cais cyfredol; a

(b)byddai is-baragraff (2) yn gymwys pe bai’r ffi honno wedi ei thalu ar y gyfradd sydd yn gymwys ar y dyddiad hwnnw,

y ffi mewn cysylltiad â’r cais cyfredol yw £385.

5.  Pan wneir cais yn unol ag adran 73 o Ddeddf 1990 (penderfynu ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd yn flaenorol)(2) y ffi daladwy yw £190.

6.  Pan fo cais yn ymwneud â datblygiad y mae adran 73A o Ddeddf 1990 (caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a gyflawnwyd eisoes)(3) yn gymwys iddo, y ffi daladwy yw—

(a)pan fo’r cais yn ymwneud â datblygiad a gyflawnwyd heb ganiatâd cynllunio, y ffi a fyddai’n daladwy pe bai’r cais yn gais am ganiatâd cynllunio i gyflawni’r datblygiad hwnnw;

(b)mewn unrhyw achos arall, £190.

7.  Pan wneir cais am ganiatâd cynllunio ac—

(a)bod caniatâd cynllunio wedi ei roi yn flaenorol ar gyfer datblygiad nad yw eto wedi ei gychwyn; a

(b)bod terfyn amser erbyn pryd y mae’n rhaid cychwyn y datblygiad wedi ei osod gan neu o dan adran 91(4) neu adran 92 o Ddeddf 1990 (amod cyffredinol yn cyfyngu ar barhad caniatâd cynllunio a chaniatâd cynllunio amlinellol) a’r amser hwnnw heb ddod i ben,

y ffi daladwy yw £190.

8.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)ceisydd yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl mewn cysylltiad â datblygu tir (“y tir perthnasol”); a

(b)y tir perthnasol yn pontio’r ffin neu’r ffiniau rhwng ardaloedd dau neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol, ac felly, yn hytrach na gwneud cais i un awdurdod mewn perthynas â’r cyfan o’r datblygiad hwnnw, y gwneir ceisiadau i ddau neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol.

(2Y ffi sy’n daladwy i bob awdurdod cynllunio lleol unigol y gwneir cais iddo yw’r swm taladwy mewn cysylltiad â’r cais sydd i’w benderfynu gan yr awdurdod cynllunio lleol hwnnw.

9.—(1Pan wneir—

(a)cais am ganiatâd cynllunio mewn cysylltiad â dau neu ragor o gynigion amgen ar gyfer datblygu yr un tir; neu

(b)cais am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl mewn cysylltiad â dau neu ragor o gynigion amgen ar gyfer cyflawni’r datblygiad a awdurdodwyd gan ganiatâd cynllunio amlinellol,

a gwneir y cais mewn cysylltiad â’r holl gynigion amgen ar yr un dyddiad a chan neu ar ran yr un ceisydd, cyfrifir y ffi daladwy mewn cysylltiad â’r cais hwnnw yn unol ag is-baragraff (2).

(2Rhaid gwneud cyfrifiadau yn unol â’r Atodlen hon o’r ffi a fyddai’n daladwy mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio, neu gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl (yn ôl y digwydd), fel pe bai cais wedi ei wneud mewn cysylltiad â phob un o’r cynigion amgen, a’r ffi daladwy mewn cysylltiad â’r cais a wnaed yw cyfanswm y canlynol—

(a)swm sy’n hafal i’r swm uwch neu uchaf o’r symiau a gyfrifwyd mewn cysylltiad â phob un o’r cynigion amgen; a

(b)swm a gyfrifir drwy adio’r symiau at ei gilydd sy’n briodol i bob un o’r cynigion amgen ac eithrio’r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (a), a rhannu’r cyfanswm hwnnw gyda 2.

Darpariaethau mewn perthynas â chategorïau penodedig

10.—(1Pan fo’r ffi, mewn cysylltiad ag unrhyw gategori, i gael ei chyfrifo drwy gyfeirio at arwynebedd y safle, rhaid ystyried bod yr arwynebedd hwnnw’n cynnwys—

(a)arwynebedd y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef; neu

(b)yn achos cais tybiedig, arwynebedd y tir y mae’r hysbysiad gorfodi perthnasol yn ymwneud ag ef.

(2Pan nad yw’r arwynebedd y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn lluosrif union o’r uned fesur a bennir mewn cysylltiad â’r categori datblygiad perthnasol, rhaid trin y ffracsiwn o uned sy’n weddill ar ôl rhannu cyfanswm yr arwynebedd gyda’r uned fesur fel pe bai’n uned gyflawn.

11.—(1Mewn perthynas â datblygiad o fewn categorïau 2, 3 neu 4, rhaid canfod yr arwynebedd llawr gros a grëir gan y datblygiad drwy fesur yr arwynebedd llawr yn allanol, pa un a fwriedir iddo gael ei ffinio (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) gan waliau allanol adeilad ai peidio.

(2Mewn perthynas â datblygiad o fewn categori 2, pan fo’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 75 metr sgwâr ac nad yw’n lluosrif union o 75 metr sgwâr, rhaid trin yr arwynebedd sy’n weddill, ar ôl rhannu nifer cyfanswm y metrau sgwâr o arwynebedd llawr gros gyda’r ffigur 75, fel pe bai’n 75 metr sgwâr.

12.—(1Pan fo cais (ac eithrio cais am ganiatâd cynllunio amlinellol) neu gais tybiedig yn ymwneud â datblygiad sy’n rhannol o fewn categori 1 ac yn rhannol o fewn categori 2, 3 neu 4, mae’r is-baragraffau sy’n dilyn yn gymwys at y diben o gyfrifo’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cais neu’r cais tybiedig.

(2Rhaid gwneud asesiad o gyfanswm maint yr arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y rhan honno o’r datblygiad sydd o fewn categori 2, 3 neu 4 (“yr arwynebedd llawr amhreswyl”), a rhaid adio’r swm taladwy mewn cysylltiad â’r arwynebedd llawr amhreswyl sydd i’w greu gan y datblygiad at y swm taladwy mewn cysylltiad â’r rhan honno o’r datblygiad sydd o fewn categori 1, ac, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), y swm a gyfrifir felly yw’r ffi daladwy.

(3At y diben o gyfrifo’r ffi daladwy o dan is-baragraff (2)—

(a)pan fo unrhyw rai o’r adeiladau i gynnwys arwynebedd llawr y bwriedir ei ddefnyddio at y diben o ddarparu mynedfa gyffredin neu wasanaethau neu gyfleusterau cyffredin ar gyfer personau sy’n meddiannu neu’n defnyddio rhan o’r adeilad hwnnw at ddibenion preswyl ac ar gyfer personau sy’n meddiannu neu’n defnyddio rhan ohono at ddibenion amhreswyl (“arwynebedd llawr cyffredin”), rhaid asesu maint yr arwynebedd llawr amhreswyl, mewn perthynas â’r adeilad hwnnw, drwy gynnwys yr un gyfran o’r arwynebedd llawr cyffredin ag y mae maint yr arwynebedd llawr amhreswyl yn yr adeilad yn ei ffurfio o gyfanswm yr arwynebedd llawr gros yn yr adeilad sydd i’w greu gan y datblygiad;

(b)pan fo’r datblygiad yn dod o fewn mwy nag un o’r categorïau 2, 3 a 4, rhaid cyfrifo swm yn unol â phob categori o’r fath, a’r swm uchaf a gyfrifir felly yw’r swm taladwy mewn cysylltiad â’r holl arwynebedd llawr amhreswyl.

(4Pan fo cais neu gais tybiedig y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn ymwneud â datblygiad sydd hefyd o fewn un neu ragor o’r categorïau 5 i 12—

(a)cyfrifir swm yn unol â phob categori o’r fath; a

(b)os oes unrhyw symiau a gyfrifir felly yn fwy na’r swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (2), y swm uwch hwnnw yw’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cyfan o’r datblygiad y mae’r cais neu’r cais tybiedig yn ymwneud ag ef.

(5Yn is-baragraff (3), mae’r cyfeiriad at ddefnyddio’r adeilad at ddibenion preswyl yn gyfeiriad at ei ddefnyddio fel tŷ annedd.

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 12 ac is-baragraff (2), pan fo cais neu gais tybiedig yn ymwneud ag adeilad sydd o fewn mwy nag un o’r categorïau—

(a)cyfrifir swm yn unol â phob categori unigol o’r fath; a

(b)y swm uchaf a gyfrifir felly yw’r ffi daladwy mewn cysylltiad â’r cais neu’r cais tybiedig.

(2Pan fo cais yn gais am ganiatâd cynllunio amlinellol ac yn ymwneud â datblygiad sydd o fewn mwy nag un o’r categorïau, y ffi daladwy yw—

(a)pan nad yw arwynebedd y safle’n fwy na 2.5 hectar, £380 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle;

(b)pan fo arwynebedd y safle’n fwy na 2.5 hectar, £9,500 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 2.5 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £143,750.

RHAN 2Graddfa Ffioedd mewn Cysylltiad â Cheisiadau a Wnaed neu y Tybir iddynt gael eu Gwneud

Categori’r datblygiadFfi daladwy
I Gweithrediadau
1 Codi tai annedd (ac eithrio datblygiad o fewn categori 6 isod)

(a) Pan fo’r cais yn gais am ganiatâd cynllunio amlinellol ac—

(i) nad yw arwynebedd y safle yn fwy na 2.5 hectar, £380 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle,

(ii) bod arwynebedd y safle yn fwy na 2.5 hectar, £9,500 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 2.5 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £143,750;

(b) mewn achosion eraill—

(i) pan fo nifer y tai annedd sydd i’w creu gan y datblygiad yn 50 neu’n llai, £380 am bob tŷ annedd,

(ii) pan fo nifer y tai annedd sydd i’w creu gan y datblygiad yn fwy na 50, £19,000 a £100 ychwanegol am bob tŷ annedd dros 50 o dai annedd, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £287,500.

2 Codi adeiladau (ac eithrio adeiladau yng nghategorïau 1, 3, 4, 5 neu 7).

(a) Pan fo’r cais yn gais am ganiatâd cynllunio amlinellol ac—

(i) nad yw arwynebedd y safle yn fwy na 2.5 hectar, £380 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle,

(ii) bod arwynebedd y safle yn fwy na 2.5 hectar, £9,500 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 2.5 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £143,750;

(b) mewn achosion eraill—

(i) pan nad oes arwynebedd llawr i gael ei greu gan y datblygiad, neu pan nad yw’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 40 metr sgwâr, £190,

(ii) pan fo’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 40 metr sgwâr ond nid yn fwy na 75 metr sgwâr, £380,

(iii) pan fo’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 75 metr sgwâr, £380 am bob 75 metr sgwâr (neu ran o hynny), yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £287,500.

3 Codi, ar dir a ddefnyddir at ddibenion amaethyddiaeth, adeiladau i’w defnyddio at ddibenion amaethyddol (ac eithrio adeiladau yng nghategori 4).

(a) Pan fo’r cais yn gais am ganiatâd cynllunio amlinellol ac—

(i) nad yw arwynebedd y safle yn fwy na 2.5 hectar, £380 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle,

(ii) bod arwynebedd y safle yn fwy na 2.5 hectar, £9,500 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 2.5 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £143,750;

(b) mewn achosion eraill—

(i) pan nad oes arwynebedd llawr i gael ei greu gan y datblygiad, neu pan nad yw’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 465 metr sgwâr, £70,

(ii) pan fo’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 465 metr sgwâr ond nid yn fwy na 540 metr sgwâr, £380,

(iii) pan fo’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 540 metr sgwâr, £380 a £380 ychwanegol am bob 75 metr sgwâr (neu ran o hynny) dros 540 metr sgwâr, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £287,500.

4 Codi tai gwydr ar dir a ddefnyddir at ddibenion amaethyddiaeth.(a) Pan nad yw’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 465 metr sgwâr, £70;
(b) pan fo’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 465 metr sgwâr, £2,150.
5 Codi, addasu neu amnewid peiriannau neu beirianwaith.(a) Pan nad yw arwynebedd y safle yn fwy na 5 hectar, £385 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle;
(b) pan fo arwynebedd y safle yn fwy na 5 hectar, £19,000 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 5 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £287,500.
6 Ehangu neu wella tai annedd presennol, neu eu haddasu rywfodd arall(a) Pan fo’r cais yn ymwneud ag un tŷ annedd, £190;
(b) pan fo’r cais yn ymwneud â 2 neu ragor o dai annedd, £380.

7

(a) cyflawni gweithrediadau (gan gynnwys codi adeilad) o fewn cwrtil tŷ annedd presennol, at ddibenion sy’n atodol i fwynhad o’r tŷ annedd fel y cyfryw, neu godi neu adeiladu llidiardau, ffensys, waliau neu ddulliau cau eraill ar hyd ffin cwrtil tŷ annedd presennol; neu

(b) adeiladu meysydd parcio, ffyrdd gwasanaethu a mynedfeydd eraill ar dir a ddefnyddir at ddibenion menter sengl, pan fo angen y datblygiad at ddiben sy’n gysylltiedig â’r defnydd o dir presennol.

£190 ym mhob achos
8 Cyflawni unrhyw weithrediadau sy’n gysylltiedig â drilio wrth chwilio am olew neu nwy naturiol.(a) Pan nad yw arwynebedd y safle yn fwy na 7.5 hectar, £380 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle;
(b) pan fo arwynebedd y safle yn fwy na 7.5 hectar, £28,500 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 7.5 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £287,500.
9 Cyflawni unrhyw weithrediadau nad ydynt yn dod o fewn unrhyw un o’r categorïau uchod.

(a) Yn achos gweithrediadau ar gyfer cloddio a gweithio mwynau—

(i) pan nad yw arwynebedd y safle yn fwy na 15 hectar, £190 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle,

(ii) pan fo arwynebedd y safle yn fwy na 15 hectar, £28,500 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 15 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £74,800;

(b) mewn unrhyw achos arall, £190 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle, yn ddarostyngedig i uchafswm o £287,500.
II Defnydd o dir
10 Newid y defnydd o adeilad i ddefnydd fel un neu ragor o dai annedd ar wahân

(a) Pan fo’r newid defnydd yn newid o ddefnydd blaenorol fel un tŷ annedd i ddefnydd fel dau neu ragor o dai annedd sengl—

(i) pan fo’r newid defnydd yn newid i ddefnydd fel 50 neu lai o dai annedd, £380 am bob tŷ annedd ychwanegol,

(ii) pan fo’r newid defnydd yn newid i ddefnydd fel mwy na 50 o dai annedd, £19,000 a £100 ychwanegol am bob tŷ annedd dros 50 o dai annedd, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £287,500;

(b) ym mhob achos arall—

(i) pan fo’r newid defnydd yn newid i ddefnydd fel 50 neu lai o dai annedd, £380 am bob tŷ annedd,

(ii) pan fo’r newid defnydd yn newid i ddefnydd fel mwy na 50 o dai annedd, £19,000 a £100 ychwanegol am bob tŷ annedd dros 50 o dai annedd, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £287,500.

11 Defnydd o dir ar gyfer gwaredu sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff neu ar gyfer gollwng deunydd sy’n weddill ar ôl echdynnu mwynau o dir, neu ar gyfer storio mwynau mewn man agored.(a) Pan nad yw arwynebedd y safle yn fwy na 15 hectar, £190 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle;
(b) pan fo arwynebedd y safle yn fwy na 15 hectar, £28,500 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 15 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £74,800.
12 Gwneud newid sylweddol yn y defnydd o adeilad neu dir (ac eithrio newid defnydd sylweddol sy’n dod o fewn unrhyw un o’r categorïau uchod).£380.
(1)

Diffinnir “cais tybiedig” yn rheoliad 10(2).

(2)

Diwygiwyd adran 73 gan adrannau 42 a 120 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a pharagraff 1 o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno. Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Mewnosodwyd adran 73A gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraffau 8 ac 16(1) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.

(4)

Diwygiwyd adran 91 gan adrannau 21 a 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 1 a pharagraffau 8 ac 20 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno. Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill